Celf

RSS Icon
13 Ebrill 2012

Dewch i weld dwy arddangosfa arbennig

Mae dwy arddangosfa newydd ar fin agor yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd Bangor. Bydd cyfle i weld gwaith newydd gan yr arlunydd Andrew Smith a’r dylunydd Ann Catrin Evans rhwng 21 Ebrill a 9 Mehefin 2012. Bydd yr arddangosfa yn cael ei agor yn swyddogol gan Mike Knowles.

Arddangosfa o baentiadau newydd gan Andrew Smith yw ‘Ar Ymyl Lliw’, i gyd wedi cael eu cynhyrchu yn ei stiwdio yn Harlech, ble mae golau plyg Bae Tremadog yn llifo drwy’r ffenestri yn rhoi bywyd i’r gofod tu mewn ac yn dylanwadu ar ei ymchwil i liw.

Mae Andrew wedi gweithio efo lliw yn gyson am dros ugain mlynedd, gan ymchwilio i wahanol brosesau a dulliau, yn cynnwys gwneud printiau (The Surface of Colour 2001); cydweithio ar sefydlu cysylltiadau â phartneriaid rhyngwladol (Galicia 2002, Macedonia 2003, Mecsico 2004, Gwlad Pwyl 2004 ac Awstralia 2009) a phrosiectau celf gyhoeddus (Y Barri 2009, Caerdydd 2010 a Rwsia 2011). Dyma arddangosfa gyntaf Andrew yng Nghymru ers En Route yn Oriel Davies Gallery yn 2007.

Meddai Andrew am ei waith newydd: “Dros amser, mae’r broses o wneud lluniau wedi arwain at liw fel yr unig wir gyfeiriad i mi ar gyfer paentio. Wrth ystyried llun a lliw, mae ymylon y lliw yn diffinio paramedr y ddelwedd a thrwy anghysondeb greddfol, mae’n tynnu’r amgylchedd allanol i mewn i’r paentiad. Mae ansawdd y lliw yn rhyngweithio â’r ddelwedd ynghyd â’r strwythur.”

Mae Ann Catrin Evans yn ddylunydd gwneuthurwr 3D metel. Mae’n adnabyddus yn genedlaethol a rhyngwladol am ei Dodrefn Drysau unigryw ac am ei Cherfluniau Cyhoeddus.

Mae’r arddangosfa hon i gyd yn waith newydd o weiren haearn, ychydig yn fwy ysgafn a bregus na’i gwaith blaenorol. Mae gwaith haniaethol a thirlun mawr o weiren wedi eu fframio, darluniau copr lliwgar wedi eu boglynnu, llestr a phlatiau cywrain a gemwaith cain.

Ers graddio mewn Dylunio 3D mae Ann wedi cwblhau nifer sylweddol o gomisiynau mewn amryw ddeunydd, wedi casglu amryw wobr ac mae ei gwaith wedi ymddangos mewn nifer o arddangosfeydd pwysig adref a dramor.

Yn 2011 dyluniodd Ann waith celf ar gyfer Llys Dafydd yr amffitheatr awyr agored ym Methesda gan gynnwys rheiliau a giât, cerflun Y Chwarelwr mewn dur corten a dyluniadau wedi eu cerfio ar lechen yn seiliedig ar Cerfiadau Traddodiadol Dyffryn Ogwen gan Gwenno Caffell.

Dywedodd Delyth Gordon, Swyddog Celf Weledol Cyngor Gwynedd: “Rydym yn falch iawn o lwyfannu dwy arddangosfa sy’n cyflwyno gwaith newydd gan Andrew Smith ac Ann Catrin Evans. Mae cydbwysedd a dylunio yn cael sylw cyson yng ngwaith y ddau artist yma. Mae’r arddangosfeydd yn eu tro yn cyflwyno i’r ymwelydd feiddgarwch deinamig lliw gan Andrew a chryfder a sensitifrwydd ffurf gan Ann.”

Mae’r oriel ar agor i’r cyhoedd: dydd Mawrth - Gwener 12:30 - 4.30, dydd Sadwrn 10:30 - 4:30, ac mae mynediad am ddim. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r arddangosfa, cysylltwch ag Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor 01248 353368 neu ewch i www.gwynedd.gov.uk/amgueddfeydd

Rhannu |