Celf

RSS Icon
17 Mawrth 2011

James Morris a Cecily Brennan ym Mostyn

Mae dwy sioe wahanol iawn yn agor ym Mostyn ar ddydd Sadwrn, Mawrth 26 – mae A Landscape of Wales yn gorff sylweddol o waith ffotograffig gan James Morris sy’n gweithio o orllewin Cymru a ddangosir gyda Melancholia ac Unstrung, dwy ffilm gan artist Wyddelig Cecily Brennan.

Mae A Landscape of Wales yn cymryd bras olwg ar y tirlun cyfoes ac yn edrych am y straeon
a adroddir ganddynt. Ei brif ddiddordeb yw ymyrraeth dyn yn y dirwedd, ac yn yr haenau o hanes sy'n amlwg yn y byd o'n cwmpas. Mae’r arddangosfa hon yn dangos ffotograffau lliw graddfa fawr, wedi eu gwneud trwy ddefnyddio camera plât 5x4 modfedd ar dreipod sy'n gallu cynhyrchu delweddau manwl iawn. Mae'r ffotograffau yn edrych ar y dirwedd Gymreig - er bod llawer ohonynt yn cynnwys pobl - ar adeg benodol yn hanes y genedl sef degawd ar ôl y refferendwm a fu'n gyfrifol am greu'r Cynulliad. Mae James Morris yn canolbwyntio ar y llefydd y mae pobl yn byw ynddynt neu'n ymweld â nhw ac mae'n ystyried materion megis hunaniaeth, amddifadu, ymelwa ac adnewyddu; gwelir yn y gwaith wlad o hyfrydwch ac o galedi, sy'n herio ystrydebau'r bwrdd croeso ac yn edrych ar sefyllfa Cymru yn y byd sydd ohoni.

Mae A Landscape of Wales yn sioe deithiol gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth gyda llyfr sylweddol gan Dewi Lewis Publishing a rhagair gan Jim Perrin.

Mae ffilmiau Cecliy Brennan yn cael eu dangos fel rhan o gyfres Caru Fideo Mostyn. Yn Melancholia, 2005, mae dynes noeth yn gorwedd ar ei hochr ar gynfas wen mewn bocs gwyn gyda’i wyneb ar agor, yn llesteiriol ac ystumiol, tra mae hylif du yn llifo o du cefn iddi, gan wlychu’r gynfas a threiddio i’r llawr oddi tani. Yn Unstrung, 2007, mae dynes mewn gwisg wen lac yn sefyll mewn stafell glaerwen sydd, er ei adeiladwaith tila, yn atgoffaol o oriel bocs gwyn neu gell gwiltiog. Yn sydyn daw ton o hylif du i’r stafell gan bery i’r ddynes syrthio. Mae’n ceisio’n ofer i godi ar ei thraed a cheisio defnyddio’r wal i sadio ei hun cyn syrthio eto fel y daw ton arall o hylif i’w maglu.

Mae gweithiau Cecily Brennan yn trafod bregusrwydd y corff a breuder yr enaid dynol. Dywedodd Aidan Dunne, Beirniad y celfyddydau Gweledol yn yr Irish Times am ei gwaith yn 2010: "Difrod a chryfder enaid yw ei phrif gonsyrn, a’r chwilio parhaus am strategau goroesiad sy’n gadael i fodau dynol cyffredin ddioddef a gorchfygu’r trallodion amrywiol sy’n dod i’w rhan."

Mae A Landscape of Wales, Melancholia ac Unstrung yn cael eu harddangos ym Mostyn hyd 7 Mai.

Rhannu |