Celf

RSS Icon
04 Mawrth 2011

Gofalwr ym Mostyn

BYDD gosodwaith newydd trawiadol gan Marged Pendrell, artist sy’n byw ger Penrhyndeudraeth, yn cael ei arddangos ym Mostyn, Llandudno o’r 5ed o Fawrth hyd y 25ain o Fehefin. Man cychwyn Gofalwr yw cyfres o deithiau cerdded allan yn y wlad a’r weithred o gasglu deunyddiau naturiol, gan yr artist ei hun a gan rai eraill a wahoddwyd ganddi.

Yn wraidd i waith Marged mae pwysigrwydd lle a chof ynghyd â’r ffyrdd mae rhai pethau yn gallu cario atgofion ac amlinelliad o’r hyn sy’n arbennig i le. Fe ddywed: "Mae casglu yn rhan hanfodol o’r ffordd rwy’n gweithio. Rwy’n dewis casglu gwrthrych neu ddeunydd fel cysylltiad â lle. Maent yn dynodi teimlad o dreuliad amser, hanfod lle ac atgof o brofiad."

Mae sawl haen i’r gwaith yn cynnwys cysylltiad/datgysylltiad gyda’r tir, pryderon amgylcheddol, naratif personol gyda’r tir a phresenoldeb corfforol y tir ei hun drwy gasgliad o bridd, tywod a cherrig. Yn cynnwys gweithiau cerfluniol a lluniadau gyda chymysgedd o ddeunyddiau a gasglwyd, ffurfiau papur, efydd, plwm a chopr, mae’r gosodwaith yn uno’r cyfan yn un tirlun.

Wedi ei geni a’i magu yng Ngogledd Cymru graddiodd Marged o Goleg Celf Loughborough. Fe deithiodd yn helaeth cyn dychwelodd i fyw a gweithio fel artist mewn ardal wledig yn y gogledd. Mae ei phroses o weithio yn seiliedig ar gerflunwaith ac mae’n defnyddio ystod eang o ddeunyddiau – daw ysbrydoliaeth wrth ymateb i’r tir mewn ffordd gorfforol.

Mae Gofalwr yn arddangosfa Mostyn ac fe’i cefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Rhannu |