Awyr Agored
Rhyfeddodau Eryri
Ar Hydref 18fed 2011 bydd Parc Cenedlaethol Eryri yn dathlu ei 60 mlwyddiant ac fel rhan o’r dathliadau mae’r Awdurdod yn cynllunio prosiect “Rhyfeddodau Eryri”. Bwriad y prosiect yw dathlu’r amrywiol ryfeddodau sydd oddi fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol sy’n gwneud yr ardal hon mor arbennig ac unigryw.
Mae’r Parc yn apelio i’r cyhoedd i enwebu eu hoff ryfeddodau o fewn Eryri. Gall y rhyfeddodau hyn gynnwys lleoedd, pobl, adeiladau, tirluniau, golygfeydd, rhywogaethau bywyd gwyllt, safleoedd archaeolegol, creigiau neu gromlechi, traddodiadau amaethyddol, traddodiadau diwylliannol Cymreig, digwyddiadau, cerddi, celf, darnau o gerddoriaeth ac yn y blaen.
Mae sgôp yr enwebiadau yn eang a does ond un rheol; mae’n rhaid i’r rhyfeddod fod oddi fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi sicrhau cefnogaeth trigain o lenorion mwyaf adnabyddus Cymru a fydd yn mynd ati i ddehongli’r enwebiadau drwy destun ysgrifenedig er mwyn adrodd stori a chreu profiad personol o’r rhyfeddod.
Ar y cyd â’r elfen lenyddol, mae ffotograffydd wedi ei chomisiynnu i ddehongli’r rhyfeddodau ar ffurf gweledol. I ategu’r 60 mlwyddiant, mae’n rhaid i’r llenorion ddadansoddi’r 60 rhyfeddod mewn 60 gair o fewn 60 diwrnod. Bydd y prosiect gorffenedig yn cyfrannu at arddangosfeydd newydd yng Nghanolfan Groeso y Parc Cenedlaethol ym Metws y Coed ac ar lwyfanau cyfathrebu y Parc yn ogystal a dathlu penblwydd arbennig y Parc yn 60 oed.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi’i gyfeillio â Pharc Cenedlaethol Triglav yn Slofenia a bydd pedwar o Slofenwyr yn preswylio yn yr ardal ddechrau mis Hydref. Y bwriad yw cyfuno’u hymweliad â’r prosiect fel bod dehongliadau o’r rhyfeddodau yn y Gymraeg, Saesneg a’r iaith Slofenaidd.
Fe noddir y prosiect gan Lenyddiaeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Dyddiad cau i’r cyhoedd ar gyfer enwebu’r rhyfeddodau yw 22ain o Orffennaf.