Awyr Agored

RSS Icon
05 Awst 2011

Cwympo coed

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi dyfeisio ffordd newydd o weithio gyda chontractwyr sy'n sicrhau y gall y ddau ymateb yn gyflym i'r angen i dorri coed sydd wedi'u heintio gyda chlefyd angheuol a chynyddu faint o waith sy'n cael ei gontractio allan i'r diwydiant coedwigaeth.

Mae'r weithdrefn newydd, a elwir yn Fframwaith Cynaeafu Llarwydd Heintiedig Phytophthora ramorum, yn amlinellu telerau ac amodau mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi cytuno gyda chontractwyr er mwyn eu galluogi i ddechrau gweithio ar fyr rybudd i glirio coed wedi'u heintio.

Ceir yna bedwar ar ddeg o fusnesau ar y fframwaith - cymysgedd o fusnesau bach a chanolig, busnesau teuluol a masnachwyr unigol - a fu'n llwyddiannus mewn ymarfer caffael a gynhaliwyd drwy Gymru gyfan.

Y llynedd, fe ganfuwyd 876 hectar o goed llarwydd Siapan oedd wedi'i heintio gan yr achosion o glefyd ramorum yng Nghymru. O'r canfyddiadau cychwynnol arolygon eleni fe ganfuwyd bod y clefyd coed angheuol wedi heintio 227 hectar arall o goed llarwydd yng Nghymru.

Dywedodd Hugh Jones, Pennaeth Tîm Cynaeafu Comisiwn Coedwigaeth Cymru, "Mae gwyddonwyr Ymchwil Coedwig yn cynghori y dylem dorri coed sydd wedi'u heintio i ladd y deunyddiau planhigion byw y mae'r pathogen Phytophthora ramorum yn dibynnu arno.

"Mae cyflymder yn hanfodol gan fod coed llarwydd Siapan sydd wedi'i heintio yn cynhyrchu llawer iawn o'r sborau yn yr hydref sy'n lledaenu'r clefyd ramorum - gan ymateb yn gyflym gallwn leihau'r siawns fod y clefyd yn lledaenu a thrwy hynny diogelu ein coedwigoedd cymaint ag y bo modd .

" Mae maint y torri sy'n ofynnol o fewn y raddfa amser y tu hwnt i gwmpas ein timau cynaeafu mewnol ac mae'r fframwaith newydd yn golygu y gallwn alw ar gontractwyr ar fyr rybudd i dorri coed sydd wedi'u heintio drwy ddefnydd o gynaeafwr neu lif gadwyn.

"Nid yw rhai o'r busnesau ar y fframwaith newydd wedi gweithio i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru o'r blaen, ac yn ogystal â sefydlu perthynas gyda phobl nad ydym eto wedi gweithio gyda, mae'r fframwaith yn golygu ein bod yn cynyddu faint o waith sydd ar gael i'r diwydiant coedwigaeth. "

Mae’r rhan fwyaf o’r coed sydd newydd gael diagnosis, mewn coetir ar bwys ardaloedd y darganfuwyd eu bod wedi cael eu heintio â chlefyd ramorum y llynedd yn Nyffryn Afan, ger Port Talbot. Mae’r clefyd ramorum wedi cael ei gadarnhau mewn nifer fach o goed larwydd ym Mwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth hefyd, lle cwympwyd 60 o goed heintiedig yn 2010, ac, am y tro cyntaf, ger cronfa ddŵr Alwen yng Nghoedwig Hiraethog, gogledd Cymru.

Nid yw clefyd ramorum yn niweidio'r pren, ac mae'n rhaid i gontractwyr ddilyn mesurau bioddiogelwch yn ystod gweithrediadau coedwigaeth er mwyn osgoi lledaenu'r pathogen.

Ychwanegodd Hugh, "Er bod yr angen i dorri nifer fawr o goed sydd wedi'u heintio eto eleni yn peri gofid, mae'n ymddangos bod ein penderfyniad i dorri coed heintiedig yn gyflym y llynedd wedi chwarae rôl allweddol hyd yn hyn wrth reoli'r achos mawr hwn."

Bydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn parhau i gynnal arolygon i chwilio am symptomau clefyd ramorum tan fis Hydref.
Ceir rhagor o wybodaeth am Phytophthora ramorum ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth yn www.forestry.gov.uk / pramorum.

Rhannu |