Celf
Arddangosfa gelf newydd yng Nghaernarfon
Cynhelir arddangosfa gelf newydd yn Oriel Pendeitsh, Caernarfon o ddydd Sadwrn, 1 Medi hyd nes dydd Sul, 21 Hydref fel rhan o’r cynllun Helfa Gelf flynyddol.
Dyma gyfle cyffrous i’r cyhoedd gael blas o waith 28 o wahanol artistiaid sy’n rhan o’r cynllun Helfa Gelf, drwy gydweithrediad Cyngor Gwynedd a Rhwydwaith Stiwdios Agored Gogledd Cymru.
Mae digwyddiad Helfa Gelf yn gyfle i bobl ymweld â stiwdios a gweithleoedd artistiaid a chrefftwyr, a chael gweld drostynt eu hunain sut maent yn gweithio. Yr Helfa Gelf yw’r digwyddiad stiwdio agored fwyaf yng Ngogledd Cymru, gyda mwy na 300 o arlunwyr yn cymryd rhan drwy Wynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam bob penwythnos yn ystod mis Medi.
Yn ychwanegol, cynhelir gweithdy galw i mewn rhad ac am ddim ar Ddydd Sadwrn 15 Medi rhwng 12-4pm yn Oriel Pendeitsh gydag Anwen Roberts, arlunydd o Ynys Môn, a fydd yn creu blodau ac ieir bach yr haf gyda gwifren a resin hylif.
Dywedodd Delyth Gordon, Swyddog Celf Gweledol Cyngor Gwynedd: “Drwy gefnogi’r digwyddiad yma, amcan Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Gwynedd yw agor drysau’r stiwdios i’r cyhoedd er eu mwynhad a chynnig cyfle i ddysgu mwy am gelf a chrefft yng nghwmni’r artistiaid, cynyddu gwerthiant cynnyrch cynhyrchwyr Gwynedd drwy gyfrannu tuag at yr economi leol a chyfrannu tuag at y diwydiant twristiaeth.
“Mae Oriel Pendeitsh yn falch o allu cefnogi’r digwyddiad yn y stiwdios gan gyflwyno arddangosfa gymysg sy’n rhoi blas ar yr amrywiaeth eang o waith i’w weld gan artistiaid a chrefftwyr ar draws y chwe sir sydd yn rhan o Rhwydwaith Stiwdios Agored Gogledd Cymru.”
Ar 30 Medi bydd taith bws am ddim yn ymweld ag amryw o leoliadau stiwdio yn yr ardal gan gychwyn yn Oriel Pendeitsh. Am fanylion pellach ac i gadw sedd cysylltwch â
Am fwy o wybodaeth am yr Helfa Gelf, gan gynnwys mapiau, lluniau, teithiau ac ati, ewch i’r wefan www.helfagelf.co.uk
Llun: ‘Geirionydd’ gan Huw Gareth Jones