Celf

RSS Icon
13 Ebrill 2012

Campwaith Titian Diana ac Actaeon yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Bydd gan ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyfle unigryw i weld un o beintiadau pwysicaf Dadeni’r Eidal y gwanwyn hwn. Bydd llun enwog Titian Diana ac Actaeon yn ymweld â Chaerdydd ar daith o’r Oriel Genedlaethol, Llundain ac yn cael ei arddangos o 19 Ebrill – 17 Mehefin 2012. Bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor yn hwyr tan 7.30pm ar ddydd Iau 19 Ebrill i ymwelwyr sydd am fod y cyntaf i weld y campwaith Fenisaidd o’r 16eg ganrif.

Mae Orielau Cenedlaethol yr Alban a’r Oriel Genedlaethol, Llundain yn gydberchnogion ar y gwaith hynod hwn a brynwyd dros y genedl yn 2009 am £50 miliwn, trwy gyfraniadau preifat a chyhoeddus hael.

Mae’r paentiad yn un o weithiau gorau’r artist – yn hynod oherwydd ei faint uchelgeisiol, unoliaeth fedrus y lliwiau, testun y gwaith a’i gyflwr ardderchog.

Mae Diana ac Actaeon yn un o chwech o gynfasau mawr chwedlonol a baentiwyd gan Titian ar gyfer Philip II brenin Sbaen ac sydd wedi’u hysbrydoli gan waith y bardd Rhufeinig Ofydd. Dechreuodd Titian ar y paentiad hwn a’i gymar Diana a Callisto (a brynwyd dros y genedl wedi i Ddug Sutherland gytuno ar £45m) ym 1556, blwyddyn coroni Philip. Gyda bri nawddogaeth frenhinol yn sbardun, defnyddiodd ei ystod creadigol llawn wrth greu gweithiau llawn prydferthwch a dyfeisgarwch nas gwelwyd eu bath cyn hynny.

Bu Titian wrthi am dair mlynedd yn perffeithio’r campweithiau, cyn eu cludo i Sbaen ym 1559. Honnodd taw’r rheswm dros yr oedi oedd ei fod wedi mynd i drafferthion di-ben-draw i greu gwaith oedd yn deilwng o’r brenin.

Meddai Anne Pritchard, Curadur Cynorthwyol Hanes Celf, Amgueddfa Cymru: "Rydyn ni wrth ein bodd bod paentiad mor bwysig a phrydferth yn cael ei arddangos yma yng Nghaerdydd. Mae’n gampwaith o’r iawn ryw! Mae’n siŵr taw Diana ac Actaeon gan Titian yw’r pryniad celf mwyaf nodedig y DU yn y blynyddoedd diwethaf ac mae’n gyfle gwych i bobl gael golwg dda arno. Bydd yn gaffaeliad i’r casgliad celf hanesyddol yn ystod ei ymweliad ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru."

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru.

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Rhannu |