Awyr Agored

RSS Icon
20 Mai 2011

Hafod hyfryd

Mae rhaglen natur hynod boblogaidd y BBC, Springwatch, eleni yn codi pac ac yn symud i Gymru, a’u cartref newydd yw Gwarchodfa Natur RSPB Ynys-Hir ym Mhowys, lle “prydferth, anghysbell a hudol” yn ôl uwch gynhyrchydd y rhaglen Roger Webb.

“Rydyn ni wrth ein boddau i fod yng Nghymru eleni, yn darganfod y gorau o’r hyn sydd gan fywyd gwyllt Cymru i’w gynnig,” meddai Roger Webb.

“Mae’r warchodfa 700 hectar wedi ei lleoli ar ben aber yr afon Dyfi, wedi ei hamgylchynu gan Fynyddoedd Cambria. Dwi ddim yn gor-ddweud bod y lle yn hafan wirioneddol o fywyd gwyllt, gydag amrywiaeth enfawr o gynefinoedd i ni eu harchwilio – coetiroedd derw, glasdraethau, corsydd a rhostiroedd.

“Mae’n gartref perffaith i ni, gyda stiwdio newydd – a soffa newydd!

“Gyda lleoliad newydd, daw heriau newydd a hon yw’n ‘rig’ mwyaf uchelgeisiol eto. Bydd ein ceblau ffeibr optig yn hirach nag erioed o’r blaen – yn ymestyn bron i 40 milltir!

“Rydym hefyd yn mynd i fod yn edrych ar ardal fwy nag erioed gyda’n camerâu mini: bydd ein cyflwynwyr yn darlledu bron i filltir i ffwrdd o’r camerâu nyth, a hynny’n fyw, mewn diffiniad uchel.

“Rydw i yn edrych ymlaen yn fawr am y bennod newydd hon yn stori Springwatch.”

Bydd y naturiaethwr Iolo Williams, sy’n hen gyfarwydd i gynulleidfaoedd Cymru, yn treulio wythnos ar Ynys Sgomer oddi ar arfordir Sir Benfro, yn adrodd yn rheolaidd ar hynt tymor magu’r pâl ar gyfer Springwatch.

Bydd Springwatch yn cychwyn ar Dydd Llun, 30 Mai, BBC Two, 8pm

 

Lluniau: Kate Humble gyda Chris Packham

Y naturiaethwr Iolo Williams

Rhannu |