Awyr Agored

RSS Icon
11 Awst 2011

Gwaith da ar lwybr arfordirol yng Ngwynedd

Fydd dim esgus gan y cyhoedd dros beidio mynd allan a mwynhau arfordir bendigedig Gwynedd yn dilyn gwaith sylweddol ar nifer o lwybrau troed arfordirol ledled y sir.

Fel rhan o gynllun Llwybr Arfordir Cymru, sy’n anelu at ddarparu llwybr di-dor yr holl ffordd ar hyd arfordir Cymru, mae Cyngor Gwynedd yn ymgymryd â’r gwaith o gynnal a chadw ar hyd 180 milltir o arfordir.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Cyngor Gwynedd wedi buddsoddi bron i £500,000 ar welliannau mewn sawl lle, gan gynnwys gwaith i wella llwybrau a chreu llwybrau troed newydd yn Nant Gwrtheyrn; Nantporth ger Bangor; rhwng Neigwl a Llanengan yn Llŷn; Morfa Aber ger Abergwyngregyn; Harlech; Aberdyfi a Thywyn.

Bydd gwelliannau pellach, ar gost o oddeutu £750,000, yn cael eu gwneud mewn sawl lle ar hyd arfordir Gwynedd yn ystod 2011/12.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Uwch Arweinydd Portffolio Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Rydw i’n falch iawn o weld y gwaith yn dod yn ei flaen yn dda mewn sawl ardal fel rhan o’r cynllun llwybr yr arfordir. Rydym yn gobeithio y bydd Llwybr Arfordir Cymru yn denu mwy o ymwelwyr i’n arfordir bendigedig a bydd hyn yn rhoi hwb gwerthfawr i’r economi leol.

“Y mae hefyd yn hynod bwysig fod pobl leol yn gwneud y mwyaf o’r llwybr arfordirol newydd ac mae’n braf gweld datblygiadau megis ei gwneud yn haws i aelodau’r cyhoedd gyrraedd at y llwybr. Pa ffordd well o fwynhau golygfeydd arfordirol godidog Gwynedd na drwy gerdded ar hyd y llwybr hwn?

“Mae swyddogion o dîm llwybrau arfordirol y Cyngor yn gweithio’n agos gyda thirfeddianwyr a chymunedau lleol er mwyn darparu’r cynllun pwysig hwn, ac rydan ni’n edrych ymlaen at weld gwelliannau pellach i’r llwybrau arfordirol mewn sawl lleoliad yn ystod y misoedd sydd i ddod.”

Ychwanegodd Rhys Roberts, Swyddog Prosiect Mynediad i’r Arfordir Cyngor Gwynedd:

“Dyma gynllun gwirioneddol gyffrous sy’n golygu buddsoddiad o tua £3.5 miliwn tuag at rwydwaith llwybrau cyhoeddus Gwynedd.

“Mae’r gwaith yn cynnwys gwneud gwelliannau i hawliau tramwy sydd eisoes yn bodoli ar hyd yr arfordir a datblygu llwybrau newydd lle nad oes ffordd yn bodoli ar hyn o bryd. Er bod hyn yn dasg heriol bydd y rhan fwyaf o’r gwaith wedi ei gwblhau erbyn Mai 2012, gyda gweddill y gwelliannau yn cael eu gorffen erbyn Mawrth 2013.”

Nod Llywodraeth Cymru yw cwblhau trywydd 850 milltir ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Rheolir y rhaglen ddatblygu gan y Cyngor Cefn Gwlad ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd a’r 16 cyngor lleol a’r ddau barc cenedlaethol y mae’r llwybr yn rhedeg trwyddynt.

LLUN: Gwaith ar y llwybr yn Uwchmynydd ar Benrhyn Llŷn

Rhannu |