Awyr Agored

RSS Icon
29 Medi 2016
Gan GERALLT PENNANT

Gerallt Pennant yn cael ei swyno gan blanhigyn gosgeiddig

Craffwch ar y ddau air yma, hyd yn oed os ydy’r ddau yn hen gyfarwydd.  Mae’n bwysig iawn eich bod yn sylwi yn fanwl ar y ddau.  Dyma nhw – Brugmansia a Dierama.  Mae yna ym myd garddio, fel sydd ym mhob maes, enwau tebyg sy’n gallu achosi dryswch.

Dyna i chi Corydalis a Corylopsis, Echinops ac Echinopsis, a Nerine a Nerium.  Hawdd fyddai maddau i unrhyw un fyddai’n cymysgu’r planhigion yma.

Dim ond adyn penchwiban fyddai’n ffwndro rhwng Brugmansia a Dierama.  Y prawf digamsyniol bod hynny’n bosib ydy bod cyfrannwr i gwis ar Radio Cymru wedi rhoi ei ddwy droed yn ei geg flynyddoedd maith yn ôl.  Enw’r adyn penchwiban oedd Gerallt Pennant.  Alla i ddim cofio enw’r cwis, na phwy oedd yn holi (na, ‘dydw i ddim yn dal dim dig) ond anghofia’i byth yr embaras, ie embaras, hwnna ydio, pan agorais fy ngheg cyn cyfri un heb sôn am ddeg!

Rhywbeth tebyg i hyn oedd y cwestiwn â’m lloriodd. “Mewn rhifyn o’r Clwb Garddio ar S4C (do, mi ddywedais bod hon yn hen stori) mi oeddet yn sôn am blanhigyn Brugmansia.  Be ydy enw cyffredin y planhigyn yma?”  

Yr ateb ddaeth o’m genau oedd “gwialen bysgota’r angylion” a’r ateb a ddylai fod wedi dod o’m genau oedd “utgyrn yr angylion”.  Ie, fel dywedodd y dihafal Ifas, embaras!

O’r ddau, y Dierama sydd orau gennyf.  Mae’n fwy gosgeiddig na’r Brugmansia, ac yn llawer haws ei gyfuno efo gweddill y planhigion mewn border cymysg.  Unwaith bydd Dierama yn hoff o’i le, mi fydd yn hadu ei hun ac yn lledaenu’n hamddenol braf.

Gwn am ddwy ardd yn Nyffryn Conwy lle mae gwialen bysgota’r angylion wedi hen sefydlu, gerddi Meithinfa Aberconwy a Gardd Tal y Cafn Uchaf.

Diolch i Ann Jones, Tal y Cafn Uchaf am gael tynnu’r llun o’r Dierama yn ei gardd hithau.  Yno roedd y pennau blodau’n hafaidd ddiog bendrwm, yn sigo a suo yn union fel yn eu cynefin naturiol yng nglaswelltiroedd De Affrica.

Yno y cafodd Carl Peter Thunberg (1743-1828) yntau ei gyfareddu gan y planhigyn yma, ac iddo fo mae’r clod am gyflwyno teulu’r Dierama i’n gerddi.  Botanegydd o Sweden oedd Thunberg.  Roedd yn ddisgybl i Carl Linnaeus, ac yn cael ei adnabod un ai fel ‘tad botaneg De Affrica’ neu ‘Linnaeus Siapan’.  Clod os bu clod erioed.

Dyma’r un Carl Peter Thunberg a roddodd ei enw i’r Thunbergia, sydd efallai’n fwy cyfarwydd fel Siwsi lygatddu.

Tarddiad yr elfen Dierama ydy’r gair Groegaidd am dwmffat, tra bod gwialen bysgota’r angylion yn cyfleu naws freuddwydiol y planhigyn i’r dim.  Teg ydy dweud bod utgyrn yr angylion yn ddisgrifiad di-fai o flodau’r Brugmansia.  

Dichon y daw cyfle i sôn am y Brugmansia rhywbryd eto.  Wedi’r cyfan, ‘dydw i ddim yn dal dim dig tuag ato!

Llun: Dierama

Rhannu |