Celf

RSS Icon
13 Tachwedd 2014

Arddangosfa gyntaf yr Galeri

Rhwng Tachwedd 21 – Ionawr 9, bydd yr artist o Fangor, Luned Aaron yn arddangos yn Safle Celf Galeri am y tro cyntaf yn ei gyrfa fel artist.

Yn ei chasgliad diweddaraf, mae Luned Aaron yn oedi i ddathlu munudau dros dro, llawn arwyddocâd a thynerwch. Mae’r delweddau anniffiniedig hyn yn dal defodau teuluol, profiadau cyntaf, eiliadau a rennir – atgofion bob dydd sy’n annelwig drwy frithgof – gan roi astudiaeth o’n cysylltiadau cyffredinol drwy brofiadau a rennir ac atgofion sy’n cydblethu.

Meddai Luned: “Mi ddes i'n fam am y tro cyntaf y llynedd ac mae'r profiad wedi bod yn ysgogiad creadigol eithriadol wrth imi baratoi ar gyfer yr arddangosfa. Mae'r casgliad yn deillio o le cadarnhaol ac yn dathlu adegau llawen o fywyd bob dydd. Dyma'r arddangosfa fwyaf o’m gwaith hyd yn hyn. Bydd oddeutu deugain paentiad yn cael eu harddangos, a dwi’n gobeithio y bydd naws bersonol y casgliad yn taro deuddeg ac y bydd pobl yn gallu uniaethu â’r profiadau cyffredinol.”

Fel artist, defnyddia Luned dechnegau amrywiol wrth beintio, ond acrylig a chyfryngau cymysg yw ei phrif gyfryngau.

Gyda portffolio a CV sydd yn prysur ehangu, mae Luned yn arddangos yn rheolaidd mewn orielau ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys Oriel Tonnau, Oriel Off the Wall, a BOCS, Caernarfon.

Ychwanegodd Luned, “Pan ges i wahoddiad gan Galeri i arddangos fy ngwaith, ro’n i’n falch y byddai fy arddangosfa unigol gyntaf wedi ei lleoli yn y gogledd. Mi ges i fy magu ym Mangor, ac mae Caernarfon hefyd yn agos iawn at fy nghalon o ystyried bod nifer o’m teulu yn hanu o’r dref a’r cyffiniau. Mi dreuliais bum mlynedd hapus yn byw yn y dref yn ystod cyfnod o gyflwyno cyfres Y Sioe Gelf o dan faner Cwmni Da, a dwi’n cofio dechreuadau Galeri yn glir gan y byddem yn ffilmio cryn dipyn o’r gweithgareddau yno. Mae Galeri wedi cyfrannu’n helaeth i’r dref a’r cylch ers iddi agor ei drysau yn 2005, a bydd hi’n braf dros ben arddangos fy ngwaith diweddaraf yno.”

Agorir yr arddangosfa nos Wener, 21 Tachwedd gan Cefin Roberts, a bydd Moment: Paentiadau Newydd i’w gweld yn Safle Celf Galeri hyd at Ionawr y 9fed. Bydd yr holl baentiadau ar werth.

Ar ddydd Sadwrn, 22 Tachwedd bydd Luned yn arwain gweithdy peintio ar gyfer oedolion [oed 16+] rhwng 10:00 – 13:00. I archebu lle ar y gweithdy [£20], bydd angen cysylltu â Swyddfa Docynnau Galeri – 01286 685 222.

Rhannu |