Awyr Agored
Enwi’r goeden dalaf newydd
Cafodd ffynidwydden Douglas sy’n ymestyn dros 60 metr i’r wybren ei chydnabod fel y goeden dalaf yng Nghymru.
Gall y goeden anferth, ar ystad Llyn Efyrnwy ger Llanwddyn, a reolir gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, hawlio mai hi yw’r peth byw talaf yng Nghymru ar ôl gorfod torri daliwr y record flaenorol i lawr oherwydd pryderon yngl ŷ n â diogelwch.
Mae’r goeden dalaf newydd yn mesur 60.62 metr – nid yn union mor dal â’i rhagflaenydd a oedd yn mesur 63.79 metr o uchder – ac mae’n gymydog agos i’r “pencampwr” blaenorol.
Dywedodd Mike Whitley, Rheolwr Ardal Leol Comisiwn Coedwigaeth Cymru, “Roedd gweld y goeden dalaf flaenorol yng Nghymru yn cael ei chwympo yn adeg drist.
“Fodd bynnag, cymerodd ond deuddydd i gadarnhau ei holynydd, sy’n ffynidwydden Douglas arall sy’n digwydd bod yn tyfu’n agos iawn at y goeden flaenorol, felly nid oedd rhaid i ni chwilio’n bell iawn.”
Cafodd uchder y goeden ei fesur gan Stuart Clarke o Treefellers – yr un cwmni coedyddiaeth a gwympodd y pencampwr blaenorol – fe’i gwelwyd yn dringo’r goeden ar deledu cenedlaethol yn ystod rhaglen Countryfile BBC1 ar ddydd Sul.
Cadarnhawyd daliwr newydd y record gan David Alderman, Cyfarwyddwr Cofrestr Coed Ynysoedd Prydain (TROBI).
Dywedodd David, “Mae’r goeden hon yn un o dim ond saith coeden yng Nghymru y credir eu bod tua 60 metr o uchder. A hithau’n 60.62 metr o uchder, dyma’r goeden dalaf yng Nghymru ar hyn o bryd, a’r ail dalaf yw ffynidwydden fawr 60.5 metr o uchder yn Leighton Hall, ger Y Trallwng.”
Cymerodd tuag awr i Stuart ddringo a mesur y goeden, gan ddefnyddio’r un dull cymeradwy ag y cafodd ei ddefnyddio o’r blaen. Dim ond y drydedd goeden dros 60 metr yw hi i gael ei dringo yng Nghymru.
Dioddefodd y goeden dalaf flaenorol yng Nghymru yn nhywydd stormus y gaeaf hwn ac roedd rhaid ei thorri i lawr ar ôl i Mike sylwi ar ddifrod pan oedd yn cynnal gwiriadau rheolaidd.
Yn ogystal â’r goeden dalaf yng Nghymru, hi oedd y goeden dalaf ar y cyd yn y DU – yn rhannu’r record gyda choeden yn Argyll yn yr Alban – ac, yn ôl y TROBI, roedd yn 124 blwydd oed.
Mae Ystad Llyn Efyrnwy yn ardal boblogaidd ar gyfer hamddena a mwynhau a phenderfynwyd torri’r goeden a ddifrodwyd i lawr, yr oedd ganddi ddau grac sylweddol ar ochrau cyferbyniol y prif goesyn, oherwydd ei bod yn beryglus i’r cyhoedd, yn ogystal ag i staff y goedwigaeth yn cynnal gweithrediadau rheoli yn yr ardal.