Awyr Agored

RSS Icon
15 Awst 2016
Gan GERALLT PENNANT

Nid glas pob Agapanthus, nid hanner blodyn ychwaith, ond campwaith

OS oes yna blanhigyn sydd wedi bod yn destun croes dynnu a chamddealltwriaeth, yr Agapanthus ydy hwnnw.  Erbyn heddiw, lili las Affrica ydy enw cyffredin, a chwbl dderbyniol, Agapanthus.

Ond er gwaethaf y tebygrwydd gweledol i flodau’r lili, nid gwir lili ydy hon yn yr ystyr fotanegol. 

Treuliodd gyfnodau wedi ei dosbarthu i deulu’r Amaryllis, ac yna’r Allium, sef llinach y nionyn. 

Erbyn hyn mae Beibl mawr yr RHS, yr ‘A to Z Encyclopedia of Garden Plants’ yn dosbarthu Agapanthus fel ‘Alliaceae/Liliaceae’. 

Camp yr Agapanthus ydy codi ei phen tu hwnt i unrhyw ensyniad gwawdlyd o fod yn hanner lili a hanner nionyn!

Testun trafod arall ynglŷn â’r Agapanthus ydy pot, neu bridd y border.  Dyma’n sicr un o’r planhigion gorau i’w dyfu mewn pot, gan fod cyfyngu’r gwreiddiau yn annog mwy a mwy o flodau.

 Y ddadl yn erbyn eu tyfu ym mhridd yr ardd ydy honno am ein gaeafau oer a gwlyb. Mae’n werth cofio mai’r Agapanthus sy’n fwyaf tebygol o ddygymod efo gaeafau Cymru ydy’r mathau efo’r dail main gwydn, yn hytrach na’r mathau efo’r dail llydan, cnawdiog.  Ie dyna chi, dail tebyg i’r Amaryllis

Fel pob planhigyn gaiff ei dyfu mewn pot, mi fydd yn rhaid i chithau fod yn fwy parod i ddandwn, ac i gario ac estyn.

Heb amheuaeth, compost John Innes rhif 3 ydy’r gymwynas bwysicaf.  Mi ddylid dyfrio a bwydo yn hael a chyson yn ystod y tymor blodeuo a chodi’r rhastal pan ddaw’r gaeaf.

Wedi tri thymor mewn pot, mi fydd yn rhaid gwahanu’r belen o wreiddiau ac ail blannu’r tyfiant ymylol ac egnïol. Waeth i chi heb a chadw canol llesg a diog y belen wreiddiau.

Afraid dweud bydd planhigion sydd â’u traed yn rhydd ym mhridd yr ardd yn elwa ac yn bywiogi wrth gael eu codi a’u gwahanu yn yr un modd.

Agapanthus ‘Blue Giant’ ydy un o’r ffurfiau mwyaf o ran maint, ac mae’n haeddiannol boblogaidd.  Mae’r enw yn adrodd cyfrolau, a’r blodau yn berffaith driw i’r enw lili las Affrica. 

Ond fel ym mhob teulu, mae ambell un yn tynnu’n groes, ac yn esgor ar fymryn o gamddealltwriaeth.  

Er yn drydanol las, nid ffurf lili sydd gan flodau Agapanthus inapertus, planhigyn tawel a chynnil o’i gymharu â rhwysg y cawr glas. 

Afraid dweud mai gwyn, a hwnnw’n wyn claerwyn ydy Agapanthus ‘Snowy Owl’.

Na, nid glas pob Agapanthus, nid hanner blodyn ychwaith, ond campwaith. 

Llun: Agapanthus inapertus

Rhannu |