Celf
Arddangosfa celf agored
Beth bynnag bo eich dewis o gelf, gyda 142 o weithiau gan dros gant o arlunwyr gwahanol, mae rhywbeth yn siwr o fod at ddant pawb yn arddangosfa flynyddol celf agored Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor. Mae’r arddangosfa - yr 16eg arddangosfa celf agored i’w chynnal yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor i’w gweld o hyn hyd 30 Ebrill 2011.
Bu panel o ddetholwyr yn dewis beth i’w arddangos allan o bron 270 o geisiadau. Mae’r wobr eleni o £250 yn mynd i bâr o baentiadau, ‘Miri Mali’ a ‘Welingtons Newydd’, gan Annwen Burgess o Fethesda.
Rhoddwyd cymeradwyaeth uchel i weithiau celf eraill sef ‘Dickie’s by Day’, un o bâr o baentiadau olew gan Judith Hay, ‘Still Life with Small Bird’, paentiad olew gan Susan Gathercole, ‘Dining Room View of Garden, Early Evening’ gwaith olew gan Pam Green, ‘Snowdrop Study’ darlun cyfrwng cymysg gan Jane Enright, ‘After Louise’, cerflun gan Wendy Mayer, ‘Letters Home’ gwaith cyfrwng cymysg gan Jo Alexander, ‘Two Bethesda Shops’ paentiad acrylig gan Martin Morley a ‘Just Like Granny Would Have Sewn’ sampler cyfoes gan Stephanie Inglis.
Dywedodd Delyth Gordon, Swyddog Celf Weledol Cyngor Gwynedd: “Mae’r arddangosfa celf agored yn gyfle gwych i artistiaid gyflwyno eu gwaith i’r cyhoedd.
"Mae amrywiaeth eang o waith i’w weld, yn baentiadau, gwaith argraffu, darluniau, ffotograffau a rhai cerfluniau, a gobeithiwn y bydd yn plesio ein holl ymwelwyr sydd â diddordeb mewn celf. Mae croeso i bawb ddod i fwynhau'r gwaith a phleidleisio am eu ffefryn eu hunain."
Bydd cyfle i’r cyhoedd ddewis eu ffefryn drwy bleidlais a bydd yr enillydd yn derbyn gwobr o £100, rhodd gan Gyfeillion yr Amgueddfa ac Oriel, ar ddiwedd yr arddangosfa.
Cynhelir arddangosfa lai o rai o’r paentiadau hyn ar safle arall Cyngor Gwynedd, sef Oriel Pendeitsh yng Nghaernarfon o 14 Mai – 26 Mehefin 2011.
I’r rhai sydd â diddordeb mewn cynnig gweithiau celf i’w dethol flwyddyn nesaf gellir gadael manylion yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor.
Mae’r arddangosfa yn agored i’r cyhoedd:
Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor, hyd 30 Ebrill. Ffôn: 01248 353 368
Mawrth - Gwener 12:30 - 4:30, Sadwrn 10:30 - 4:30. Mynediad am ddim
Oriel Pendeitsh, Caernarfon, Mai 14 - 26 Mehefin. Ffôn: 01286 676 476
Llun - Sul 10.00 - 4.00. Mynediad am ddim
Llun: Yr enillydd, Annwen Burgess o Fethesda gyda’i gwaith buddugol a Jeremy Yates a oedd yn un o’r detholwyr