Celf
Dwy arddangosfa newydd yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd
Mae cyfle i weld dwy arddangosfa newydd yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor hyd 2 Mawrth, 2013. Mae’r Comisiwn Brenhinol yn cyflwyno arddangosfa ‘Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru’ a’r arlunydd Karina Rosanne Barrett yn arddangos ei gwaith trawiadol hithau.
Arddangosfa newydd o ddelweddau o archif y Comisiwn Brenhinol sy’n rhoi cipolwg ar du mewn cartrefi Cymru dros gyfnod maith o amser yw ‘Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru’. Mae’r arddangosfa’n cynnwys delweddau wedi’u hatgynhyrchu o negatifau a phrintiau sy’n cael eu cadw yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn Aberystwyth; gyda bron i ddwy filiwn o ffotograffau a 125,000 o luniadau hi yw’r archif weledol fwyaf yng Nghymru.
Mae’r delweddau’n dangos cartrefi Cymru ar hyd yr oesoedd, o fythynnod tlawd i blastai gwledig crand, a byddant yn cael eu harddangos ochr yn ochr â gwrthrychau o gasgliadau'r amgueddfa. I gyd-fynd a’r arddangosfa, mae’r Comisiwn Brenhinol wedi cyhoeddi llyfr newydd, Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru, a fydd yn cynnwys oddeutu 200 o ddelweddau allweddol o’i archif ac a fydd ar gael yn Oriel ac Amgueddfa Gwynedd.
Ar ddydd Sadwrn, 2 Mawrth am 2.00pm bydd cyfle i’r cyhoedd fwynhau sgwrs ddarluniadol gyda Rachael Barnwell, fydd yn rhoi cipolwg ar du mewn cartrefi Cymru ar hyd yr oesoedd. Bydd hefyd gyfle i’r cyhoedd rannu ei hanesion, lluniau a gwrthrychau am fywyd yng Nghymru. Bydd tîm Casgliad y Werin wrth law i helpu pobl roi ei deunydd ar wefan Casgliad y Werin, rhwng 10.30am a 3.30pm.
‘Swyn yr aneddleoedd heriol’ yw teitl arddangosfa’r arlunydd Karina Rosanne Barrett. Wedi ei hysbrydoli yn uniongyrchol gan ei hamgylchfyd yn Eryri mae gan yr arlunydd cain yma ddiddordeb arbennig yn aneddleoedd traddodiadol yr ardal, yn enwedig y rhai a ganfyddir yn y lleoliadau diarffordd, wedi’u swatio’n uchel yn y bryniau, neu’n sefyll ar erchwyn Môr Iwerddon.
Ar ddydd Sadwrn, 16 Chwefror rhwng 1.00 - 2.30pm bydd cyfle i gyfarfod Karina a thrafod ei arddangosfa o luniau diweddar.
Mae’r arddangosfeydd i’w gweld ar ddyddiau Mawrth i Gwener 12.30-4.30pm a dydd Sadwrn 10.30am-4.30pm gydag arddangosfa Llyfrau Cymraeg i Blant yn parhau yn yr Amgueddfa hyd 16 Mawrth, 2013. Mae mynediad am ddim. Ffôn: 01248 353 368.
Llun: Gwaith Karina Rosanne Barrett: ‘A Storm Moves Across the Bay’