Celf

RSS Icon
30 Mai 2015

Cystadleuaeth Ddyfrlliwio Cymru yn yr Ardd Fotaneg

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn lansio ei Chystadleuaeth Ddyfrlliwio ei hun.

Mae hi’n 200 mlynedd ers y comisiynwyd Thomas Hornor gan Syr William Paxton o Neuadd Middleton, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, i gatalogio mawredd llawn ‘un o’r parciau dŵr gorau ym Mhrydain’ – ar y safle lle saif yr Ardd Fotaneg bresennol.

Ac, er mwyn dathlu’r daucanmlwyddiant, mae penaethiaid yr atyniad hwn yn Sir Gaerfyrddin wedi gosod her i arlunwyr ym mhobman i ymweld â’r Ardd, a chofnodi prydferthwch cyfoes yr Ardd Fotaneg heddiw.

Mae’r dathliad hwn o un o dirweddau hyfrytaf Cymru i gyd-ddigwydd â phrosiect uchelgeisiol £6.7miliwn yr Ardd i adfer y tirwedd Rhaglywiaethol i’w gogoniant yn y gorffennol.

Bydd y gystadleuaeth yn esgor ar arddangosfa o’r cynigion gorau yn Oriel yr Ardd.   Bydd gwobrau’n cael eu cynnig hefyd, ym mhob un o dri categori: bydd enillydd y rhai dan 12 oed yn derbyn £250, a £500 i’r categori 12-18 oed, ac i’r enillydd i oedolion, mae £1,250.

Meddai’r trefnydd, Rob Thomas:  “Mae’r cynllun pum mlynedd i adfer ein tirwedd Rhaglywiaethol wedi dechrau ym mis Ionawr, a’r prif ffynhonell ar gyfer deunydd i’r prosiect yw’r casgliad o ddyfrlliwiau Hornor.

"Felly mae’n addas dros ben – dwy ganrif ar ôl i Hornor greu ei gasgliad gwych – ein bod ni’n ceisio cofnodi’r tirlun sydd gyda ni heddiw.  A dy’n ni ddim yn cyfyngu’r cynigion i ddyfrlliwiau’n unig: croesewir paentiadau mewn olew, pastelau, ac acryligau, hefyd.

“Bydd hyn dros gyfnod o amser yn profi’n gofnod o’r ystâd fydd yr un mor glodwiw a grymus  â chasgliad Horner gymaint â hynny o flynyddoedd yn ôl,” ychwanegodd.

Bydd y Gystadleuaeth Ddyfrlliwio ar agor i bawb o bob oedran a gallu, ac yn rhedeg o benwythnos Gŵyl Banc y Sulgwyn (Dydd Sadwrn, Mai 23) i Ŵyl Goed Flynyddol Cymru yn yr Ardd, sy’n dechrau ar Ddydd Sadwrn, Awst 15.   Bydd mynediad i’r Ardd yn hanner pris i bob ymgeisydd.

Ychwanegodd Mr Thomas: “Byddwn ni’n dewis cynigion  o amrywiaeth o gategorïau oedran i’w harddangos yn Oriel yr Ardd yn ystod yr hydref.”

Felly, er mwyn darganfod mwy, cofrestrwch eich cynnig os gwelwch yn dda drwy e-bostio HollyMae.SteanePrice@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667150 am fwy o wybodaeth.

 

Rhannu |