http://www.y-cymro.comY CymroLlwyn sy’n llawn haeddu ei ryddid
STORI dda ydy honno am y gweinidog a’i gymydog yn sgwrsio dros glawdd yr ardd.

Gardd dwt a chymen sydd gan y cymydog, tra bo gardd y mans yn tyfu’n rhialtwch gwyllt.

Wedi i’r ddau drafod hynt a helynt Brecsit, Donald Trump a dwrdio pawb sy’n dweud ‘so’ a ‘rili’ bob yn ail air ar y cyfryngau, mae’r sgwrs yn troi at arddio.

“Garddio efo cymorth y creawdwr mawr fydda i,” meddai’r gweinidog, “Ie, a ‘drychwch ar y llanast mae o wedi ‘neud!” oedd ateb parod y cymydog.

Ydy, mae hi’n hen hen stori, ond yn stori sy’n cyffwrdd calon y gwir ynglŷn â garddio.

Allwch chi ddim troi eich cefn ar ardd, ond mae yna ambell i blanhigyn sy’n haeddu mwy o ryddid na’i gilydd. Yr adeg yma o’r flwyddyn mae Lonicera ‘Winter Beauty’ yn llawn haeddu’r rhyddid hwnnw.

Efallai bod yr enw Lonicera yn dwyn atgofion am nosweithiau hafaidd, persawrus a chynnes. Ie, dyna chi, gwyddfid, llaeth y gaseg a melog, dim ond tri o’r dwsin a mwy o enwau lleol sy’n dangos mor agos ydy’r gwyddfid at galon y Cymry.

Enwau’r gwyddfid cyffredin, L. periclymenum ydy’r rhain, gwyddfid y cloddiau a’r gwrychoedd sy’n dringo’n gordeddog.

Yn union fel gwyddfid yr haf, llwyni sydd braidd yn flêr eu tyfiant ydy gwyddfid y gaeaf, a’r mwyaf ei dyfiant ydy L. fragrantissima.

Fel mae’r enw’n awgrymu, persawr ydy rhinwedd y llwyn, persawr sy’n chwa gymhleth-gyfoethog o sbeis puprog a sawr miniog lemon.

China ydy cynefin naturiol L. fragrantissima, a chroesiad efo gwyddfid gwyllt arall, L. standishii sydd wedi creu Lonicera x purpusii, sydd yn rhiant yn ei dro i’r hyfryd ‘Winter Beauty’.

Creadigaeth Alf Alford, y fforman ym meithrinfa Hillier yn 1962 ydy ‘Winter Beauty’, ffaith sy’n benllanw canrifoedd o ymwneud dyn efo’r gwyddfid.

Cafodd yr elfen Lonicera yn yr enw Lladin ei ddewis i goffáu botanegydd o’r unfed ganrif ar bymtheg, Adam Lonitzer. Robert Fortune sy’n cael y clod am ddarganfod L. fragrantissima a L. standishii yn 1845.

Cyn hynny doedd yr un gwyddfid a flodeuai yn y gaeaf i’w gael.

Daw’r elfen purpusii o gyfenw’r casglwyr planhigion Carl a Joseph Purpus.

Ymddiheuriadau bod y wers Ladin yn hirach nag arfer y tro yma.

Camp Alf Alford oedd ôl-groesi L.x purpusii efo L. standishii a chreu un o sêr disgleiria’ tymor y gaeaf.

Os daw barrug i ddeifio’r blodau sidanaidd, daw digon i’w canlyn, yn gawod wen anghyson ar frigau noeth.

Dychmygwch fod gan y gweinidog lwyn Lonicera ‘Winter Beauty’ yn hael ei sawr a chyforiog ei flodau yn ei ardd.

Siawns bod ganddo ateb parod i sylw ei gymydog, a chofiwch chithau mai llaw ysgafn, yn hytrach na dwrn dur sydd gan y garddwyr gorau.

Llun: Lonicera purpusii ‘Winter Beauty’

http://www.y-cymro.com/awyr-agored/i/4869/
2016-12-30T00:00:00+1:00Hen nain sydd wrth ei bodd pan gaiff hi ddigon o sylw!
Nadolig Llawen i chi, ac i bawb a phopeth sydd yn y tŷ! Mae yna siawns go lew bod o leiaf un planhigyn Poinsettia ymysg y ‘popeth’ sydd ar sawl aelwyd erbyn hyn.

Do, fe ddaeth y gwrid tymhorol i lenwi’r siopau a’r canolfannau garddio.

O ganlyniad i hynny fe ddaeth gair cofiadwy o gyngor gan Awen Jones yn ystod ein sgwrs am blanhigion y Nadolig ar Galwad Cynnar ben bore Sadwrn tua phythefnos yn ôl.

Mi fydd cwsmeriaid Canolfan Garddio Fron Goch ger Caernarfon yn gwybod bod Awen yn helaeth ei gwybodaeth ac yn hael ei chyngor.

Mae hi hefyd yn gwybod yn union sut i greu darlun cofiadwy ar y radio.

Fe gafodd y Poinsettia ei ddarlunio gan Awen fel “hen nain, ‘chydig bach yn ffyslyd, ond sydd wrth ei bodd pan gaiff hi ddigon o sylw”!

Cyfoethogwyd y darlun yn fwy fyth pan aeth Awen ati i ddweud mai “cornel fach gynnes a digon o de” ydy’r lle gorau yn y tŷ ar gyfer yr “hen nain” yma o blanhigyn.

Fel cymaint o blanhigion sydd ar werth yr adeg yma o’r flwyddyn mi fydd Poinsettias wedi eu gorfodi i dyfu’n annaturiol o gyflym ar gyfer y sbleddach o wario tymhorol.

Wedyn fe’u chwistrellir efo cemegyn i’w rhwystro rhag tyfu’n fwy. Rhyfedd o fyd.

Cofiwch am yr “hen nain” a bod yn hael efo’r dŵr a rhoi gwlychfa dda i’r pot fel byddwch chi’n cyrraedd adref o’r siop.

Cadwch lygad ar wyneb y compost a dyfrio eto pan fydd arwyddion bod y pridd yn dechrau sychu.

Mae’n syniad da hefyd i chwistrellu tarth ysgafn ar y dail bob yn ail ddiwrnod.

Cynefin naturiol y Poinsettia, Euphorbia pulcherrima, ydy Mecsico.

Yno, yng ngwres y trofannau gall dyfu hyd at un droedfedd ar bymtheg o daldra a’r enw lleol arno ydy flor de la noche buena, ‘blodyn y Nadolig’.

Fe’i defnyddid i addurno eglwysi’r wlad tros gyfnod y Nadolig ac mae’n debyg mai felly daeth ei liw tanbaid i sylw tramorwyr.

Tramorwr roddodd ei enw iddo ac mae’n bosib na fyddai enw Dr Joel Roberts Poinsett mor adnabyddus oni bai am hynny.

Dr Poinsett oedd llysgennad yr Unol Daleithiau yng ngweriniaeth annibynnol Mecsico rhwng 1825 ac 1829.

Ymddengys bod ei ddoniau garddwriaethol a botanegol yn gryfach na’i alluoedd diplomataidd, gan fod y Mecsicanwyr wedi bathu’r gair ‘poinsettisimo’ i ddisgrifio ymddygiad trahaus a busneslyd.

Ta waeth am Dr Poinsett, delwedd Awen Jones o’r “hen nain” ydy’r ddelwedd arhosol ynglŷn â’r Poinsettia i mi.

Felly, i bawb, a phopeth, o bob oed sydd yn y tŷ, Nadolig Llawen!

Llun: Poinsettia

http://www.y-cymro.com/awyr-agored/i/4827/
2016-12-15T00:00:00+1:00Mae chwiw y Clematis wedi dechrau cnoi unwaith eto
Chwiw gref ydy’r chwiw gasglu unwaith bydd hi wedi gafael. Waeth i mi gyfaddef mod i wedi cael sawl brathiad ganddi, llyfrau hynafiaethol, stofs paraffin a chryno ddisgiau i enwi dim ond tair o’r chwiwiau hynny!

Afraid dweud fod yna chwiwiau planhigion wedi dod, a mynd yn eu tro.

Coed masarn bach oedd un o’r chwiwiau cynharaf. Bu cyfnod o ymhel efo rhedynau ac ymgais gwbl aflwyddiannus i dyfu’r fantell Fair.

Dod, a mynd, ddaru chwiw’r Clematis, ond anodd ydy tynnu cast o hen geffyl yn te?

Wedi i mi alw yng ngardd Bodnant dro’n ôl, mae arna’i ofn bod y chwiw honno wedi dechrau cnoi unwaith eto.

Clematis montana oedd y cyntaf i’m brathu tua phymtheng mlynedd yn ôl. Os cafodd yr ymadrodd am roi modfedd a chymryd llathen ei fathu ar gyfer planhigyn, hawdd iawn gellid credu mai ar gyfer Clematis montana gwnaed hynny.

Fy mwriad wrth blannu’r Clematis montana oedd gorchuddio wal noeth efo cawod wen o flodau bob mis Mai.

Bu’r llwyddiant yn ysgubol, mor ysgubol nes i’r gawod wen fygwth troi’n lluwch. Er gwaetha’i awydd i draflyncu popeth o fewn ei afael, gan gynnwys cwt y stofs paraffin, anodd iawn oedd digio efo hwn.

Cadwai ei addewid yn flynyddol gan flodeuo’n hael mewn cil haul ar wal sy’n wynebu’r gogledd. Byddwn yn dal i gymeradwyo Clematis montana, dim ond i chi gofio am ei natur cyw gog. Mi ges innau, fel y ci, ormod o bwdin, a bu’n rhaid ffarwelio efo’r Clematis hwnnw.

Wrth edrych yn ôl, fymryn yn hŷn, a fymryn bach yn gallach, mi allwn fod wedi dewis yn well ar gyfer gardd fach.

Y gwir ydy fod yna gymaint o ddewis ymhlith teulu mawr y Clematis y gallech chi gael o leiaf un ohonynt yn ei flodau bob mis o’r flwyddyn. Planhigion perffaith ar gyfer pobl sy’n dioddef o’r hen chwiw gasglu ‘na!

Ie, Bodnant, dyna lle daeth chwiw’r Clematis heibio unwaith eto.

Dod wyneb yn wyneb efo un o flodau gorau’r tymor ddaru mi, Clematis tangutica.

Os mai papur sidan ydy petalau Clematis montana, lledr gwydn, cnawdiog ydy petalau hwn.

Mae’n llusern o flodyn melyn llachar, sy’n agor yn raddol i ddatgelu swp o frigerau browngoch.

Cafodd y llysenw ‘clematis croen oren’, ond o gofio lliw’r petalau oni fyddai ‘croen lemwn’ wedi bod yn agosach i’w le?

Heb amheuaeth, y ffurf ‘Bill MacKenzie’ ydy’r math efo’r blodau mwyaf, ac o ganlyniad, dyma’r aelod mwyaf adnabyddus o’r teulu.

Os oes ganddo fai, mae’n rhannu’r bai hwnnw efo Clematis montana. Ydy, mae hwn hefyd yn dipyn o garlamwr.

Ond mae mistar ar mistar Mostyn, ac os caiff ei dorri’n ôl yn galed bob mis Chwefror mi fydd hynny yn ei gadw dan reolaeth.

Bob mis Chwefror cofiwch! Wrth i’r blodau bylu, daw’r pennau hadau sidanaidd yn wawn llaes a blewog i orchuddio’r llwyn.

Dyma sut cafodd Clematis un o’i lysenwau mwyaf adnabyddus, ‘barf yr hen ŵr’. Llysenw sy’n llygaid ei le.

http://www.y-cymro.com/awyr-agored/i/4475/
2016-10-13T00:00:00+1:00Aeron y griafolen gyffredin
Mallwyd 1798, ac mae’r Parch Richard Warner o Gaerfaddon yn cerdded yn hamddenol tua’r pentref.

Yn ei lyfr A Second Walk Through Wales mae Warner yn sôn am y trwch o goed criafol ar fryniau Meirionnydd, rhaid bod 1798 yn flwyddyn debyg iawn i eleni.

Sonia hefyd am y ddiod feddwol a wnaed o’r aeron cochion, tybed ydy’r arferiad hwnnw’n parhau? Go brin.

Go brin ychwaith byddai’r teithiwr cyfoes yn gweld criw o grymffastiau’r pentref yn ffraeo tros lond het o aeron criafol, cymodi, a bwyta’r cyfan yn awchus.

Rhaid bod Warner yn cofio geiriau Paul ac mae’n cofnodi bod yr aeron yn “harsh and acrid”, a’r ddiod, “… still worse, sharp, bitter, and thick as puddle”.

O ran tegwch i Warner mae gweddill ei ddisgrifiad o gyffiniau Mallwyd yn hynod garedig.

Mae’n ymserchu yn y rhaeadrau a’r creigiau, y tai gwyngalchog a’u gerddi cymen a’r eglwys fach a’i thŵr ‘gwylaidd’.

Cymhara’r cyfan i harddwch yr Alpau a thiroedd dedwydd Sicily, ond efallai ei fod wedi mynd dros ben llestri braidd wrth ddychmygu Horace a Cicero yn troedio’r tir ac yn telynegu fel yntau.

Gyda llaw, mae sôn am yr Alpau yn fy atgoffa bod fy nghyfaill Heinz Schenk o Awstria yn gwneud ambell botelaid o schnapps efo aeron criafol, ‘Vogelbeere’ ydy enw’r ddiod honno, sef diod aeron yr adar.

Aeron y griafolen gyffredin, Sorbus aucuparia ydy’r aeron sydd wedi bod yn cochi’r wlad eleni. Cerddinen ydy’r enw cyffredin arni yn y de ac mae’n un o’r harddaf o’n coed cynhenid.

Er nad oes ganddi hirhoedledd ac urddas y dderwen mi fyddai cefn gwlad dipyn tlotach heb ei hewyn o flodau a gwreichion o aeron.

Cefn gwlad sylwer, mae angen gardd go helaeth cyn meddwl am blannu Sorbus aucuparia.

Gwell i’r garddwr ddewis un o’r coed criafol addurniadol, ac un o’r goreuon ydy Sorbus cashmiriana.

Fel mae’r enw’n awgrymu, gorllewin yr Himalaya ydy cynefin naturiol y goeden yma.

Blodeua’n hael o binc neu wyn yn y gwanwyn ac mae’r aeron sy’n dilyn yn creu rhagor o ddiddordeb yn eu tymor.

Ceir gwawr binc ar yr aeron ifanc cyn eu bod yn cannu’n glaerwyn wrth aeddfedu.

Rhinwedd nodedig Sorbus cashmiriana ydy ei bod yn dal ei gafael yn yr aeron gwynion ymhell wedi cwymp y dail.

Dewis da arall ydy Sorbus ‘Joseph Rock’. Canghennau talsyth ydy’r nodwedd amlycaf o ran siâp y goeden yma sy’n golygu bod digon o le wrth ei thraed, peth i’w ganmol mewn gardd fechan.

Mae’n nodedig am ei lliw hydrefol, ceir coch, oren, copr a phorffor ymhlith ei dail. Daw’r aeron yn sypiau trymion sy’n newid o felyn hufennog i oren felyn wrth aeddfedu ac mae’r rhain eto’n aros ar y goeden wedi cwymp y dail.

Credir mai o China daeth Sorbus ‘Joseph Rock’ er bod elfen o ddirgelwch ynglŷn â’i hunion darddiad.

Treuliodd Joseph Rock ran o’i oes yn casglu planhigion yn China ac mae’n bur debyg mai dyna ei chynefin naturiol.

Awstriad oedd Joseph Rock, ac efallai’n wir fod gan yr Awstriaid ymdeimlad arbennig tuag at y pren criafol.

Dywed fy nghyfaill Heinz ei bod yn bryd gwneud schnapps pan ellir gwasgu tri diferyn o sudd o’r aeron cochion. Daliwch sylw tua Mallwyd.

http://www.y-cymro.com/awyr-agored/i/4441/
2016-10-07T00:00:00+1:00Garan urddasol o Gymru yn hedfan unwaith eto ar ôl saib o bedwar can mlynedd
AM y tro cyntaf er 400 mlynedd mae garan a aned yng Nghymru wedi hedfan uwchben Cymru unwaith eto.

Bu pâr o’r adar gwlyptir ysblennydd hyn yn nythu ar Wastadeddau Gwent eleni, gan fagu un cyw yn llwyddiannus a hedfanodd am y tro cyntaf ym mis Awst.

Mae’r adar yn tarddu o gynllun ailgyflwyno Prosiect Mawr y Garan a ryddhaodd 93 garan a fagwyd â llaw rhwng 2010 a 2014 ar Wastadeddau Gwlad yr Haf ac ardal y

Rhostiroedd yng Ngwarchodfa RSPB West Sedgemoor yng Ngwlad yr Haf.

Gyda thaldra o 4 troedfedd, mae’r aderyn llwyd, gosgeiddig hwn gyda gwddf hir, cain a thimpan crwm tebyg i gynffon ar ogwydd, yn olygfa syfrdanol a gellir clywed ei alwad dwfn soniarus o bellter o dros dair milltir.

Dywedodd Damon Bridge, rheolwr Prosiect Mawr y Garan yr RSPB: “Bu farw’r adar rhyfeddol yma drwy’r DU rhywbryd yn y 1600au, ar ôl bod yn ffefryn ar y bwrdd bwyd canoloesol.

“Mae’u gweld nhw wedi dychwelyd i’w hen gynefinoedd yn tynnu sylw at y pwysigrwydd o warchod ein gwlyptiroedd.”

Mae garanod angen ardaloedd gwlyb, diarffordd, tawel iawn i fridio a darparodd ardal ar Wastadeddau Gwent y gymysgfa gywir o safle nythu diarffordd a chynefin tawel yn llawn bwyd i fagu’r pâr hwn, a fydd bron yn sicr o ddychwelyd i fridio yno eto’r flwyddyn nesaf.

Dywedodd Richard Archer, swyddog cadwraeth yr RSPB ar gyfer Gwastadeddau Gwlad yr Haf ac Aber Afon Hafren: “Er bod y rhan fwyaf o’r adar sydd wedi cael eu rhyddhau wedi cyrraedd oed bridio nawr, un o dri yw’r pâr hwn o Gymru sydd wedi magu rhai ifanc yn llwyddiannus eleni, ac felly maen nhw’n hanfodol i lwyddiant hirdymor y prosiect.

“Gallai garanod wneud yn dda ar rannau o Wastadeddau Gwent os yw’r cynefin yn cael ei adfer i’r hyn a fu.”

Mae’r rhieni yn cael eu hadnabod fel Lofty a Gibble ac mae’r cyw a fagwyd wedi cael ei alw’n Garan.

Mae pob un o’r tri wedi dychwelyd i Wlad yr Haf lle maen nhw’n debygol o dreulio’r gaeaf gyda haid gynyddol o oddeutu 60 aderyn.

Er hynny, ar ôl magu cyw yn llwyddiannus ar Wastadeddau Gwent, mae siawns dda y byddan nhw’n dychwelyd i fridio yno eto’r flwyddyn nesaf.

Magwyd un pâr yn llwyddiannus yng Ngwlad yr Haf a magwyd un arall yn Wiltshire eleni.

Ar hyn o bryd, poblogaeth y garan wyllt yn y DU yw oddeutu 160, tua hanner o’r prosiect ailgyflwyno a hanner o ailgytrefu naturiol a fu’n digwydd yn nwyrain y wlad ers diwedd y 1970au.

Cafodd Prosiect Mawr y Garan ei gyllido gan Gwmni Amgylcheddol Viridor Credits gan ddefnyddio arbenigedd yr RSPB, Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir ac Ymddiriedolaeth Cadwraeth Pensthorpe.

Ewch i http://www.thegreatcraneproject.org.uk er mwyn darganfod mwy am y prosiect a lle i weld garanod yn y gwyllt.

http://www.y-cymro.com/awyr-agored/i/4416/
2016-10-04T00:00:00+1:00Gerallt Pennant yn cael ei swyno gan blanhigyn gosgeiddig
Craffwch ar y ddau air yma, hyd yn oed os ydy’r ddau yn hen gyfarwydd. Mae’n bwysig iawn eich bod yn sylwi yn fanwl ar y ddau. Dyma nhw – Brugmansia a Dierama. Mae yna ym myd garddio, fel sydd ym mhob maes, enwau tebyg sy’n gallu achosi dryswch.

Dyna i chi Corydalis a Corylopsis, Echinops ac Echinopsis, a Nerine a Nerium. Hawdd fyddai maddau i unrhyw un fyddai’n cymysgu’r planhigion yma.

Dim ond adyn penchwiban fyddai’n ffwndro rhwng Brugmansia a Dierama. Y prawf digamsyniol bod hynny’n bosib ydy bod cyfrannwr i gwis ar Radio Cymru wedi rhoi ei ddwy droed yn ei geg flynyddoedd maith yn ôl. Enw’r adyn penchwiban oedd Gerallt Pennant. Alla i ddim cofio enw’r cwis, na phwy oedd yn holi (na, ‘dydw i ddim yn dal dim dig) ond anghofia’i byth yr embaras, ie embaras, hwnna ydio, pan agorais fy ngheg cyn cyfri un heb sôn am ddeg!

Rhywbeth tebyg i hyn oedd y cwestiwn â’m lloriodd. “Mewn rhifyn o’r Clwb Garddio ar S4C (do, mi ddywedais bod hon yn hen stori) mi oeddet yn sôn am blanhigyn Brugmansia. Be ydy enw cyffredin y planhigyn yma?”

Yr ateb ddaeth o’m genau oedd “gwialen bysgota’r angylion” a’r ateb a ddylai fod wedi dod o’m genau oedd “utgyrn yr angylion”. Ie, fel dywedodd y dihafal Ifas, embaras!

O’r ddau, y Dierama sydd orau gennyf. Mae’n fwy gosgeiddig na’r Brugmansia, ac yn llawer haws ei gyfuno efo gweddill y planhigion mewn border cymysg. Unwaith bydd Dierama yn hoff o’i le, mi fydd yn hadu ei hun ac yn lledaenu’n hamddenol braf.

Gwn am ddwy ardd yn Nyffryn Conwy lle mae gwialen bysgota’r angylion wedi hen sefydlu, gerddi Meithinfa Aberconwy a Gardd Tal y Cafn Uchaf.

Diolch i Ann Jones, Tal y Cafn Uchaf am gael tynnu’r llun o’r Dierama yn ei gardd hithau. Yno roedd y pennau blodau’n hafaidd ddiog bendrwm, yn sigo a suo yn union fel yn eu cynefin naturiol yng nglaswelltiroedd De Affrica.

Yno y cafodd Carl Peter Thunberg (1743-1828) yntau ei gyfareddu gan y planhigyn yma, ac iddo fo mae’r clod am gyflwyno teulu’r Dierama i’n gerddi. Botanegydd o Sweden oedd Thunberg. Roedd yn ddisgybl i Carl Linnaeus, ac yn cael ei adnabod un ai fel ‘tad botaneg De Affrica’ neu ‘Linnaeus Siapan’. Clod os bu clod erioed.

Dyma’r un Carl Peter Thunberg a roddodd ei enw i’r Thunbergia, sydd efallai’n fwy cyfarwydd fel Siwsi lygatddu.

Tarddiad yr elfen Dierama ydy’r gair Groegaidd am dwmffat, tra bod gwialen bysgota’r angylion yn cyfleu naws freuddwydiol y planhigyn i’r dim. Teg ydy dweud bod utgyrn yr angylion yn ddisgrifiad di-fai o flodau’r Brugmansia.

Dichon y daw cyfle i sôn am y Brugmansia rhywbryd eto. Wedi’r cyfan, ‘dydw i ddim yn dal dim dig tuag ato!

Llun: Dierama

http://www.y-cymro.com/awyr-agored/i/4390/
2016-09-29T00:00:00+1:00O lili ddŵr fach wen!
Un o beryglon mawr bywyd, a garddio, ydy cymryd rhywbeth yn ganiataol. Er enghraifft, petai chi'n troi i Feibl mawr y planhigion, yr 'RHS A-Z Encyclopedia of Garden Plants', er mwyn darllen am lili'r dŵr fwya'r byd, chewch chi 'run sill amdani dan 'Nymphaea'.

Pam? Wel, am fod y sefydliad garddwriaethol yn ystod teyrnasiad Cwîn Victoria ofn ei phechu. Pwy tybed oedd ar fai am hynny? Ie, dyna chi, sefydliad garddwriaethol oes Victoria.

Cychwyn y drwg yn y caws oedd darganfyddiad yr anturiaethwr Aimé Bonpland.

Dywedir i'r Ffrancwr ddisgyn i ddŵr yr Amazon mewn gwewyr llwyr pan welodd y lili yn ei blodau am y tro cyntaf.

Llwyddodd Bonpland i oroesi'r dyfroedd ac erbyn 1849 roedd ei ddarganfyddiad botanegol yn blodeuo mewn tanc dŵr anferth.

Er mawr foddhad i sefydliad garddwriaethol oes Victoria, digwyddodd hynny yn Llundain yn hytrach na Pharis.

Cafodd y tanc ei gynllunio a'i adeiladu gan neb llai na Joseph Paxton, a dichon ei fod yntau ymhlith y garddwyr balch fu'n cyflwyno'r blodyn cyntaf i'w brenhines. Cyhoeddodd Paxton a'i griw mai enw'r planhigyn rhyfeddol oedd 'Victoria regina'.

Ond, ac mae hwn yn ond go fawr, dyma gyfaill o'r Almaen yn troi'r drol. Yn ddiarwybod i sefydliad garddwriaethol oes Victoria, roedd Eduard Poeppig eisoes wedi enwi'r planhigyn yn Euryale amazonica.

I aralleirio Wali Thomas, “cfeusus Mr Paxton!”.

Cafwyd cytundeb botanegol nad oedd Victoria yn wir aelod o deulu'r Euryale, ond ni chafwyd cyfaddawd ynglŷn â'r elfen amazonica.

Pwy felly oedd yn mynd i ddweud wrth Cwîn Victoria? Neb!

Feiddiai neb awgrymu fod arlliw o debygrwydd rhwng ei mawrhydi a'r Amazoniaid anwar!

Cadwyd y gyfrinach nes bod Victoria yn ei bedd, a dim ond wedyn cafodd y planhigion yng ngerddi Kew eu labelu'n gywir.

Mae'n amlwg i'r Victoria amazonica gael cryn ddylanwad ar Joseph Paxton.

Yn ogystal â'i danc dŵr, bu'n gyfrifol am adeiladu'r Palas Grisial yn Hyde Park ar gyfer sbloet fawr 1851. Bu Paxton yn astudio dail Victoria amazonica, ac yn eu gwythiennau mi welodd y patrymau ddaeth maes o law yn fframwaith haearn ei Balas Grisial.

Afraid dweud fod tyfu Victoria amazonica y tu hwnt i'r rhan fwyaf o arddwyr meidrol hyn o fyd.

Ond mae'r Nymphaea, gwir lili'r dŵr, o fewn cyrraedd pawb, hyd yn oed mewn gardd heb na phwll nac afon.

Mi fydd pob canolfan arddio gwerth ei halen yn gwerthu basgedi, compost a'r gwrtaith pwrpasol ar gyfer tyfu lili'r dŵr yn llwyddiannus.

Gwn am rai garddwyr sy'n tyfu lili'r dŵr mewn hanner casgen, sy'n gartref perffaith i un o aelodau lleiaf teulu lili'r dŵr.

Siawns bydd yr enw llawn, Nymphaea pygmaea, yn dweud digon i'ch argyhoeddi fod hon yn fach, cynnil a chwbl addas i le cyfyng.

Un o'r ffurfiau gorau ohoni ydy 'Helvola', sy'n nodedig am ei dail porffor, brith-dywyll.

Ond y blodau euraidd, sy'n agor yn llygaid haul, a chau wrth iddi oeri a nosi ydy gogoniant hon.

Os ewch chi'n ddigon agos, ac os ydy'ch trwyn yn ddigon main, mi gewch ffroeniad o bersawr cynnil yn ogystal â gwledd i'r llygaid.

Os ffolodd Paxton a'i griw ar Victoria amazonica, gwir y gair mai tlws yw popeth bychan. Yn enwedig blodau'r lotws lleiaf.

Llun: Nymphaea pygmaea 'Helvola'

http://www.y-cymro.com/awyr-agored/i/4235/
2016-09-07T00:00:00+1:00Teulu'r Hydrangea - hoff blanhigion y Cymry?
Arolygon. Tybed sawl tro mae'r geiriau canlynol wedi eu clywed ar gychwyn adroddiad ar y radio a'r teledu - “yn ôl arolwg diweddar”?

Mi ddylai rhywun gynnal arolwg. Os ydy hi'n bosib cynnal y fath beth ag arolwg dychmygol mi fentra'i nghrys byddai naw o bob deg o bobl Cymru'n adnabod Hydrangea.

Wedi'r cyfan mae'r Cymry wedi bod yn hael eu henwau efo'r llwyn yma. “Saith lliw'r enfys” meddai rhai, “trilliw ar ddeg” meddai eraill. “Ledi'r India” meddai'r Brŵs, diolch eto i Bruce a Dafydd am fod yn gefn cadarn a dibynadwy i'r llithoedd yma.

Mae'n debyg mai tarddiad yr enw hwnnw ydy'r ffaith bod llawer o deulu'r Hydrangea yn tarddu o gyffiniau'r Himalaya.

Mae gan ynysoedd yr Azores boblogaethau trwchus o Hydrangea cynhenid hefyd, 'yr ynys las' ydy enw lleol Ynys Faial gan bobl Portiwgal. Ia glas, a phetawn i'n gofyn ail gwestiwn fy arolwg dychmygol go brin byddwn i'n gorfod bwyta'n het petawn i'n darogan mai glas ydy'r lliw byddai naw o bob deg o bobl Cymru'n ei gysylltu efo'r Hydrangea.

Heblaw efallai am un cyfaill o Benegoes. Ond tybed faint o arolygon sydd wedi eu cynnal ymhlith y boblogaeth hynaws ym Mhenegoes?

Hoff stori'r cyfaill ydy iddo blannu dwy Hydrangea o bopty adwy'r ardd. Glas oedd blodau'r ddwy pan gawsant eu plannu ym mhridd mwyn Maldwyn. Flwyddyn yn ddiweddarach roedd un wedi diosg ei glesni a blodeuo'n binc llachar. Pam? Dyna i chi'r math o gwestiwn allai arwain at bentyrru mwy o eiriau na hyd yn oed y moroedd mawr o arolygon sy'n bygwth ein boddi ni gyd!

Soniodd y cyfaill ei fod wedi plannu'r llwyni yn agos i bileri brics giât yr ardd. Fy nyfaliad i ydy bod mymryn o galch yn llifo o'r morter yn y pileri wedi newid lliw'r blodau.

Gellir dweud yn weddol ffyddiog bydd Hydrangea yn blodeuo'n las ar dir sur a mawnog ac yn binc ar y garreg galch.

Un o'r rhesymau gwyddonol am hynny ydy mai'r Hydrangea ydy un o'r ychydig blanhigion sy'n gallu amsugno alwminiwm. Y tro nesa gwelwch chi becyn o gemegau sy'n addo newid lliw'r Hydrangea edrychwch ar y print mân ac mi welwch mai sylffad alwminiwm ydy'r prif gynhwysyn.

Ewch gam bach yn ôl i'r oes cyn yr archfarchnadoedd o ganolfannau garddio ac mae'n hawdd deall sut cychwynnodd yr arfer o gladdu hen hoelion a phedolau ym môn yr Hydrangea yn y gobaith o ddylanwadu ar liw'r blodau.

Gair i gall, mae bodloni ar beth gewch chi gan lwyn sy'n blodeuo'n hael o ganol haf tan hydref yn well nag ofer boeni am ei liw. Dyna'r wers o Benegoes beth bynnag, amen meddaf innau.

Neu mi allech gefnu ar y lliwiau a phlannu Hydrangea wen. H. paniculata ydy un o'r goreuon, ac fel mae'r enw'n awgrymu, paniglau yn hytrach na'r 'pen mop' sydd gan hon.

Peth peryg ydy galw blodyn yn wyn. O bell, claer wyn ydy blodau H. paniculata ‘Grandiflora', ond craffwch, ac mi welwch awgrym cynnil o wawr yr enfys yng ngwythiennau cywrain y blodau.

Planhigyn hawdd ei dyfu ydy'r Hydrangea, mae'n siŵr bod hynny'n rhannol gyfrifol am ei boblogrwydd. Petai'r fath beth â'ch bod yn cael eich holi am hoff blanhigion y Cymry, cofiwch enwi'r Hydrangea, rhag i mi golli nghrys, ac mae'n gas gen i flas het.

Llun: Hydrangea paniculata

http://www.y-cymro.com/awyr-agored/i/4201/
2016-09-02T00:00:00+1:00Un o straeon mawr y byd garddio
Ystyriwch y lili, ac ystyriwch ddyn cloff o Chipping Campden.

Y lili ydy Lilium regale a'r dyn ydy Ernest Henry Wilson ac mae ei hanes o a'r lili wen o China yn un o straeon mawr y byd garddio.

Nid ar chwarae bach cafodd Ernest Wilson y llysenw 'Chinese' Wilson. Cafodd ei yrru i China yn 1899 gan gwmni James Veitch a'i dasg gyntaf yn y wlad bell oedd canfod a chasglu hadau'r goeden hances boced, Davidia involucrata.

I'r dyn ifanc tair ar hugain oed nad oedd wedi teithio fawr iawn pellach na Llundain cyn hynny roedd yr antur yma'n gychwyn cyfnod fyddai'n cysylltu ei enw efo de ddwyrain Asia am byth.

Erbyn diwedd ei yrfa roedd wedi canfod a chyflwyno miloedd o blanhigion, a bu bron iddo golli ei fywyd yng ngheunant serth yr afon Min.

Yno ym mis Mehefin 1910 gwelodd Wilson y lili fawr wen yn tyfu yn ei chynefin gwyllt am y tro cyntaf.

Er ei fod eisoes wedi gweld cymaint o ryfeddodau botanegol mae'n debyg bod yr olygfa wedi ei gyfareddu'n llwyr.

Ceir cofnod yn ei ddyddiadur am y degau o filoedd o flodau, pob un yn drwmped lliw gwin oddi allan ac yn glaer wyn a melyn oddi mewn.

Disgrifia'r paill euraidd ar yr antherau, y sawr melys ar awel y bore a'r wefr fyrhoedlog o weld y tir cras yn wlad y tylwyth teg.

Wedi'r telynegu cychwynnwyd ar y gwaith o farcio lleoliad chwe mil o'r planhigion er mwyn codi'r bylbau yn yr hydref.

Gorffennwyd y gwaith marcio erbyn y 3ydd o Fedi a phenderfynodd Wilson ddathlu'r achlysur trwy gael ei borthorion i'w gludo yn ei gadair sedan ar hyd un o lwybrau serth y dyffryn.

Cofnodir yn ei ddyddiadur ei fod wedi cychwyn y daith yn hwyliog a'i galon yn llawn cân, ond byr fu ei lawenydd.

Roedd llechweddau dyffryn afon Min yn nodedig o ansefydlog a bu ond y dim i Wilson a'i gi, ei gadair a'i borthorion gael eu claddu dan dirlithriad enbyd.

Cafodd ei goes dde ei chwalu gan dalp o graig ac mae'n disgrifio'r boen fel gwifren boeth yn serio'i gnawd.

Er gwaetha'i boen fe lwyddodd Wilson i gyfarwyddo ei borthorion i ddefnyddio trybed ei gamera i gynnal ei goes.

Bu'n rhaid iddo orwedd yn ei unfan wedyn tra bu'r mulod pwn yn camu trosto.

Dywed nad oedd wedi sylweddoli cyn hynny pa mor fawr oedd carn mul.

Cafodd Ernest Wilson ei gario am dridiau gan ei borthorion ffyddlon i ysbyty yn Chengdu.

Erbyn hynny roedd ei glwyfau yn llidiog a bu ond y dim iddo golli ei goes.

Llwyddodd llawfeddyg o'r enw Dr. Davidson i arbed ei goes ond bu'n gloff am weddill ei fywyd.

Er gwaetha hyn i gyd mi gafodd y bylbau ei codi, eu gorchuddio fesul un efo haen o fwd yr afon, eu pacio mewn cistiau te a'u gyrru i Brydain.

Cafodd garddwyr drysor o blanhigyn a chafodd Ernest Wilson y cloffni gafodd ei alw'n 'lilly limp' am weddill ei oes.

Y tro creulon yng nghynffon hanes bywyd Ernest Wilson ydy iddo fo a'i wraig Helen gael eu lladd mewn damwain car yn America yn 1930.

http://www.y-cymro.com/awyr-agored/i/4123/
2016-08-19T00:00:00+1:00Nid glas pob Agapanthus, nid hanner blodyn ychwaith, ond campwaith
OS oes yna blanhigyn sydd wedi bod yn destun croes dynnu a chamddealltwriaeth, yr Agapanthus ydy hwnnw. Erbyn heddiw, lili las Affrica ydy enw cyffredin, a chwbl dderbyniol, Agapanthus.

Ond er gwaethaf y tebygrwydd gweledol i flodau’r lili, nid gwir lili ydy hon yn yr ystyr fotanegol.

Treuliodd gyfnodau wedi ei dosbarthu i deulu’r Amaryllis, ac yna’r Allium, sef llinach y nionyn.

Erbyn hyn mae Beibl mawr yr RHS, yr ‘A to Z Encyclopedia of Garden Plants’ yn dosbarthu Agapanthus fel ‘Alliaceae/Liliaceae’.

Camp yr Agapanthus ydy codi ei phen tu hwnt i unrhyw ensyniad gwawdlyd o fod yn hanner lili a hanner nionyn!

Testun trafod arall ynglŷn â’r Agapanthus ydy pot, neu bridd y border. Dyma’n sicr un o’r planhigion gorau i’w dyfu mewn pot, gan fod cyfyngu’r gwreiddiau yn annog mwy a mwy o flodau.

Y ddadl yn erbyn eu tyfu ym mhridd yr ardd ydy honno am ein gaeafau oer a gwlyb. Mae’n werth cofio mai’r Agapanthus sy’n fwyaf tebygol o ddygymod efo gaeafau Cymru ydy’r mathau efo’r dail main gwydn, yn hytrach na’r mathau efo’r dail llydan, cnawdiog. Ie dyna chi, dail tebyg i’r Amaryllis.

Fel pob planhigyn gaiff ei dyfu mewn pot, mi fydd yn rhaid i chithau fod yn fwy parod i ddandwn, ac i gario ac estyn.

Heb amheuaeth, compost John Innes rhif 3 ydy’r gymwynas bwysicaf. Mi ddylid dyfrio a bwydo yn hael a chyson yn ystod y tymor blodeuo a chodi’r rhastal pan ddaw’r gaeaf.

Wedi tri thymor mewn pot, mi fydd yn rhaid gwahanu’r belen o wreiddiau ac ail blannu’r tyfiant ymylol ac egnïol. Waeth i chi heb a chadw canol llesg a diog y belen wreiddiau.

Afraid dweud bydd planhigion sydd â’u traed yn rhydd ym mhridd yr ardd yn elwa ac yn bywiogi wrth gael eu codi a’u gwahanu yn yr un modd.

Agapanthus ‘Blue Giant’ ydy un o’r ffurfiau mwyaf o ran maint, ac mae’n haeddiannol boblogaidd. Mae’r enw yn adrodd cyfrolau, a’r blodau yn berffaith driw i’r enw lili las Affrica.

Ond fel ym mhob teulu, mae ambell un yn tynnu’n groes, ac yn esgor ar fymryn o gamddealltwriaeth.

Er yn drydanol las, nid ffurf lili sydd gan flodau Agapanthus inapertus, planhigyn tawel a chynnil o’i gymharu â rhwysg y cawr glas.

Afraid dweud mai gwyn, a hwnnw’n wyn claerwyn ydy Agapanthus ‘Snowy Owl’.

Na, nid glas pob Agapanthus, nid hanner blodyn ychwaith, ond campwaith.

Llun: Agapanthus inapertus

http://www.y-cymro.com/awyr-agored/i/4097/
2016-08-15T00:00:00+1:00Twf mewn twristiaeth ar y gorwel wrth i lwybr ceffyl newydd gysylltu parciau gwledig
Gallai llwybr ceffyl newydd sy’n agor milltiroedd o lwybrau merlota diogel trwy goetiroedd yn Ne Cymru agor y ffordd i dwf mewn twristiaeth merlota yn yr ardal.

Mae’r llwybr tua 14 milltir (23 cilometr) o hyd ac yn cysylltu Parc Gwledig Cwm Dâr, ger Aberdâr gyda Pharc Gwledig Barry Sidings, i'r gogledd o Bontypridd.

Dylai’r llwybr, sy’n treiddio trwy Coedwigoedd St Gwynno a Gelliwion, fod ar agor erbyn y mis nesaf (Mawrth) ac mae wedi’i groesawu gan ferlotwyr fel ‘bonws mawr’ a allai ddod â manteision economaidd pwysig i ardal Rhondda Cynon Taf.

Mae’r prosiect yn cael ei ddarparu gan Groundwork Merthyr a Rhondda Cynon Taf mewn partneriaeth â Chomisiwn Coedwigaeth Cymru a Briars Bridleways, grŵp o ferlotwyr a sefydlwyd yn 2007 yng Nghwm Cynon i ymgyrchu am adnoddau merlota diogel oddi ar y ffordd.

Mae’n cael ei ariannu gan Raglen Blaenau’r Cymoedd a’i gefnogi gan Gymdeithas Ceffylau Prydain a’r Gymdeithas Mannau Agored.

Mae’r llwybr yn dangos ymrwymiad Comisiwn Coedwigaeth Cymru i wella mynediad i geffylau ac i gynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer merlota diogel oddi ar y ffordd, yn ogystal â dod â manteision economaidd i'r ardal.

Bydd Briars Bridleways yn archwilio’r llwybr bob blwyddyn ac mae’n gobeithio trefnu digwyddiadau rheolaidd arno; mae hefyd yn cysylltu â llwybrau cerdded a beicio ac yn ymuno â llwybrau ceffylau sy’n bodoli eisoes.

Mae cytundeb rheoli rhwng Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Groundwork Merthyr a Rhondda Cynon Taf i gynnal y llwybr. Mae’r rhan fwyaf ohono dros dir Llywodraeth Cymru.

Dechreuodd Groundwork Merthyr a Rhondda Cynon Taf ar y gwaith y mis yma i uwchraddio rhannau o'r llwybr ac i osod rhwystrau cyfeillgar i geffylau ynghyd ag arwyddion.

Meddai cadeirydd Briars Bridleways, Stephanie Davies, “Mae’r llwybr ceffylau newydd hwn yn fonws enfawr i ferlotwyr yn Rhondda Cynon Taf a bydd yn rhoi llawer iawn mwy o gyfle i ferlota’n ddiogel oddi ar y ffordd mewn cefn gwlad ffantastig.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y llwybr hefyd yn annog twristiaeth merlota – byddai hynny o fudd i gerddwyr ac i feicwyr fel ei gilydd.

“Mae ar Briars Bridleways a Chymdeithas Ceffylau Prydain ddyled enfawr i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru a Groundwork Merthyr a Rhondda Cynon Taf am eu cymorth a chefnogaeth mewn datblygu’r llwybr.”

Meddai Richard Phipps, Cydlynydd Lleoedd Groundwork Merthyr a Rhondda Cynon Taf, “Mae’r llwybr pwysig hwn yn gam ymlaen at gyrraedd amcanion Briars Bridleways, Cymdeithas Ceffylau Prydain a merlotwyr lleol i hyrwyddo adnoddau diogel oddi ar y ffordd i ferlotwyr yn Rhondda Cynon Taf.

“Mae’n adeiladu ar y cysyniad o lwybrau ‘Dolen a Chyswllt’ (Loop and Link) a lansiwyd gan Groundwork Merthyr a Rhondda Cynon Taf yn 2005 a bydd yn agor rhannau mawr o Rondda Cynon Taf.

Dylai taflen a map fod ar gael ym mis Mawrth oddi wrth Groundwork Merthyr a Rhondda Cynon Taf trwy’r wefan www.loopsandlinks.co.uk, Briars Bridleways a chanolfannau croeso lleol.

http://www.y-cymro.com/awyr-agored/i/892/
2012-02-10T00:00:00+1:00Plannu’r coetir newydd mwyaf yng Nghymru ers dros 20 mlynedd
Mae coetir maint tua 140 o gaeau rygbi yn cael ei blannu ar hen dir fferm yn nyffryn Efyrnwy Uchaf - y cynllun plannu newydd mwyaf yng Nghymru ers dros 20 mlynedd.

Bydd Coetir Cyffin, sy’n cymryd ei enw o’r fferm a oedd arfer bod ar y tir, yn cael ei blannu gan Will Woodlands, elusen sy’n cael ei hariannu’n breifat a'i nod yw plannu coed i gyfoethogi treftadaeth a chadwraeth natur.

Hwn yw’r prosiect mwyaf i gael ei gymeradwyo hyd yn hyn o dan gynllun Creu Coetir Glastir y mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn ei ddarparu ar ran Llywodraeth Cymru.

Ar wahân i rywfaint o dir cynefin mewn cytundeb Tir Gofal, bydd y cyfan o’r 140 hectar o ffermdir yn cael ei blannu, yn bennaf gyda choed dail llydan brodorol, gan gynnwys derwen, onnen, gwernen, masarnen fach a choed ceirios.

Yn ogystal â chyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o greu 100,000 hectar o goetir newydd yn ystod yr 20 mlynedd nesaf, bydd y coetir newydd yn hwb i fywyd gwyllt a bioamrywiaeth trwy gysylltu gweddillion coetir brodorol presennol.

Bydd y coetiroedd hefyd yn creu swyddi, gyda choedwigwr llawn amser yn cael ei gyflogi i reoli ystâd Cyffin a bydd rhagor o waith i gynhyrchu, plannu a chynnal y coed.

Dywedodd llefarydd dros Will Woodlands fod yr elusen yn edrych ymlaen at reoli a chynnal coetiroedd Cyffin yn nhraddodiadau gorau coedwigaeth Prydain.

Ychwanegodd, “Mae wedi bod yn anodd cael ardaloedd sylweddol o dir yng Ngogledd Cymru yn y blynyddoedd diweddar ar gyfer plannu newydd sy’n cyfarfod â’r meini prawf ansawdd ac amgylcheddol.

”Mae’r cyfle i gyfrannu at amgylchedd ac economi gogledd Cymru drwy blannu coetir newydd, yn bennaf o goed dail llydan brodorol ac ar y raddfa hon yn un i'w drysori."

Mae grant Glastir, sy’n rhan o gynllun newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli tir yn gynaliadwy, wedi disodli Gwell Coetiroedd i Gymru, sydd erbyn hyn wedi cau ar gyfer ceisiadau newydd.

Meddai Ken Smith, swyddog coetir Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn y t?m Grantiau a Rheoleiddiad, “Yn ogystal â gwella bioamrywiaeth yr ardal, bydd creu rhagor o goetir yn cyfrannu at yr economi werdd sy'n datblygu yng Nghymru drwy ddarparu deunydd adeiladu cynaliadwy, tanwydd adnewyddol a swyddi gwyrdd.”

Am ragor o wybodaeth ar y grantiau sydd ar gael i blannu coetir newydd, ffoniwch 0300 068 0300 a gofynnwch am d?m coetir Glastir Comisiwn Coedwigaeth Cymru, e-bost: bww.ts@forestry.gsi.gov.uk neu edrychwch ar lein ar www.forestry.gov.uk/glastirwoodland.

http://www.y-cymro.com/awyr-agored/i/868/
2012-02-09T00:00:00+1:00Cau rhan o Lwybr Mawddach
O’r 13eg o Chwefror, bydd angen i feicwyr a cherddwyr ar Lwybr y Fawddach ddechrau neu gwblhau eu taith o feysydd parcio Bont y Wernddu neu Lyn Penmaen yn hytrach na’r Marian yn Nolgellau.

Oherwydd gwaith gan Gyngor Gwynedd i osod pont newydd rhwng Coleg Meirion Dwyfor a’r Marian yn Nolgellau, bydd rhan o Lwybr y Fawddach wedi ei chau. Disgwylir i’r cymal yma o’r llwybr fod ar gau am o leiaf 2 fis.

Ystyrir y llwybr hwn sy’n mesur 9 milltir rhwng Dolgellau ac Abermaw, yn un o lwybrau gorau Prydain i gerddwyr a beicwyr, a bydd ychwanegu pont newydd dros yr afon Wnion yn hwyluso’r daith i gerddwyr a beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn o bob oed. Bydd y bont newydd hefyd yn gwella’r llwybr cyhoeddus o Goleg Meirion Dwyfor at dref Dolgellau.

Ar ran Awdurdod y Parc Cenedlaethol, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Wardeinio a Mynediad, Mair Huws: “Rydan ni’n ymddiheuro am unrhyw anhwylustod fydd cau’r rhan yma o’r llwybr yn ei greu. Ar hyn o bryd nid yw’r bont a’r llwybrau o boptu iddi yn hwylus iawn i bawb.

"Ond unwaith bydd y bont newydd yn ei lle a’r llwybrau wedi eu hail lunio, mi fydd yn haws i gerddwyr, defnyddwyr cadair olwyn a beicwyr o bob oed fwynhau’r Llwybr ar ei hyd.”

Ychwanegodd Pete Trumper, Rheolwr Eiddo’r Parc: “Mae hon yn fenter gyffrous iawn, ac rydan ni’n hynod o falch o gael cydweithio gyda Chyngor Gwynedd i sicrhau fod mwy o bobl yn cael mwynhau’r rhan yma o’r llwybr. Mae’n diolch ni’n fawr i’r Cyngor am iddyn nhw allu ariannu a hwyluso’r cynllun pwysig yma.”

Disgwylir i’r rhan hon o’r Llwybr fod ar gau am o leiaf ddau fis tra bydd y bont newydd yn cael ei gosod. Os bydd unrhyw ddatblygiadau pellach yn y gwaith, bydd y newidiadau i’w gweld ar wefan yr Awdurdod, www.eryri-npa.gov.uk a thudalennau Facebook a Twitter yr Awdurdod.

http://www.y-cymro.com/awyr-agored/i/871/
2012-02-09T00:00:00+1:00Prosiect coed ysgol yn dwyn ffrwyth
Mae’n bosib y cewch eich temtio i dynnu’r mwyar sy’n sgleinio yn y cloddiau ar gyfer pwdinau a jamiau, ond mae plant ysgol wedi bod yn darganfod sut maen nhw hefyd yn fwyd i fyrdd o fywyd gwyllt yn y goedwig leol.

Yn ddiweddar roedd Ceidwad Darganfod Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Tom Moses, wedi mynd â dosbarth o blant o Ysgol Gymunedol Wdig i Goedwig Lawrenni yn Garon Pill am brynhawn o archwilio cynefin coetir.

Dywedodd Tom : “Dyma oedd y sesiwn olaf gyda’r ysgol fel rhan o’r prosiect Ein Coed Ein Dyfodol.

“Mae’r plant wedi dylunio a phlannu perllan ar dir eu hysgol, ac roedd y sesiwn hwn yn canolbwyntio ar sut mae coed yn cynnal bywyd gwyllt, megis gwiwerod, llygod y dŵr, moch daear ac adar fel y tingoch du, gyda’u ffrwythau a’u cnau gan gynnwys mes, llus, cnau ffawydd a mwyar.”

Dywedodd yr athrawes Sarah Lewis: “Mae’r plant wedi plannu’r berllan yn yr ysgol ac wedi gofalu amdani, ond mae gweld y coed yn eu cynefin wedi eu helpu i ddeall eu pwysigrwydd.

“Roedden nhw’n wir wedi mwynhau adnabod y gwahanol fathau o goed yn y goedwig, gan ddweud mai’r un o’r pethau gorau oedd Tom yn dangos iddynt sut i wybod oedran coeden trwy fesur y pellter rhwng y cylchoedd yn y boncyff.”

Mae’r ysgol yn un o 13 ysgol ar draws y sir sy’n cymryd rhan yn y prosiect Ein Coed Ein Dyfodol. Mae’r prosiect yn clymu i mewn â gwaith 2011 fel Blwyddyn Ryngwladol Coedwigaeth.

Roedd ysgolion eraill wedi dod â’r prosiect Ein Coed Ein Dyfodol i ben gyda theithiau i berllan yn Sant-y-brid i wneud sudd afal a Chanolfan Coetir Awdurdod y Parc yng Nghilrhedyn i edrych ar sut mae gatiau, sticlau, celfi a chynhyrchion defnyddiol eraill yn cael eu gwneud allan o goed.

Ariennir y prosiect gan Gynllun Grant Bach Gwyrdd a reolir gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro gyda chefnogaeth oddi wrth Gronfa Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a reolir gan Awdurdod y Parc.

Llun: Disgyblion blwyddyn pedwar a phump Ysgol Gymunedol Wdig gyda staff a’r Ceidwad Darganfod Tom Moses yng Nghoedwig Lawrenni

http://www.y-cymro.com/awyr-agored/i/634/
2011-10-21T00:00:00+1:00Grant i astudio crychdonnau ar fflatiau llaid a thraethau
Mae banciau tywod a phonciau llaid yn ffurfio rhwystrau pwysig o amgylch ein harfordir. Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn arwain project ymchwil o bwys i asesu sut caiff y deunyddiau mân hyn eu symud gan gerrynt dŵr yn y parth arfordirol, a sut gallai’r symudiad hwn newid o ganlyniad i newid mewn hinsawdd.

Cyllidir y project ymchwil ar y cyd hwn, o’r enw COHBED, gan y Cyngor Ymchwil i’r Amgylchedd Naturiol (NERC). Bydd yn ymchwilio i sut y mae presenoldeb mwd ‘gludiog’ cydlynol mewn gwaddod tywodlyd yn dylanwadu ar erydu, cludo a dyddodi’r gwaddod cymysg hwn mewn moroedd ac afonydd.

“Mae’r Deyrnas Unedig yn genedl arfordirol gyda’r rhan fwyaf o bobl yn byw o fewn ychydig filltiroedd i’r môr. Ceir hyd i fwd a thywod mewn llefydd lle mae egni’r tonnau, llanw a llif afonydd yn isel, a gellir dyddodi’r gwaddodion hyn a gludir gan ddŵr ar wely’r môr. Mae cynefinoedd mwdlyd a thywodlyd yn bwysig iawn ar gyfer ecoleg ac economi Prydain. Maent yn darparu bwyd ar gyfer llawer o rywogaethau o adar a physgod, ond hefyd yn gwarchod yr arfordir rhag grymoedd erydol y môr. Maent hefyd yn gweithredu fel ffilter, lle caiff llygryddion o’r afonydd eu dal a’u diraddio yn y pen draw. Oherwydd pwysigrwydd y systemau hyn, mae eu hymddygiad naturiol a’u sefydlogrwydd yn bryder cynyddol fel y mae lefelau’r môr yn codi gyda newid mewn hinsawdd”, eglura Dr Jaco H. Baas, Darlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion a Phrif Ymchwilydd y project.

Ychwanega Dr Baas: “Y prif reswm dros sefydlu’r project hwn yw nad oes gennym lawer o wybodaeth wyddonol i’n helpu i ragfynegi sut bydd traethau a fflatiau llaid naturiol yn ymateb i rymoedd newidiol y llanw, y gwynt a’r tonnau. Pan fydd dŵr yn llifo dros wely’r môr, mae egni’r llif yn siapio’r gwaddod yn arweddion tonnog, fel crychdonnau. Mae’r hyn a elwir yn ‘wely-ffurfiau’ (bedforms) yn helpu i reoli erydiad a chludiant tywod, mwd, maetholion a llygryddion bob diwrnod, ond hefyd mewn cyfnodau o stormydd, llawer iawn o law a llifogydd arfordirol.”

“Mae gwybodaeth a fydd yn ein galluogi i ragfynegi maint a symudiad gwely-ffurfiau yn hanfodol ar gyfer llawer o ddisgyblaethau amgylcheddol, fel rheoli’r amgylchedd, peirianneg hydrolig, bioleg cynefin benthig, modelu cyfrifiadurol o gludo gronynnau a daeareg waddodol. Fodd bynnag, ceir diffyg gwybodaeth lwyr bron iawn am wely-ffurfiau sy’n cynnwys cymysgedd o dywod a mwd. Rydym yn gwybod bod gwaddodion tywodlyd yn ‘anghydlynol’, oherwydd nid yw’r gronynnau tywod yn glynu â’i gilydd, tra bo mwd wedi’i greu o ronynnau llai sy’n glynu â’i gilydd, ac felly fe’i gelwir yn waddodion ‘cydlynol’. Mae’r gwahaniaeth hwn yn un o dargedau astudiaeth y project COHBED.”

Mae’r project COHBED yn gydweithrediad ag ymchwilwyr o’r National Oceanography Centre yn Lerpwl (Yr Athro Peter Thorne), a Phrifysgolion Leeds (Dr Daniel Parsons), Plymouth (Dr Sarah Bass) a St Andrews (Yr Athro David Paterson), gyda phob un yn cyfrannu eu harbenigedd penodol mewn ffiseg, mathemateg, gwaddodeg a bioleg at y project. Mae cyfanswm y gyllideb ychydig o dan £1 miliwn; bydd hyn yn helpu i gyflogi pump o Ymchwilwyr Ôl-ddoethurol yn ystod gwahanol gamau’r project tair blynedd, yn ogystal ag un myfyriwr PhD.

Daeth y project COHBED yn gydradd ail yng nghynllun Grantiau Safonol diweddaraf y Cyngor Ymchwil i’r Amgylchedd Naturiol. Daw’r grant, ym maes gwaddodeg, yn dilyn y ‘hat trick’ diweddar o lwyddiannau mewn Eigioneg Ffisegol yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion.

http://www.y-cymro.com/awyr-agored/i/636/
2011-10-21T00:00:00+1:00Cydbwyso mieri, rhedyn a gloÿnnod byw
Gall cadw llwybrau a Hawliau Tramwy yn glir ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro fod yn destun pigog- yn llythrennol, gyda chydbwysedd dyrys i’w gynnal rhwng cadw cynefinoedd arbennig a chadw cerddwyr yn ddiogel, yn enwedig yn yr ardaloedd arfordirol.

Mae’n waith y bydd timau hamdden a chadwraeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ymgodymu ag ef, gyda chynnal a chadw llystyfiant trwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd Charles Mathieson, Pennaeth Hamdden a Thwristiaeth Awdurdod y Parc: “Mae ein staff wedi’u hyfforddi i adnabod rhywogaethau arbennig, megis tegeirian y gors.

“Rydyn ni’n gwneud ein gorau i dorri ar adegau er mwyn mwyhau’r fioamrywiaeth o gwmpas y llwybrau, ond rhaid i hyn bob amser gael ei gydbwyso yn erbyn ein dyletswydd i ofalu am iechyd a diogelwch y cyhoedd ac i gadw Hawliau Tramwy yn agored ac ar gael i’w defnyddio.

“Gall rhedyn dyfu’n gyflym i uchder o chwe throedfedd a chwympo tuag i mewn, a gall hyn ynghyd â mieri sy wedi gordyfu greu peryglon baglu arwyddocaol.”

Mae angen trafod torri llethrau glas, megis y rheiny ar Faes Tanio Castell Martin, yn sensitif hefyd.

Dywedodd Geraint Jones, Swyddog Cadwraeth Fferm Awdurdod y Parc: “Yn ddiweddar rydyn ni wedi bod yn ymarfer torri gwair a byrnu yng Nghastell Martin yn fwriadol hwyr er mwyn rhoi cyfle i’r planhigion blodeuol i hadu. Fe welwyd sioe hyfryd o flodau pengaled sy’n hynod bwysig i wenyn cyn gaeafgwsg.

“Fe symudon ni'r llystyfiant oedd wedi’i dorri hefyd er mwyn lleihau ffrwythlonder a gwella bioamrywiaeth ar y safle.

“Gall mynwentydd hefyd, megis y rhai yn Ystagbwll a St Mary’s, Dinbych y Pysgod, fod yn ardaloedd bywyd gwyllt pwysig iawn ac mae ein patrwm torri o ‘dorri a chludo ymaith’ yn gymorth i gynnal a gwella'r ardaloedd hyn.”

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Llwybr Arfordir Penfro, cynefinoedd yr arfordir a phrosiectau tir pori ar lethrau’r arfordir, ewch i www.pembrokeshirecoast.org.uk

Llun: Warden Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn strimio ar Lwybr yr Arfordir

http://www.y-cymro.com/awyr-agored/i/644/
2011-10-20T00:00:00+1:00Ffilm yn annog pobl i helpu Apêl Eryri
FE ysgogodd cyflwr fferm Gymreig bâr o gynhyrchwyr ffilmiau i wneud ffilm i annog y cyhoedd i helpu i ddiogelu ei dyfodol.

Wedi eu hysbrydoli gan apêl gyhoeddus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i brynu Llyndy Isaf yn Eryri, fe greodd y gwneuthurwyr ffilmiau Pete Dungey a Joe Spiteri ffilm gyfareddol yn dangos harddwch y fferm.

Er na fu’r pâr erioed yn Llyndy Isaf cyn hyn, pan wnaethon nhw sylweddoli beth oedd yn y fantol roedden nhw’n teimlo cymhelliant i helpu apêl godi arian yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i brynu’r fferm a’i diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd Pete: “Mae Llyndy Isaf yn rhan hanfodol a gwerthfawr o Eryri. Gallai heddwch yr ardal gael ei chwalu mor hawdd ac roedden ni eisiau defnyddio ein sgiliau i helpu i ddiogelu ei ddyfodol.”

Fe enwodd y pâr eu campwaith hudol, llawn awyrgylch yn ‘Imprisoned Paradise’ gan eu bod yn credu fod y rhan yma o Eryri’n eidyl heddychlon sy’n cael ei dal yn gaeth gan y mynyddoedd o gwmpas.

Dywedodd Pete: “Nid pawb sy’n ddigon lwcus i allu ymweld â’r rhan yma o Gymru, felly nod ein ffilm ydi cludo’r gwyliwr i’r ardal am dri munud byr, fel y gall hyd yn oed rywun mewn swyddfa yn Llundain werthfawrogi’r ardal a chyfrannu, gobeithio.”

Fe dreuliodd y pâr ddyddiau dan gynfas, yn dioddef tywydd erchyll i greu ffilm hudolus a all helpu i dynnu sylw’r cyhoedd at y lle anhygoel yma a’r apêl bwysig.

Yn gynharach eleni fe lansiodd yr actor Cymreig rhyngwladol Matthew Rhys yr ymgyrch i godi £1 filiwn i ddiogelu Llyndy Isaf.

Fe alwodd ar bobl Cymru a thu hwnt i helpu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i godi’r arian i brynu’r fferm fynydd 600 erw (248 he) yma ar lannau Llyn Dinas yn Eryri, apêl gefn gwlad fwyaf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y Deyrnas Unedig mewn dros ddeng mlynedd.

Ers lansio’r apêl fe godwyd y swm anhygoel o £750,000 ond mae angen un ymdrech olaf i gyrraedd yr £1filiwn sydd ei angen i brynu’r fferm.

Dywedodd Matthew Rhys yn ddiweddar: “Diolch yn fawr iawn i bob un ohonoch chi sydd wedi cyfrannu eich arian eisoes i’n helpu i ddiogelu Llyndy Isaf.

“Mae pobl o bell ac agos wedi bod yn hael iawn, ond dydyn ni ddim yna eto ac mae’r cloc yn tician.

“Mae’r ffermwr wedi rhoi tan ddiwedd y flwyddyn i ni ac os na chodwn ni’r filiwn o bunnau erbyn hynny fe gaiff y fferm ei gwerthu ar y farchnad agored.

“Felly os ydych chi, fel finnau’n caru Eryri ac eisiau helpu i ofalu am yr un gornel arbennig yma cyfrannwch tuag at Apêl Eryri, mae arnon ni wir angen ein help.”

Gellir gweld ffilm Pete a Joe, ‘Imprisoned Paradise’ ar www.nationaltrust.org.uk/snowdoniaappeal

? Os oes rhywun sy’n dymuno cyfrannu, trefnu digwyddiad i godi arian neu i gefnogi’r apêl mewn unrhyw ffordd arall, cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar 0844 800 1895, neu www.nationaltrust.org.uk/snowdonia. Seciau’n daladwy i’r National Trust (ysgrifennwch ‘Snowdonia Appeal’ ar y cefn) i’w hanfon at: The National Trust Supporter Services Centre, PO Box 39, Warrington WA5 7WD

http://www.y-cymro.com/awyr-agored/i/620/
2011-09-29T00:00:00+1:00Mwynhewch fis arall yn Abaty Ystrad Fflur
Yn dilyn buddsoddi helaeth mewn gwasanaethau ymwelwyr a dehongliad safle Abaty Ystrad Fflur yn ddiweddar bydd Cadw, gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn ymestyn tymor agor Abaty Ystrad Fflur yn 2011 o un mis calendr llawn, tan ddydd Llun 31ain o Hydref 2011. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â phrisiau ac amseroedd agor ar gael ar www.cadw.wales.gov.uk.

Mae Abaty Ystrad Fflur yn safle treftadaeth diwylliannol bwysig ac atgofus wedi ei leoli mewn lleoliad hardd ar gyrion Mynyddoedd y Cambrian. Yn dilyn buddsoddiad o £400,000 mae’r safle bellach yn gallu brolio canolfan ymwelwyr newydd ei hadnewyddu, arddangosfa a gardd.

Mae Abaty Ystrad Fflur yn cynnwys adfeilion Mynachlog Sistersaidd a sefydlwyd ym 1164. Mae ganddo arwyddocâd arbennig i genedligrwydd Cymreig oherwydd y cysylltiad agos â Thywysogion Cymreig canoloesol y Deheubarth (de-orllewin Cymru), â llawer ohonynt wedi eu claddu ar y safle.

Disgynnodd yr Abaty yn adfeilion yn dilyn diddymu’r mynachlogydd yng nghanol yr unfed ganrif ar bymtheg. Erbyn heddiw'r nodwedd fwyaf hynod sydd wedi goroesi ydi drws gorllewinol pengrwn yr hen eglwys sydd wedi ei haddurno’n gain.

Mae’r Abaty wedi ei nodi fel tarddle Brut y Tywysogion, dogfen ganoloesol bwysig lle y dysgom lawer o’r hyn a wyddom am dywysogion Cymreig y cyfnod, ac sydd hefyd yn gysylltiedig gyda’r bardd Cymreig Dafydd ap Gwilym, sydd, yn ôl y sôn, wedi ei gladdu o dan goeden ywen yn y fynwent gyfagos. I nodi’r cysylltiad artistig mae Cadw wedi comisiynu dwy gerdd newydd gan Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru rhwng 2005 a 2006. Bydd y cerddi’n cael eu harddangos yn hwyrach yn ystod y flwyddyn.

Dewisodd Cadw Ystrad Fflur i elwa o fuddsoddiad ariannol, gan alluogi cynnal gwaith adnewyddu helaeth. Mae hyn wedi cynnwys ailwampio’r ganolfan ymwelwyr yn llwyr, sefydlu arddangosfa ryngweithiol a phaneli dehongli newydd, diogelu arteffactau canoloesol, a chreu man gweithgareddau yn yr ardd hanesyddol.

Mae’r gwelliannau wedi eu cyllido gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Fenter Diwylliant Treftadaeth Cymreig, a gefnogir gan Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol, a Phrosiect Twristiaeth Treftadaeth, a gefnogir gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop. Nod y prosiect fu datblygu atyniad o ansawdd uchel sy’n adlewyrchu arwyddocâd diwylliannol yr Abaty, ac addysgu ymwelwyr am rai o’r digwyddiadau difyr a ddigwyddodd ar y safle hwn, sydd bellach yn fan llonydd a thawel.

http://www.y-cymro.com/awyr-agored/i/554/
2011-09-09T00:00:00+1:00Eurflodau enwog
Bydd rhai o eurflodau gorau Cymru yn cael eu harddangos yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol ar Fedi 17-18.

Caiff y Sioe Eurflodau ei threfnu gan Grŵp De Cymru y Gymdeithas Eurflodau Genedlaethol, un o’r chwech o grwpiau sy’n gweithio ar draws y DU.

Dywedodd Brian James, aelod o’r gymdeithas a gwirfoddolwr yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, o Gastell-nedd: “Yn y sioe bydd yr eurflodau gorau sy’n cael eu tyfu yn Ne Cymru yn cael eu harddangos. Yn wir, mae blodau sy’n cael eu tyfu gan yr un tyfwyr yn aml yn ennill gwobrau pwysig yn sioe genedlaethol y gymdeithas a gynhelir yn Stafford bob blwyddyn.”

Esboniodd Brian y byddai’r gystadleuaeth ar yr un ffurf â’r sioe genedlaethol gyda chlybiau lleol a thyfwyr unigol yn cystadlu am fuddugoliaeth.

Daw’r tyfwyr o bob ardal o dde Cymru; o Aberdaugleddau i Gasnewydd ac o gymoedd Merthyr a Rhondda.

Ychwanegodd Brian: “Bydd unrhyw un sydd â diddordeb mewn tyfu eurflodau i’w harddangos neu i addurno’u gerddi yn gallu cael cyngor gan arbenigwyr a gweld cynnyrch rhai o’r tyfwyr gorau.”

Mae’r Ardd ar agor o 10am tan 6pm ar y ddau ddiwrnod. Bydd y sioe ar agor o 1pm-5pm ar y dydd Sadwrn, a 10am-4pm ar y dydd Sul.

Os hoffech fwy o fanylion, rhowch glic ar www.gardenofwales.org.uk, ffoniwch 01558 667149, neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk

http://www.y-cymro.com/awyr-agored/i/549/
2011-09-09T00:00:00+1:00Llwybr Newydd o Abermaw i Landecwyn
Bydd yr 19eg o Fedi yn dynodi agoriad swyddogol llwybr newydd Taith Ardudwy. Dyma lwybr 26 cilomedr o Abermaw i Landecwyn sy’n cymryd tridiau i’w gwblhau yn ei gyfanrwydd ac yn cynnig golygfeydd arfordirol godidog. Cynhelir yr agoriad swyddogol yn Theatr y Ddraig Abermaw am 11.30y.b.

Mae’r llwybr yn lwybr canolradd o ran profiad ac wedi ei rannu’n 3 rhan gan wneud defnydd o Lwybrau Cyhoeddus sy’n bodoli’n barod. Mae pwyslais hefyd ar wneud defnydd o’r trafnidiaeth cynaliadwy sydd ar gael ar ddechrau neu ddiwedd y daith drwy fanteisio ar gysylltiadau ffyrdd a rheilffordd. Mae’r llwybr yn cynnig golygfeydd o arfordir Meirionydd ac wedi ei gysylltu â nifer o gymunedau ar hyd y ffordd. Mae’n profi’n boblogaidd iawn ymysg cerddwyr yn barod.

Mae tri rhan i’r llwybr fel a ganlyn: (a) Abermaw i Dal-y-Bont (b) Tal-y-bont i Harlech (c) Harlech i Landecwyn. Mae’n bosib cerdded y llwybr o’r ddau gyfeiriad.

Cafodd y syniad am y llwybr ysbrydoliaeth a chefnogaeth holl Gynghorau Cymunedol yr ardal trwy Bartneriaeth Ardudwy yn ogystal a derbyn cymorth ychwanegol gan Barc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chronfa Loteri Mawr.

Yn siarad fel Cadeirydd Y Cerddwyr (Ramblers Cymru) dywedodd Denis McAteer, “Ynghyd â’r pleser o gerdded mewn rhan mor braf o’r wlad, mae tystiolaeth yn dangos fod cerdded yn lesol i iechyd. Bydd y llwybr newydd yma yn cynnig cyfleoedd i bawb fynd allan a mwynhau’r awyr agored, Hefyd, wedi ei hyrwyddo’n iawn, gall y llwybr yma ddenu ymwelwyr newydd i’r ardal gan ddod a budd i’r economi leol. Rwy’n hynod falch fod llwybr arall wedi agor yng Nghymru gyda’r gobaith y daw a pleser mawr i ymwelwyr a thrigolion ardal Harlech.”

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Taith Ardudwy www.taithardudwyway.com neu mae modd prynu pamffledi i bob rhan o’r daith o Ganolfannau Gwybodaeth lleol.

http://www.y-cymro.com/awyr-agored/i/556/
2011-09-09T00:00:00+1:00