Celf

RSS Icon
13 Awst 2015

Canolfan Mileniwm Cymru i fywiogi Bae Caerdydd mewn sioe wefreiddiol

Ar ôl blwyddyn o gynllunio a 8 mis o baratoadau, bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno Ar Waith Ar Daith, Siwrnai Hudolus o Chwedlau Cymru - uchafbwynt gwefreiddiol o’i rhaglen dengmlwyddiant wedi’i greu gan gwmni celfyddydau’r awyr agored Walk the Plank.

Yn ddigwyddiad ar raddfa fawr ym Mhlas Roald Dahl sy’n cael ei gynnal ar 12 Medi 2015, bydd Ar Waith Ar Daith yn cyflwyno sioe odidog o orymdeithiau, dawns, artistwaith yn yr awyr, tafluniadau, chwedleua, cerddoriaeth a phyrotechneg.

Am ddim i’w fynychu ac yn addas i’r holl deulu, bydd y digwyddiad bythgofiadwy yma – y cynhyrchiad mwyaf yn yr awyr agored i ddigwydd yng Nghymru’r flwyddyn hon - yn casglu dros 700 o bobl o Gymru benbaladr i gymryd rhan.

Wedi’u denu gan bwerau hudol y gonsurwraig Ceridwen, bydd llynges o gychod o Gymdeithas Rhwyfo Môr Cymru – gyda rhai sydd wedi rhwyfo o Borthmadog yn eu plith – yn cwblhau eu crwydrau ym Mae Caerdydd, gan ymuno â phlant ac ieuenctid o Gaernarfon, Canolbarth Cymru a’r Cymoedd. Shân Cothi fydd yn cymryd mantell Ceridwen a bydd y sioe yn cynnwys cyfansoddiad corol newydd wedi’i berfformio gan Sinfonia Cymru, a’i gyfansoddi gan y cyfansoddwr John Rea. Bydd perfformiadau ar lafar gan blant ysgol o Gaerdydd a Harlech yn ogystal.

Gan ddwyn ysbrydoliaeth o chwedl oesol geni Taliesin, bydd y perfformiad hynod yma yn gweld Canolfan Mileniwm Cymru yn cael ei thrawsnewid drwy ddychymyg torfol, wrth i Ceridwen grefftio a chreu a chymysgu, drwy gymysgu awen Cymru gyfoes gyda thalentau dawnswyr, cerddorion a chantorion.

Dywedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: ‘Mae Ar Waith Ar Daith’ yn mynd ymhellach nag unrhyw beth rydyn ni wedi ei chomisiynu yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o ran maint. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda’r arbenigwyr yng nghelfyddydau’r awyr agored, Walk the Plank drwy gydol y broses gynllunio a chreadigol blwyddyn o hyd. Mae ysbrydoli Cymru gyfan a hyrwyddo creadigrwydd blagurol ein cenedl ymhlith ein prif uchelgeisiau yn y Ganolfan. Mae Ar Waith Ar Daith wedi ymgymryd â’r ymdrech yma gant y cant, gan weithio’n agos gydag artistiaid a chymunedau Cymreig a gwau eu creadigrwydd a’u hysbrydoliaeth yn gain i mewn i’r perfformiad olaf. Rwy’n hynod o gyffrous ar gyfer Medi 12, a does dim amheuaeth na fydd hon yn garreg filltir yn hanes y Ganolfan am ddegawdau.’

Dros y chwe mis diwethaf, mae’r tîm creadigol sydd ynghlwm â’r digwyddiad wedi bod yn casglu anrhegion o ledled Cymru – gan dalu teyrnged i gyfoeth môr Gogledd Cymru, mwynau gwerthfawr De Cymru, a dal straeon ac ysbrydoliaeth o’r wlad gyfan – drwy gyfres o ysgolion hyfforddiant yng nghelfyddydau’r awyr agored i ymarferwyr creadigol Cymru. Bydd yr anrhegion yma yn ffurfio rhan hanfodol ac ysblennydd o’r perfformiad.

Bydd Ar Waith Ar Daith yn digwydd ar Blas Roald Dahl ar Sadwrn 12 Medi am 7.30pm. Dylid cyrraedd yn gynnar i sicrhau man ffafriol i wylio’r sioe, a gwisgo’n addas ar gyfer sioe yn yr awyr agored. Mae’r digwyddiad am ddim ac yn addas i bob oedran.

Darganfyddwch ragor am Ar Waith Ar Daith ar www.arwaithardaith.com, drwy dudalen Facebok Ar Waith Ar Daith ac ar yr hashnod #awen2015

 

Cynhelir Ar Waith Ar Daith gyda chymorth caredig Banc Lloyds, prif noddwr Dengmlwyddiant Canolfan Mileniwm Cymru.

Rhannu |