Awyr Agored
O lili ddŵr fach wen!
Un o beryglon mawr bywyd, a garddio, ydy cymryd rhywbeth yn ganiataol. Er enghraifft, petai chi'n troi i Feibl mawr y planhigion, yr 'RHS A-Z Encyclopedia of Garden Plants', er mwyn darllen am lili'r dŵr fwya'r byd, chewch chi 'run sill amdani dan 'Nymphaea'.
Pam? Wel, am fod y sefydliad garddwriaethol yn ystod teyrnasiad Cwîn Victoria ofn ei phechu. Pwy tybed oedd ar fai am hynny? Ie, dyna chi, sefydliad garddwriaethol oes Victoria.
Cychwyn y drwg yn y caws oedd darganfyddiad yr anturiaethwr Aimé Bonpland.
Dywedir i'r Ffrancwr ddisgyn i ddŵr yr Amazon mewn gwewyr llwyr pan welodd y lili yn ei blodau am y tro cyntaf.
Llwyddodd Bonpland i oroesi'r dyfroedd ac erbyn 1849 roedd ei ddarganfyddiad botanegol yn blodeuo mewn tanc dŵr anferth.
Er mawr foddhad i sefydliad garddwriaethol oes Victoria, digwyddodd hynny yn Llundain yn hytrach na Pharis.
Cafodd y tanc ei gynllunio a'i adeiladu gan neb llai na Joseph Paxton, a dichon ei fod yntau ymhlith y garddwyr balch fu'n cyflwyno'r blodyn cyntaf i'w brenhines. Cyhoeddodd Paxton a'i griw mai enw'r planhigyn rhyfeddol oedd 'Victoria regina'.
Ond, ac mae hwn yn ond go fawr, dyma gyfaill o'r Almaen yn troi'r drol. Yn ddiarwybod i sefydliad garddwriaethol oes Victoria, roedd Eduard Poeppig eisoes wedi enwi'r planhigyn yn Euryale amazonica.
I aralleirio Wali Thomas, “cfeusus Mr Paxton!”.
Cafwyd cytundeb botanegol nad oedd Victoria yn wir aelod o deulu'r Euryale, ond ni chafwyd cyfaddawd ynglŷn â'r elfen amazonica.
Pwy felly oedd yn mynd i ddweud wrth Cwîn Victoria? Neb!
Feiddiai neb awgrymu fod arlliw o debygrwydd rhwng ei mawrhydi a'r Amazoniaid anwar!
Cadwyd y gyfrinach nes bod Victoria yn ei bedd, a dim ond wedyn cafodd y planhigion yng ngerddi Kew eu labelu'n gywir.
Mae'n amlwg i'r Victoria amazonica gael cryn ddylanwad ar Joseph Paxton.
Yn ogystal â'i danc dŵr, bu'n gyfrifol am adeiladu'r Palas Grisial yn Hyde Park ar gyfer sbloet fawr 1851. Bu Paxton yn astudio dail Victoria amazonica, ac yn eu gwythiennau mi welodd y patrymau ddaeth maes o law yn fframwaith haearn ei Balas Grisial.
Afraid dweud fod tyfu Victoria amazonica y tu hwnt i'r rhan fwyaf o arddwyr meidrol hyn o fyd.
Ond mae'r Nymphaea, gwir lili'r dŵr, o fewn cyrraedd pawb, hyd yn oed mewn gardd heb na phwll nac afon.
Mi fydd pob canolfan arddio gwerth ei halen yn gwerthu basgedi, compost a'r gwrtaith pwrpasol ar gyfer tyfu lili'r dŵr yn llwyddiannus.
Gwn am rai garddwyr sy'n tyfu lili'r dŵr mewn hanner casgen, sy'n gartref perffaith i un o aelodau lleiaf teulu lili'r dŵr.
Siawns bydd yr enw llawn, Nymphaea pygmaea, yn dweud digon i'ch argyhoeddi fod hon yn fach, cynnil a chwbl addas i le cyfyng.
Un o'r ffurfiau gorau ohoni ydy 'Helvola', sy'n nodedig am ei dail porffor, brith-dywyll.
Ond y blodau euraidd, sy'n agor yn llygaid haul, a chau wrth iddi oeri a nosi ydy gogoniant hon.
Os ewch chi'n ddigon agos, ac os ydy'ch trwyn yn ddigon main, mi gewch ffroeniad o bersawr cynnil yn ogystal â gwledd i'r llygaid.
Os ffolodd Paxton a'i griw ar Victoria amazonica, gwir y gair mai tlws yw popeth bychan. Yn enwedig blodau'r lotws lleiaf.
Llun: Nymphaea pygmaea 'Helvola'