Awyr Agored
Creaduriaid y nos
MAE’R ystlum pipstrelle cyffredin sy’n pwyso llai na darn £1 ei hun yn gallu bwyta hyd at 3,000 o bryfed mewn un noson.
Os oes gennych chi ddiddordeb dod i wybod mwy am ystlumod pipistrelle, hirglust, Daubenton a’r bedol leiaf prin sydd i gyd yn bresennol yng Ngwynedd, ac yn awyddus eu gweld nhw drosoch eich hun, mae cyfle i chi ymuno â theithiau ystlumod arbennig a gynhelir yn ystod y gwyliau Pasg.
Bydd y daith gyntaf yn cael ei chynnal yng Nglynllifon ar nos Fawrth, Ebrill 19, rhwng 7.30pm a 9.30pm, dylai pawb gyfarfod ym maes parcio’r coleg am 7.30pm. Bydd yr ail daith yn cael ei chynnal yn Y Bala ar nos Iau, Ebrill 21, rhwng 7.30pm a 9.30pm, gan gyfarfod ym maes parcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ym mhen Llyn Tegid ger Canolfan Hamdden Penllyn am 7.30pm.
Gofynnir i unrhyw un sy’n awyddus i fynychu i archebu lle o flaen llaw drwy gysylltu â Laura Jones, Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd ar 01286 679381, neu e-bostio: bioamrywiaeth@gwynedd.gov.uk