Awyr Agored
Llwyn sy’n llawn haeddu ei ryddid
STORI dda ydy honno am y gweinidog a’i gymydog yn sgwrsio dros glawdd yr ardd.
Gardd dwt a chymen sydd gan y cymydog, tra bo gardd y mans yn tyfu’n rhialtwch gwyllt.
Wedi i’r ddau drafod hynt a helynt Brecsit, Donald Trump a dwrdio pawb sy’n dweud ‘so’ a ‘rili’ bob yn ail air ar y cyfryngau, mae’r sgwrs yn troi at arddio.
“Garddio efo cymorth y creawdwr mawr fydda i,” meddai’r gweinidog, “Ie, a ‘drychwch ar y llanast mae o wedi ‘neud!” oedd ateb parod y cymydog.
Ydy, mae hi’n hen hen stori, ond yn stori sy’n cyffwrdd calon y gwir ynglŷn â garddio.
Allwch chi ddim troi eich cefn ar ardd, ond mae yna ambell i blanhigyn sy’n haeddu mwy o ryddid na’i gilydd. Yr adeg yma o’r flwyddyn mae Lonicera ‘Winter Beauty’ yn llawn haeddu’r rhyddid hwnnw.
Efallai bod yr enw Lonicera yn dwyn atgofion am nosweithiau hafaidd, persawrus a chynnes. Ie, dyna chi, gwyddfid, llaeth y gaseg a melog, dim ond tri o’r dwsin a mwy o enwau lleol sy’n dangos mor agos ydy’r gwyddfid at galon y Cymry.
Enwau’r gwyddfid cyffredin, L. periclymenum ydy’r rhain, gwyddfid y cloddiau a’r gwrychoedd sy’n dringo’n gordeddog.
Yn union fel gwyddfid yr haf, llwyni sydd braidd yn flêr eu tyfiant ydy gwyddfid y gaeaf, a’r mwyaf ei dyfiant ydy L. fragrantissima.
Fel mae’r enw’n awgrymu, persawr ydy rhinwedd y llwyn, persawr sy’n chwa gymhleth-gyfoethog o sbeis puprog a sawr miniog lemon.
China ydy cynefin naturiol L. fragrantissima, a chroesiad efo gwyddfid gwyllt arall, L. standishii sydd wedi creu Lonicera x purpusii, sydd yn rhiant yn ei dro i’r hyfryd ‘Winter Beauty’.
Creadigaeth Alf Alford, y fforman ym meithrinfa Hillier yn 1962 ydy ‘Winter Beauty’, ffaith sy’n benllanw canrifoedd o ymwneud dyn efo’r gwyddfid.
Cafodd yr elfen Lonicera yn yr enw Lladin ei ddewis i goffáu botanegydd o’r unfed ganrif ar bymtheg, Adam Lonitzer. Robert Fortune sy’n cael y clod am ddarganfod L. fragrantissima a L. standishii yn 1845.
Cyn hynny doedd yr un gwyddfid a flodeuai yn y gaeaf i’w gael.
Daw’r elfen purpusii o gyfenw’r casglwyr planhigion Carl a Joseph Purpus.
Ymddiheuriadau bod y wers Ladin yn hirach nag arfer y tro yma.
Camp Alf Alford oedd ôl-groesi L.x purpusii efo L. standishii a chreu un o sêr disgleiria’ tymor y gaeaf.
Os daw barrug i ddeifio’r blodau sidanaidd, daw digon i’w canlyn, yn gawod wen anghyson ar frigau noeth.
Dychmygwch fod gan y gweinidog lwyn Lonicera ‘Winter Beauty’ yn hael ei sawr a chyforiog ei flodau yn ei ardd.
Siawns bod ganddo ateb parod i sylw ei gymydog, a chofiwch chithau mai llaw ysgafn, yn hytrach na dwrn dur sydd gan y garddwyr gorau.
Llun: Lonicera purpusii ‘Winter Beauty’