Celf
Iwan Bala yn ymuno â myfyrwyr Dysgu Gydol Oes
Roedd Ysgol Dysgu Gydol Oes Prifysgol Bangor yn falch o gyflwyno arlunydd enwog i’w myfyrwyr yn ddiweddar.
Ymunodd Iwan Bala â’r myfyrwyr celf gain i roi darlith gynhwysfawr ar ei waith, ac wedi hynny bu’n arwain gweithdy gyda myfyrwyr celf gain i ddatblygu'r themâu a nodwyd yn y ddarlith, yn arbennig y syniad o greu map mewn ymateb i syniadau o hunaniaeth, o le ac o ddiwylliant. Y themau hyn sydd wedi bod yn brif ganolbwynt i waith Bala fel arlunydd ac awdur.
Mae Bala, cyn aelod o’r grŵp Beca, wedi meithrin diddordeb ei gynulleidfa mewn materion diwylliannol a gwleidyddol Cymreig trwy ymestyn ei waith i gynnwys ysgrifennu, darlithio, gweithredaeth a chydweithredu, gan danategu hyn oll gyda phroses luniadu sy'n rhyddhau'r dychymyg ac yn mynd i'r afael â delweddau er mwyn cyfathrebu syniadau.
Yn ei ‘ddisgrifiad swydd’, mae Bala’n dweud “Oherwydd fy nghefndir neilltuol, magwyd ynof ymdeimlad o gyfrifoldeb at barhad a chadwraeth yr iaith Gymraeg. Disgwylir i’r Cymry Cymraeg gymryd rhan weithredol yn y diwylliant, trwy eisteddfodau lleol a chenedlaethol, neu drwy'r capel, neu yn ddiweddarach trwy brotestio dros yr iaith. Roeddem yn teimlo, fel ein rhieni o’n blaenau, bod hyn yn hanfodol gan fod ein diwylliant dan fygythiad o weld ei iaith yn diflannu. O’r 1960au ymlaen, bu ymdeimlad ychwanegol o anghyfiawnder a dicter.”
Cafodd y myfyrwyr gyfle i ailddyfeisio eu hanes personol eu hunain a’u myfyrdod ar hunaniaeth a hanes yn ystod y gweithdy prynhawn yn y stiwdios newydd yn adeilad Hiraethog. Cafodd Bala gyfle i siarad â phob myfyriwr yn unigol ac roedd yn hynod o garedig yn ei sylwadau ar waith pawb.
Maen Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor, yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau celfyddyd gain ar draws gogledd Cymru. Mae’r cyrsiau’n cael eu dysgu gan dîm o arlunwyr adnabyddus wrth eu gwaith.
Os ydych chi eisiau 'mynd i rywle' gyda'ch gwaith celf, neu efallai eich bod yn arlunydd sydd angen syniadau newydd a mewnbwn creadigol, cysylltwch ag Annie Davies ar 01248 372475 neu ewch i’n gwefan www.bangor.ac.uk/dgo am wybodaeth bellach am ein cyrsiau.
Llun: Iwan Bala yn siarad â john Lloyd a Gay Wilkinson