Awyr Agored

RSS Icon
18 Chwefror 2011
Gerallt Pennant

Gweddw crefft heb ei ddawn


PETH annerbyniol erbyn heddiw ydy tadogi priodoleddau dynol i anifeiliaid. Ie, dyna chi, anthropomorffia. Diolch i’r drefn felly fod modd o hyd i dadogi priodoleddau dynol i blanhigion. Ystyriwch y rhosyn, pwy na fyddai wrth ei fodd petai rhosyn yn rhannu ei enw? Mater arall ydy’r cactws, y fiaren a’r danadl poethion. Rhwydd hynt i chi feddwl am bobl sy’n rhannu priodoleddau’r planhigion yma! Wrth edmygu dau o blanhigion gorau’r tymor, dau sy’n blodeuo ar hyn o bryd, meddyliais am ddau Gymro. Pwy? Rhys Ifans ac Aled Jones.

Chimonanthus praecox oedd y cyntaf, a siawns byddwch chi’n synhwyro yn eithaf buan pa un o’r ddau Gymro sy’n ymdebygu i’r llwyn syfrdanol yma. Er gwaethaf ei natur i dyfu’n llaes a braidd yn flêr, mae gan y llwyn yma ddawn i gyfareddu a chreu argraff arhosol.

Llwyn sy’n gloywi diwrnod llwydaidd, gaeafol efo’i liw a’i sawr. Tarddiad yr enw Chimonanthus ydy’r geiriau Groegaidd cheimon, sef gaeaf, ac anthos, sef blodyn. Sôn am daro’r hoelen ar ei phen! Hwn ydy’r ‘Wintersweet’, a phob clod i’r Sais darodd yr hoelen honno hefyd. Fel cymaint o’r planhigion sy’n sirioli’n gerddi gefn gaeaf, China ydy cynefin y Chimonanthus. Sawr miniog, treiddgar sydd gan y blodau, sawr sy’n adlais o arogleuon cymhleth a chofiadwy pob gwlad bell. O ran lliw’r blodau, mae’n anodd dichon lle mae’r sylffwr melyn a’r gwrid melfedaidd yn dechrau a darfod. Blodau wedi eu staenio braidd yn ffwrdd a hi ydy blodau’r Chimonanthus. Oherwydd y duedd i dyfu braidd yn heglog, mae gofyn ffrwyno’r llwyn. Os caiff rwydd hynt i fynd fel y mynno buan bydd ei flodau ymhell o gyrraedd ffroen a llygad. Cofiwch fod pob actor yn diolch i’w gyfarwyddwr pan fo’n derbyn clod y gynulleidfa.

Fe wnaed y gymhariaeth rhwng Eranthis a chantorion ifanc mewn côr eglwysig ymhell cyn i seren Aled Jones esgyn i ffurfafen cerdd. Llais angylaidd, eurliw ei wallt, gwisg laes a choler ‘ruff’. Dyna oedd delwedd ddiffiniol cyfnod cynnar gyrfa Aled Jones. Y ‘ruff’ o ddail islaw ffiol aur blodau’r Eranthis ydy tarddiad y llysenw ‘choirboys’. Ew! Ma’r Saeson yn taro’r hoelion eto! Os oes golygfa i godi calon, llain aur o flodau Eranthis ydy honno. Fydd hi ddim syndod i chi ddeall mai aelod o deulu’r Ranunculaceae ydy hwn, ie, dyna chi, teulu annwyl y blodyn menyn. Ond yn gwbl groes i’r blodau menyn, braidd yn fympwyol eu tyfiant ydy’r Eranthis. Yr anogaeth orau iddynt ydy plannu’r tiwberau mewn cymysgedd o bridd llaith a deilbridd ac wedyn gobeithio byddant yn hoff o’u lle ac yn lledaenu. Rhan hanfodol o grefft y garddwr ydy rhoi’r cychwyn gorau i’w blanhigion. ‘Gweddw crefft heb ei dawn’ meddai’r ddihareb, ystyriwch hynny wrth feddwl am yr Eranthis a’r Chimonanthus, ac am Aled Jones a Rhys Ifans.

 

Lluniau: Top, Chimonanthus praecox; uchod, Eranthis

Rhannu |