Celf

RSS Icon
28 Mai 2015

Arddangosfeydd amrywiol yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd

Mae dwy arddangosfa wahanol iawn i’w gweld yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor ar hyn o bryd.

O hyn hyd ddydd Sadwrn, 6 Mehefin 2015, mae arddangosfa ‘Lluniau o’r Gofod Mewnol’ gan yr artist John Charlesworth i’w gweld ym Mangor. Mae’n gasgliad o baentiadau swreal sy’n dangos cymysgedd o hiwmor a phathos. Gwelir ystyriaeth i fanylder a chyfansoddiad yn y gwaith.

Meddai John Charlesworth: “Rwyf wedi aros yn beintiwr ffigurol gan gydnabod bob tro bod tynnu llun a dylunio yn bethau haniaethol yn y bôn.”

Hefyd ar hyn o bryd, mae Amgueddfa ac Oriel Gwynedd yn cynnwys arddangosfa o luniau gwreiddiol ar gyfer stampiau pasbort Llwybr Pererin sydd wedi eu creu gan ddisgyblion ysgolion cynradd Gwynedd a Chonwy a phrintiau o gyrchfannau pererinion o gasgliad Gwasanaeth Archifau Gwynedd.

Crëwyd y gwaith dan arweiniad Eleri Jones, arlunydd preswyl  Prosiect Pasport Llwybr Pererin. Mae pob llun yn cynrychioli nodwedd o’r gwahanol gymunedau boed yn dirwedd, yn fywyd gwyllt neu’n adeilad megis yr eglwys leol.

Mae’r arddangosfa ddiddorol yma hefyd i’w gweld yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor hyd 6 Mehefin 2015.

Mae Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ar agor Mawrth - Gwener 12.30pm - 4.30pm, Sadwrn 10.30am - 4.30pm. Mae mynediad am ddim. Am fanylion pellach, ewch i: www.gwynedd.gov.uk/amgueddfeydd

Llun: Mae gwaith John Charlesworth i’w weld yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ar hyn o bryd

Rhannu |