Awyr Agored

RSS Icon
13 Mai 2011

Cyfle da i wylio

Mae’r guddfan newydd yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich yn ne Penrhyn Gŵyr yn lle ardderchog i bobl sy’n ymddiddori mewn natur a phobl chwilfrydig, wylio bywyd gwyllt yn ei gynefin.

Dywedodd Nick Edwards, Uwch-reolwr y Warchodfa ar ran Cyngor Cefn Gwlad Cymru: “Mae’r ffaith fod coetiroedd, morfeydd, blaen traeth a thwyni mor agos yn golygu bod y warchodfa’n denu amrywiaeth helaeth o fywyd gwyllt.

"Un o’r 20 a mwy o rywogaethau o löynnod sydd i’w gweld yma yw’r glesyn bach, ac mae pryfed prin eraill yma fel y gwas y neidr flewog.

"Cadwch eich llygaid ar agor ac efallai y byddwch chi’n ddigon lwcus i weld ambell i ddyfrgi neu fochyn daear.

"Ond yr holl wahanol adar sy’n dod i’r warchodfa sy’n rhoi bywyd iddi. Yn eu plith mae poblogaethau o gorhwyaid a hwyaid llwyd, sy’n dod yma i aeafu, a rhywogaethau fel bodaod tinwyn, telorion y cyrs ac adar y bwn.”

O’r guddfan, gallwch chi edrych dros wlyptir sydd ychydig y tu ôl i brif system y warchodfa o dwyni tywod. Cafodd y guddfan ei chreu yn sgil project partneriaeth rhwng Cyngor Cefn Gwlad Cymru (sy’n rheoli’r warchodfa) ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, gyda help rhai o wirfoddolwyr yr awdurdod lleol.

Dywedodd Huw Lloyd, ceidwad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr ar ran Cyngor Dinas a Sir Abertawe: “Roedd ymdrechion y gwirfoddolwyr o Lanfair House yn allweddol. Fe wnaethon nhw waith ardderchog yn codi’r sgriniau a chlirio’r llystyfiant yn barod i’r guddfan gael ei chodi.”

Ychwanegodd Nick Edwards: “Yn ogystal â bod yn lle da i weld byd natur, mae hwn yn lle ardderchog hefyd i rywun ddod i gerdded a chadw’n heini. Gallwch chi ddewis mentro ar hyd rhan o Lwybr Arfordir Cymru neu fynd am dro bach hamddenol ar hyd y traeth. Mae rhywbeth yma i bawb ei fwynhau!”

Gan fod dros 200,000 o ymwelwyr yn mynd i Warchodfa Natur Oxwich bob blwyddyn, mae’n amlwg ei bod hi’n werth mentro yno. Mae’r fynedfa i’r warchodfa ychydig oddi ar yr A4118, i’r gorllewin i Abertawe. Ac mae cyfleusterau ardderchog ar y safle.

Rhannu |