Awyr Agored
Hen nain sydd wrth ei bodd pan gaiff hi ddigon o sylw!
Nadolig Llawen i chi, ac i bawb a phopeth sydd yn y tŷ! Mae yna siawns go lew bod o leiaf un planhigyn Poinsettia ymysg y ‘popeth’ sydd ar sawl aelwyd erbyn hyn.
Do, fe ddaeth y gwrid tymhorol i lenwi’r siopau a’r canolfannau garddio.
O ganlyniad i hynny fe ddaeth gair cofiadwy o gyngor gan Awen Jones yn ystod ein sgwrs am blanhigion y Nadolig ar Galwad Cynnar ben bore Sadwrn tua phythefnos yn ôl.
Mi fydd cwsmeriaid Canolfan Garddio Fron Goch ger Caernarfon yn gwybod bod Awen yn helaeth ei gwybodaeth ac yn hael ei chyngor.
Mae hi hefyd yn gwybod yn union sut i greu darlun cofiadwy ar y radio.
Fe gafodd y Poinsettia ei ddarlunio gan Awen fel “hen nain, ‘chydig bach yn ffyslyd, ond sydd wrth ei bodd pan gaiff hi ddigon o sylw”!
Cyfoethogwyd y darlun yn fwy fyth pan aeth Awen ati i ddweud mai “cornel fach gynnes a digon o de” ydy’r lle gorau yn y tŷ ar gyfer yr “hen nain” yma o blanhigyn.
Fel cymaint o blanhigion sydd ar werth yr adeg yma o’r flwyddyn mi fydd Poinsettias wedi eu gorfodi i dyfu’n annaturiol o gyflym ar gyfer y sbleddach o wario tymhorol.
Wedyn fe’u chwistrellir efo cemegyn i’w rhwystro rhag tyfu’n fwy. Rhyfedd o fyd.
Cofiwch am yr “hen nain” a bod yn hael efo’r dŵr a rhoi gwlychfa dda i’r pot fel byddwch chi’n cyrraedd adref o’r siop.
Cadwch lygad ar wyneb y compost a dyfrio eto pan fydd arwyddion bod y pridd yn dechrau sychu.
Mae’n syniad da hefyd i chwistrellu tarth ysgafn ar y dail bob yn ail ddiwrnod.
Cynefin naturiol y Poinsettia, Euphorbia pulcherrima, ydy Mecsico.
Yno, yng ngwres y trofannau gall dyfu hyd at un droedfedd ar bymtheg o daldra a’r enw lleol arno ydy flor de la noche buena, ‘blodyn y Nadolig’.
Fe’i defnyddid i addurno eglwysi’r wlad tros gyfnod y Nadolig ac mae’n debyg mai felly daeth ei liw tanbaid i sylw tramorwyr.
Tramorwr roddodd ei enw iddo ac mae’n bosib na fyddai enw Dr Joel Roberts Poinsett mor adnabyddus oni bai am hynny.
Dr Poinsett oedd llysgennad yr Unol Daleithiau yng ngweriniaeth annibynnol Mecsico rhwng 1825 ac 1829.
Ymddengys bod ei ddoniau garddwriaethol a botanegol yn gryfach na’i alluoedd diplomataidd, gan fod y Mecsicanwyr wedi bathu’r gair ‘poinsettisimo’ i ddisgrifio ymddygiad trahaus a busneslyd.
Ta waeth am Dr Poinsett, delwedd Awen Jones o’r “hen nain” ydy’r ddelwedd arhosol ynglŷn â’r Poinsettia i mi.
Felly, i bawb, a phopeth, o bob oed sydd yn y tŷ, Nadolig Llawen!
Llun: Poinsettia