Celf

RSS Icon
31 Awst 2012

Gwaith celf i wella iechyd meddwl

Mae cynllun sy’n gobeithio helpu pobl sy’n byw efo cyflyrau emosiynol megis iselder neu straen ar gael trwy Wasanaeth Amgueddfeydd a Chelf Cyngor Gwynedd.

Bwriad y rhaglen yw rhoi hwb i iechyd meddwl a lles emosiynol pobl drwy gynnig gweithdai celf a gweithgareddau creadigol gydag artistiaid proffesiynol yn eu canolfan hanesyddol neu gelfyddydol leol - sef Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor, Canolfan Ysgrifennu Cenedlaethol Tŷ Newydd, Llanystumdwy ac Archifdy Meirionydd, Dolgellau.

Dywedodd Gwawr Wyn Roberts, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd sy’n seicotherapydd celf dan hyfforddiant: “Mae’n cael ei gydnabod ers tro fod cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a bod yn greadigol o les i ni i gyd.

“Mae’r cynllun hwn yn rhoi cyfle i bobl dreulio amser mewn canolfan greadigol a chreu gwaith celf sydd wedi ei ysbrydoli gan gasgliadau’r safleoedd. Bydd pobl sy’n cymryd rhan yn ymuno â grŵp bychan a chefnogol, dan arweiniad artist cymunedol proffesiynol.

“Dyma gyfle i bobl adennill hyder, dysgu sgiliau newydd a rhannu’r profiad gyda phobl newydd.”

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen, ac i dderbyn ffurflen gais, cysylltwch ag Annes Siôn yn Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd ar 01286 679721 neu e-bostiwch AnnesSion@gwynedd.gov.uk

Mae canolfannau eraill yng Ngogledd Cymru yn darparu gweithdai Arteffact hefyd, cysylltwch am y manylion.


Rhannu |