Awyr Agored
Coed derw King’s Wood ar y brig
Mae celli o goed derw arbennig o syth a adwaenir fel King’s Wood wedi derbyn gwobr am y coetir llydanddail a reolir orau yn Ne Cymru.
Mae’r coed yn rhan o goetir mwy a reolir gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, sef Coed Hendre, i’r gorllewin o Drefynwy.
Cafodd y coed derw eu plannu ar ddechrau’r 1940au, ac maent yn arbennig gan eu bod yn anarferol o syth, sy’n ganlyniad rheolaeth a stiwardiaeth coedwig dda dros y blynyddoedd.
Roedd Richard Gable, rheolwr ardal leol Comisiwn Coedwigaeth Cymru, sydd wedi bod yn gofalu am y coed derw ers 2002, yn falch iawn bod King’s Wood wedi cipio gwobrau ar gyfer coed llydanddail yn y Sioe Frenhinol.
Meddai, “Mae yna hanes o reolaeth dda yn y coetiroedd hyn dros flynyddoedd lawer, a bydd hyn yn darparu manteision amgylcheddol yn awr ac yn y dyfodol.
“Rydym yn hapus iawn gydag ansawdd y coed derw, a fydd ymhen tua deng mlynedd ar hugain yn creu celli o goed ansawdd uchel ar gyfer cynhyrchu argaen.”
Yn ogystal â’r wobr aur yn y categori coetiroedd dros 40 oed gyda dros 40% o goed llydanddail, mae King’s Wood hefyd wedi ennill Medal Arian Milford ar gyfer y coetir gorau yn yr holl ddosbarthiadau llydanddail: plannu newydd, hyd at 40 oed, a thros 40 oed.
Mae Coed Hendre yn ffinio ar hen ystad Rolls Trefynwy, a oedd unwaith yn barc ceirw hanesyddol cyn cael ei droi’n gwrs golf, sy’n enwog erbyn hyn.
Mae’r goedwig yn ymestyn dros 300 hectar o dir (tua 800 erw), ac mae’n cynnwys coed llydanddail yn bennaf.
Cafodd y mwyafrif helaeth o’r coed derw yng Nghoed Hendre eu plannu o ddechrau’r 1930au hyd at y 1950au. Fodd bynnag, mae yna hefyd nifer o goed derw hynafol yn tyfu yma ac acw sy’n bum canrif oed a throsodd, ac yn dyddio o’r cyfnod pan oedd Harri’r VII ar yr orsedd.
Llun: Y gelli arobryn o goed derw a adwaenir fel King’s Wood