Celf

RSS Icon
28 Gorffennaf 2012

RSPB Cymru yn dathlu ugain mlynedd ar Ynys Dewi efo arddangosfa gelf unigryw

Eleni, mae RSPB Cymru yn dathlu 20 mlynedd o reoli Ynys Dewi – ers iddi brynu’r warchodfa ym 1992.

Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf cyflawnwyd llawer a chafwyd cyfnodau cofiadwy ar Ynys Dewi, megis ei dynodi fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol ym 1996, a phroject a lwyddodd i gael gwared â llygod ffyrnig o’r ynys yn 2000.  O ganlyniad i hyn, cafwyd cynnydd yn y nifer o adar drycin Manaw sy’n nythu mewn tyllau yn y ddaear, a chafwyd y cofnod cyntaf bod y pedryn drycin yn nythu yno.

Dechreuodd y wardeiniaid cyntaf i fyw yno’n llawn amser - y gŵr a gwraig Greg a Lisa Morgan - weithio ar yr ynys ym 2005 ac maen nhw’n parhau i reoli’r warchodfa ar ran ei bywyd gwyllt hyd heddiw.  Meddai Greg: “Roeddem wrth ein bodd pan gawsom y cyfle i fod yn wardeniaid ar Ynys Dewi ac mae’n anodd credu ein bod yma ers saith mlynedd.  Mae hi’n ynys anhygoel gyda llu o fywyd gwyllt a chynefinoedd -ac mae pob diwrnod yn hollol wahanol!”

I ddathlu 20 mlynedd ers i Ynys Dewi ddod yn eiddo i’r RSPB, bydd RSPB Cymru yn lansio Arddangosfa Gelf 20fed Pen-blwydd Ynys Dewi yng Nghanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhŷ Ddewi ar ddydd Mercher 11 Gorffennaf, gan arddangos gwaith Rhian Field, yr arlunydd a’r cefnogwr lleol.

Trefnir yr arddangosfa gyda chefnogaeth perchennog Oriel y Parc a Chanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sef Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sydd hefyd yn ei rheoli.  Mae’r Oriel hefyd yn gartref i Amgueddfa Cymru yn Sir Benfro.

Wrth siarad am yr arddangosfa, meddai Paula Ellis, Rheolwr Oriel y Parc: “Rydym yn falch iawn o allu cynnal yr arddangosfa unigryw hon ac i groesawu Rhian Field yn ôl i’r ganolfan yn dilyn ei chyfnod preswyl llwyddiannus gyda ni fis Medi diwethaf.  Oriel y Parc yw’r lleoliad perffaith i helpu RSPB Cymru i ddathlu eu pen-blwydd arbennig.  Bydd hefyd yn gyfle i ymwelwyr fwynhau arddangosfa John Piper yn ein horiel.”

Mae’r peintiadau olew trawiadol sy’n darlunio bywyd gwyllt eiconig ac unigryw'r ynys, ei thirlun a’i hadeiladau wedi eu creu’n arbennig gan Rhian Field, sy’n gyn-Arlunydd Preswyl yn Oriel y Parc.  Bydd Rhian yn cyfrannu canran o’r holl werthiannau tuag at waith cadwraeth parhaol ar Ynys Dewi ac o’i chwmpas.

Meddai Rhian, a gwblhaodd radd mewn Astudiaethau Amgylchedd Arfordirol a Morol yn 2010 gyda Phrifysgol Morgannwg: “Mae gen i ddiddordeb yn yr wyddoniaeth y tu ôl i’r tirlun a’r effeithiau dynol ar fywyd gwyllt a’u hamgylchedd.  Bydd fy ngwaith yn amlygu llwyddiannau cadwraethol Ynys Dewi ac yn pwysleisio’r neges ddifrifol bod angen gwarchod y tirlun morol os yw am oroesi a bod angen i ni fod yn ymwybodol o’n rôl ni yn ei oroesiad.”

Mae hyn yn clymu i mewn â neges ymgyrch morol presennol RSPB Cymru sydd â’r nod o amlygu’r ffaith nad oes yr un Ardal Morol Gwarchodedig (AMG) wedi ei dynodi ar gyfer adar môr dyfroedd Cymru sy’n nythu.

Mae ein bywyd morol, uwchben ac o dan wyneb y môr, yn diflannu o dan bwysau cynyddol gweithgareddau dynol, ac mae AMG yn sicrhau ein bod yn gallu rheoli ein moroedd gwerthfawr mewn dull cynaliadwy.

Mae Sir Benfro yn cynrychioli nythfeydd o adar môr sy’n bwysig yn rhyngwladol megis adar drycin Manaw, huganod, gwylanod coesddu a charfilod (gwylogod, palod a llursod) sy’n nythu.  Cred RSPB Cymru ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru ddynodi AMG (Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, SDdGA a Pharthau Cadwraeth Morol) ar gyfer adar môr er mwyn ateb anghenion y Cyfarwyddyd Adar a’n hymrwymiadau rhyngwladol amrywiol i sefydlu rhwydwaith ecolegol gydlynol o AMG yn nyfroedd y DU. 

I weld y portffolio presennol o waith Rhian Field ewch i www.rhianfield-art.co.uk.  Mae RSPB Ynys Dewi ar agor bob dydd rhwng mis Ebrill a mis Hydref (os bydd y tywydd yn caniatáu).  Cewch fanylion ar ein tudalennau gwefan www.rspb.org.uk/reserves/guide/r/ramseyisland neu ffoniwch Thousand Islands Expeditions ar 01437 721721.

Cynhelir arddangosfa 20fed pen-blwydd yr RSPB rhwng dydd Mercher 11 Gorffennaf a 31 Gorffennaf yn y Twr a’r Caffi yn Oriel y Parc.  Am fwy o wybodaeth am yr arddangosfa ffoniwch 02920 353 007.  Am fwy o wybodaeth am Oriel y Parc ffoniwch 01437 720392, e-bostiwch infor@orielyparc.co.uk neu ewch i www.orielyparc.co.uk .

Cofiwch Gamu ’Mlaen drwy arwyddo adduned RSPB Cymru sy’n galw ar weinidogion i warchod ein hadar môr sydd allan ar y môr ar www.rspb.org.uk/marinepetition.  Am fwy o wybodaeth am ymgyrch morol Camu ’Mlaen dros Natur yr RSPB ewch i http://www.rspb.org.uk/stepup2020/wales/sealife.aspx

 

Rhannu |