Awyr Agored
Arwydd o adfywiad y ddaear
NEWYDDION mawr y mis bach oedd y tri chant pum deg a saith o bunnoedd dalwyd am Galanthus plicatus ‘EA Bowles’.
Rhagoriaeth y lili wen fach yma ydy’r chwe phetal, pob un yn glaer wyn, a phob petal yn union yr un hyd.
Er mwyn deall pam fod rhywun yn rhywle’n fodlon mynd mor ddwfn i’w boced, mae’n rhaid deall rhyw gymaint am glefyd garddio digon dymunol.
Galanthoffilia ydy enw’r cyflwr ac mi ddaw’r arwyddion cyntaf i’r golwg tua’r adeg yma o’r flwyddyn, gyda’r symptomau’n parhau tan tua diwedd Chwefror.
Yr arwydd amlycaf ydy’r parodrwydd i gefnu ar wres yr aelwyd a threulio oriau yn syllu i fyw llygaid gwrthrych eich serchiadau.
Ydy, mae’n dymor yr Eirlysiau, Blodau’r Eira, Blodyn yr Eira, Cloch Maban, Cloch y Baban, Cloch yr Eiriol, Eirdlws, Eiriawl, Eiriol, Lili Wen Fach, Mws yr Eira, Tlws yr Eira, enwau hoff sy’n dyst o’r croeso gaiff yr arwydd blynyddol yma o adfywiad y ddaear.
Yr ofn eleni, yn sgil y pris mawr am un planhigyn, ydy bydd y dwylo blewog yn rheibio’r eirlysiau yn y coed a’r cloddiau.
Dyna bryder Lyn Ebenezer yn ei golofn wythnos yn ôl, allaf innau ond ategu’r pryder hwnnw.
Galanthus nivalis ydy crynswth yr eirlysiau sy’n tyfu yn y coed a’r cloddiau. Dyma’r eirlysiau ‘cyffredin’, blodau sydd wedi ennill eu plwy ara deg a bob yn dipyn, blodau sy’n haeddu llonydd i’w gwerthfawrogi gan bawb.
Bob yn hyn a hyn mi ddaw sôn am ffurf hynod o’r Galanthus a dyna’n union ydy’r ffurf ‘EA Bowles’ drudfawr.
Pwy oedd EA Bowles? Wel, Edward Augustus Bowles, neu “Gussie”, un o arddwyr mwyaf nodedig yr ugeinfed ganrif.
Fe’i ganed ar y pedwerydd ar ddeg o Fai, 1865 yn Myddelton House, Enfield, lle bu’n garddio gydol ei oes.
Gardd Myddelton oedd tarddiad ei lyfrau dylanwadol, ‘My Garden in Spring’ (1914), ‘My Garden in Summer’ a ‘My Garden in Autumn and Winter’ (y ddwy gyfrol wedi eu cyhoeddi yn 1915).
Cyfrol am eirlysiau oedd ei lyfr olaf, ac fe gyhoeddwyd ‘Garden Varieties of Galanthus’ yn 1956, ddwy flynedd wedi iddo farw.
Gwelwyd yr eirlysiau claer wyn sydd wedi denu cymaint o sylw am y tro cyntaf yng ngardd Myddelton House ac mae dau reswm am eu galw’n ‘EA Bowles’.
Y rheswm amlwg ydy coffáu “Gussie”. Rheswm ariannol ydy’r ail. Cafodd bylbau’r eirlysiau drudfawr eu meithrin gan John Grimshaw, pen garddwr Colesbourne Park yn Swydd Caerloyw.
Y tro taclus yng nghynffon y stori ydy fod yr elw o werthu’r bylbau yn mynd tuag at adfer a diogelu gardd Myddelton House, cynllun uchelgeisiol sydd eisoes wedi derbyn £500,000 gan gronfa’r Loteri yn 2009.
Do, bu sawl llais yn dweud eu dweud am yr eirlysiau drudfawr, a hei lwc i’r prynwr ffodus ddywedaf i.
Siawns bydd pawb, boed yn Galanthoffiliaid ai peidio, yn ymserchu eleni eto yn hyfrydwch dirodres y Galanthus nivalis. Cofiwch da chi, fod gwahaniaeth rhwng pris a gwerth.
Llun: Galanthus nivalis