Celf

RSS Icon
03 Mai 2012

Arddangosfa newydd yn Oriel Pendeitsh, Caernarfon

Mae Oriel Pendeitsh, Caernarfon yn arddangos cyfoeth o waith celf gan 38 o artistiaid gwahanol. Ewch draw i gael gweld yr amrywiaeth – mae mynediad am ddim.

Dyma ddetholiad o’r gystadleuaeth flynyddol Celf Agored 2012 a gynhelir yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor. Mae’r arddangosfa arbennig hon sy’n cael ei chynnal yn Oriel Pendeitsh o 12 Mai hyd 8 Gorffennaf 2012 yn gyfle eto i weld yr amrywiaeth o waith celf a ddewisiwyd gan gynnwys paentiadau, gwaith argraffu, darluniau a ffotograffau.

Bu panel o ddetholwyr yn dewis beth i’w arddangos allan o bron 200 o geisiadau.  Rhoddwyd gwobr y detholwr eleni i Martin Morley o Fethesda am ei baentiad o ‘Treflan, Bethesda, 1989’.  Yn rhodd gan Gyfeillion yr Amgueddfa, cyflwynwyd gwobr ychwanegol eleni i Emyr Roberts am ei ffotograff trawiadol ‘Arwel a Ffrind’. Yn ystod yr arddangosfa yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, fe ddyfarnwyd drwy bleidlais y cyhoedd y darlun ‘Stryd Tiwlipau’ gan Dorothy Williams o Dregarth yn fuddugol am wobr Dewis y Bobl.  Rhoddwyd cymeradwyaeth uchel i nifer o weithiau celf eraill yn ogystal.

Dywedodd Delyth Gordon, Swyddog Celf Weledol Cyngor Gwynedd: “Mae’r arddangosfa celf agored yn gyfle gwych i artistiaid gyflwyno eu gwaith i’r cyhoedd. Mae amrywiaeth eang o waith i’w weld gyda rhywbeth yn siwr o fod at ddant pawb. Croeso i bawb ddod i fwynhau y gwaith celf.”

I’r rhai sydd a diddordeb mewn cynnig gweithiau celf i’w dethol ar gyfer Celf Agored 2013, gellir gadael manylion yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor, ffôn 01248 353 368.

Mae’r arddangosfa yn Oriel Pendeitsh, Caernarfon ar agor hyd 8 Gorffennaf.  Mae’r oriel ar agor pob dydd, 7 diwrnod, rhwng 9.30am a 4pm.  Mynediad am ddim.

 

Llun: Gwaith Martin Morley a enillodd gwobr y detholwyr

Rhannu |