Celf

RSS Icon
22 Mehefin 2012

Arddangosfa gan raddedigion celf gain

Mae  graddedigion cwrs gradd BA Celf Gain, Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor yn arddangos uchafbwyntiau eu gwaith yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor hyd ddydd Sadwrn 30 Mehefin.

Fe agorwyd yr arddangosfa yn swyddogol gan yr arlunydd Bedwyr Williams, sydd ar hyn o bryd yn Ymgynghorydd Celf Gyhoeddus i Bontio. Rhoddwyd y wobr-brynu eleni i’r graddedig Rob Stephen am ei gyfres o ffotograffau hunanbortread. Mae’r wobr hon ar gael drwy Bwyllgor Casgliad Celf Cronfa T Rowland Hughes.

Petaech a diddordeb cofrestru ar un o gyrsiau celf gain ar gael yn y Brifysgol o fis Medi ymlaen, am fanylion, cysylltwch â Annie Davies ar 01248 382475 neu safle we Dysgu Gydol Oes www.bangor.ac.uk/ll

Gwelir detholiad o uchafbwyntiau gwaith graddedigion cwrs gradd BA Celf Gain Coleg Menai o Orffennaf 7 - 21 yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor.

Llun: (Chwith i’r dde) Graddedigion John Lloyd, Debbie Roberts, Peter Read, Rob Stephen a Bedwyr Williams a agorodd yr arddangosfa.

Rhannu |