Awyr Agored

RSS Icon
26 Mai 2011

Cylchgrawn parc cenedlaethol

Ydych chi’n chwilio am bethau newydd a gwahanol i’w gwneud neu lefydd gwahanol i fynd am dro iddyn nhw dros yr wythnosau nesaf? Newydd ei gyhoeddi mae cylchgrawn defnyddiol a gwerthfawr i ymwelwyr Parc Cenedlaethol Eryri.

 

Thema waelodol Eryri eleni yw mwynhau Eryri mewn modd cynaliadwy, gyda phwyslais ar ddefnyddio cludiant cyhoeddus lle bynnag bo hynny’n bosib, annog pobl i feicio, a’u hannog i gefnogi busnesau a chynnyrch lleol.

Yn ogystal â chyngor ar ddiogelwch ar y mynydd ac ar yr arfordir, mae’r cylchgrawn yn cynnwys gwybodaeth ar lwybrau’r Wyddfa, cylchdaith o gwmpas Llyn Tegid, taith ar hyd ucheldiroedd Ardudwy, llwybr i bawb yng Nghoed Tan Dinas wrth ymyl Betws y Coed, a gwybodaeth ar ardal Ffestiniog. Ceir gwybodaeth hefyd ar feicio, gwyliau gwyrdd a bywyd gwyllt yn Eryri.

 

Dywedodd golygydd Eryri 2011-2012, Gwen Aeron: "Rydym yn gobeithio bydd y cyhoeddiad hwn yn annog ymwelwyr a thrigolion y Parc i fynd allan a mwynhau’r hyn sydd gan Eryri i’w gynnig. Trwy roi awgrymiadau ynghylch pethau i’w gwneud ac ychydig o wybodaeth gefndirol, ein nod yw rhoi’r cyfle i bawb fwynhau, dysgu am, a gwerthfawrogi rhinweddau arbennig Eryri.”

 

Gellir cael gafael ar y cylchgrawn o holl Ganolfannau Croeso’r Awdurdod, Canolfannau Croeso eraill yng ngogledd a chanolbarth Cymru, yn ogystal ag atyniadau a chyrchfannau twristaidd gogledd Cymru. Mae fersiwn print bras neu CD o’r cylchgrawn ar gael hefyd o Adran Gyfathrebu’r Parc Cenedlaethol neu’r Canolfannau Croeso ym Metws y Coed, Beddgelert, Dolgellau, Aberdyfi, a Harlech. Mae’r cylchgrawn ar gael ar ffurf e-gylchgrawn ar y wefan yr Awdurdod a gellir lawr lwytho copi print bras hefyd o’r wefan, www.eryri-npa.gov.uk .

Rhannu |