Awyr Agored

RSS Icon
02 Medi 2016
Gan GERALLT PENNANT

Teulu'r Hydrangea - hoff blanhigion y Cymry?

Arolygon. Tybed sawl tro mae'r geiriau canlynol wedi eu clywed ar gychwyn adroddiad ar y radio a'r teledu - “yn ôl arolwg diweddar”?

Mi ddylai rhywun gynnal arolwg. Os ydy hi'n bosib cynnal y fath beth ag arolwg dychmygol mi fentra'i nghrys byddai naw o bob deg o bobl Cymru'n adnabod Hydrangea.

Wedi'r cyfan mae'r Cymry wedi bod yn hael eu henwau efo'r llwyn yma. “Saith lliw'r enfys” meddai rhai, “trilliw ar ddeg” meddai eraill. “Ledi'r India” meddai'r Brŵs, diolch eto i Bruce a Dafydd am fod yn gefn cadarn a dibynadwy i'r llithoedd yma.

Mae'n debyg mai tarddiad yr enw hwnnw ydy'r ffaith bod llawer o deulu'r Hydrangea yn tarddu o gyffiniau'r Himalaya.

Mae gan ynysoedd yr Azores boblogaethau trwchus o Hydrangea cynhenid hefyd, 'yr ynys las' ydy enw lleol Ynys Faial gan bobl Portiwgal. Ia glas, a phetawn i'n gofyn ail gwestiwn fy arolwg dychmygol go brin byddwn i'n gorfod bwyta'n het petawn i'n darogan mai glas ydy'r lliw byddai naw o bob deg o bobl Cymru'n ei gysylltu efo'r Hydrangea.

Heblaw efallai am un cyfaill o Benegoes. Ond tybed faint o arolygon sydd wedi eu cynnal ymhlith y boblogaeth hynaws ym Mhenegoes?

Hoff stori'r cyfaill ydy iddo blannu dwy Hydrangea o bopty adwy'r ardd. Glas oedd blodau'r ddwy pan gawsant eu plannu ym mhridd mwyn Maldwyn. Flwyddyn yn ddiweddarach roedd un wedi diosg ei glesni a blodeuo'n binc llachar. Pam? Dyna i chi'r math o gwestiwn allai arwain at bentyrru mwy o eiriau na hyd yn oed y moroedd mawr o arolygon sy'n bygwth ein boddi ni gyd!

Soniodd y cyfaill ei fod wedi plannu'r llwyni yn agos i bileri brics giât yr ardd. Fy nyfaliad i ydy bod mymryn o galch yn llifo o'r morter yn y pileri wedi newid lliw'r blodau.

Gellir dweud yn weddol ffyddiog bydd Hydrangea yn blodeuo'n las ar dir sur a mawnog ac yn binc ar y garreg galch.

Un o'r rhesymau gwyddonol am hynny ydy mai'r Hydrangea ydy un o'r ychydig blanhigion sy'n gallu amsugno alwminiwm. Y tro nesa gwelwch chi becyn o gemegau sy'n addo newid lliw'r Hydrangea edrychwch ar y print mân ac mi welwch mai sylffad alwminiwm ydy'r prif gynhwysyn.

Ewch gam bach yn ôl i'r oes cyn yr archfarchnadoedd o ganolfannau garddio ac mae'n hawdd deall sut cychwynnodd yr arfer o gladdu hen hoelion a phedolau ym môn yr Hydrangea yn y gobaith o ddylanwadu ar liw'r blodau.

Gair i gall, mae bodloni ar beth gewch chi gan lwyn sy'n blodeuo'n hael o ganol haf tan hydref yn well nag ofer boeni am ei liw. Dyna'r wers o Benegoes beth bynnag, amen meddaf innau.

Neu mi allech gefnu ar y lliwiau a phlannu Hydrangea wen. H. paniculata ydy un o'r goreuon, ac fel mae'r enw'n awgrymu, paniglau yn hytrach na'r 'pen mop' sydd gan hon.

Peth peryg ydy galw blodyn yn wyn. O bell, claer wyn ydy blodau H. paniculata ‘Grandiflora', ond craffwch, ac mi welwch awgrym cynnil o wawr yr enfys yng ngwythiennau cywrain y blodau.

Planhigyn hawdd ei dyfu ydy'r Hydrangea, mae'n siŵr bod hynny'n rhannol gyfrifol am ei boblogrwydd. Petai'r fath beth â'ch bod yn cael eich holi am hoff blanhigion y Cymry, cofiwch enwi'r Hydrangea, rhag i mi golli nghrys, ac mae'n gas gen i flas het.

Llun: Hydrangea paniculata

Rhannu |