Awyr Agored

RSS Icon
21 Hydref 2016
Gan GERALLT PENNANT

Blodau mor berffaith yn tarddu o’r fath ddrysfa flêr o wreiddiau

Cwestiwn sy’n cael ei ofyn yn aml yn y dyddiau yma o newid hinsawdd ydy “Oes gwir angen codi’r Dahlia ar ddiwedd y tymor blodeuo?” Yr ateb sydd i’w glywed yn gynyddol ydy “nac oes”.

Wedi canrif a hanner o gymell garddwyr i godi’r tiwberau bob hydref mae’r cyngor ynglŷn â’r ddefod flynyddol wedi newid. Ond, wedi dweud hynny mae rhew yn dal yn farwol i’r Dahlia.

Wedi i’r blodau ddarfod mi ddylid torri’r coesau’n ôl at y ddaear a thaenu haen drwchus o wellt neu redyn crin tros y gwely. Os daw hi’n aeaf caled mae’n bosib bydd y rhew yn difetha rhai o’r tiwberau, ond mae hi’r un mor debygol bydd llawer yn goroesi.

Agwedd arall ar y ddadl yn erbyn codi’r tiwberau ydy bydd rhai’n siŵr o bydru neu gael eu bwyta gan lygod tra bydda nhw’n gaeafu mewn bocs ym mhen draw’r sied.

Wedi dweud hynny mae sawl garddwr yn mwynhau’r ddefod o godi’r Dahlia.

Os mai felly mae hi fod mi ddylid torri’r coesau’n ôl i tua chwe modfedd uwchlaw’r pridd.

Gellir gwneud hyn un ai wedi i’r blodau ddarfod neu i’r barrug cyntaf daro.

Codi’r tiwberau’n ofalus ac ysgwyd cymaint o bridd â phosib oddi arnyn nhw ydy’r cam nesaf. Wedyn mi ddylid eu gosod wyneb i waered mewn hamog.

Yr hamog gorau gewch chi ydy hen sach nionod, mi fydd y lleithder yn diferu o’r pytiau o goesau ac ymhen pythefnos mi allwch eu paratoi ar gyfer y gaeaf.

Trowch y tiwberau â’u hwynebau i fyny a’u gosod mewn bocs o dywod neu gompost sydd fymryn bach yn llaith.

Peidiwch â’u claddu’n llwyr, mi ddylai coron bob tiwber fod fymryn yn uwch na’r compost.

Dylid eu cadw mewn lle tywyll, sych ac o afael rhew tan fis Ebrill.

Mae’n debyg mai’r cyfaddawd gorau ydy codi hanner y tiwberau a chymharu’r nifer sy’n goroesi.

Mae’n rhyfedd meddwl heddiw mai’r bwriad gwreiddiol wrth gyflwyno’r Dahlia i Ewrop yn 1789 oedd defnyddio’r tiwberau yn llysiau bwytadwy, fel tatws neu faip.

Y Sbaenwyr ddaeth a’r planhigion cyntaf o Mecsico, lle bu’r Astec yn eu tyfu ers canrifoedd.

Erys cryn ddryswch ynglŷn ag union reswm yr Astec am dyfu’r Dahlia.

Yn ogystal â’r ddamcaniaeth ynglŷn â bwyd gwyddir eu bod yn defnyddio’r coesau gweigion i gludo dŵr am bellteroedd maith.

Mae’r enw brodorol “Cocoxochitl” yn awgrymu cysylltiad efo’r chwilen cochineal.

O’r chwilen yma daw defnydd crai ar gyfer lliw cochineal, trysor oedd yn cael ei warchod yn ofalus iawn gan y Sbaenwyr.

Er gwaetha’r addewid am fwyd maethlon, toedd y tiwberau ddim at ddant yr Ewropeaid. Cafodd y blas ei ddisgrifio fel ‘puprog a chyfoglyd, atgas gan ddyn ac anifail’.

Diolch bod y blodau wedi achub cam gweddill y planhigyn.

Erbyn 1826 roedd ei boblogrwydd wedi lledu trwy Ewrop gyfan, ac yn y flwyddyn honno cynigiwyd mil o bunnoedd yn wobr am dyfu Dahlia glas.

Erbyn heddiw mae ganom tua 20,000 o groesiadau, ac mae’r cyfri’n dal i gynyddu.

P’un ai byddwch chi’n codi’r tiwberau ai peidio mae’n dal yn syndod a rhyfeddod i mi bod blodau mor berffaith yn tarddu o’r fath ddrysfa flêr o wreiddiau.

Rhannu |