Awyr Agored

RSS Icon
01 Ebrill 2011

Apêl i ddiogelu tirlun anhygoel

MAE’R Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi lansio eu hapêl cefn gwlad fwyaf yng Nghymru ers degawd a mwy i godi £1 miliwn i ddiogelu dyfodol Llyndy Isaf yn Eryri.

Mae’r fferm 600 erw ar lannau Llyn Dinas yn unigryw yn Eryri, heb ei chyffwrdd gan ddulliau amaethu dwys ac yn gartref i sawl rhywogaeth bywyd gwyllt o ddiddordeb rhyngwladol megis glas y dorlan, y dyfrgi a’r bran coesgoch. Heb gefnogaeth y cyhoedd gallai’r fferm arbennig fod o dan fygythiad datblygiad masnachol a chael ei difetha am byth.

Ddegawd ers yr apêl ym 1998 i ‘Arbed yr Wyddfa’ dan arweiniad yr actor Syr Anthony Hopkins, mae’r actor ifanc o Hollywood, Matthew Rhys, seren y gyfres ddrama Americanaidd Brothers and Sisters a’r ffilm Patagonia, yn dod yn Llysgennad yr apêl i ddiogelu un o dirweddau mwyaf gwerthfawr Eryri.

Ar ymweliad â’r fferm ddydd Mawrth dywedodd Matthew Rhys: “Caiff prydferthwch godidog Eryri ei fwynhau gan niferoedd, ond nawr, mae rhan ohoni dan fygythiad.

“Mae gennym un cyfle, ac un cyfle yn unig, i brynu ac amddiffyn Llyndy Isaf, gan gynnwys Llyn Dinas, y llyn prydferth oedd yn dyst i’r stori ddramatig roddodd enedigaeth i symbol Cymru, y Ddraig Goch.

“Os na wnawn ni weithredu nawr, byddwn yn wynebu colli awyrgylch heddychlon y dyffryn arbennig hwn i ddatblygiad masnachol.

“Dewch Gymry os gwelwch yn dda, rhowch yn hael i Apêl Eryri, i’n helpu i sicrhau dyfodol y tirlun anhygoel yma.”

Meddai Richard Neale, Rheolwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri, heddiw: “Pan fyddai’n edrych ar y tirlun yn y gornel fechan, ryfeddol hon o Gymru fedra i ddim meddwl am unlle sy’n fwy haeddiannol na Llyndy Isaf o dderbyn amddiffyniad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

“Dwi’n gobeithio y bydd pobl o Gymru a thu hwnt yn ein helpu er mwyn i ni fedru prynu’r fferm. Os na fedrwn godi’r arian byddwn yn colli Llyndy Isaf – i fod yn hollol onest, does ‘na ddim plan B.”

Perchnogion Llyndy Isaf yn Nant Gwynant ger Beddgelert yw Mr a Mrs Ken Owen ac ar ôl byw a gweithio ar y tir am 35 mlynedd maent yn dymuno i’r Ymddiriedolaeth brynu’r fferm.

Meddai Mr Owen: “Doedd y penderfyniad i ymddeol a gadael Llyndy Isaf ddim yn un hawdd. Mae o’n lle mor braf i fyw ac rydan ni wedi treulio 35 o flynyddoedd hapus iawn yma.

“Rydan ni wedi gweithio’n galed a thros y cyfnod wedi dod i sylweddoli fwyfwy pa mor bwysig ydi ffermio mewn cytgord hefo’r amgylchedd.

“Mae’n rhyfeddod gweld y bywyd gwyllt yn dod yn ôl i lefydd lle na fu fo ers blynyddoedd. Faswn i’n hoffi gweld hynny yn parhau a dyna pam rydan ni wedi cynnig y fferm i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol oherwydd ein bod ni’n gwybod y gwnawn nhw gario mlaen i ffermio Llyndy Isaf yn yr un ffordd a dwi wedi ei wneud.

“Mi fedrwn edrych ymlaen at ddod yn ôl yma a gweld y lle fwy neu lai fel ac y mae heddiw.”

Mae’r apêl i brynu Llyndy Isaf yn cael ei lansio dan ambarél Apêl Eryri yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ym 1998 gyda chefnogaeth ei Llywydd ar y pryd, yr actor o Gymru Syr Anthony Hopkins, llwyddwyd i godi £4 miliwn i brynu stad Hafod y Llan ar lethrau deheuol yr Wyddfa.

Gall unrhyw un sy’n dymuno rhoi rhodd, trefnu digwyddiad i godi arian neu gefnogi’r apêl mewn unrhyw ffordd gysylltu gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol: 0844 800 1895 neu www.nationaltrust.org.uk/apeleryri.

Gellir anfon siec, wedi ei gwneud yn daladwy i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (gyda ‘Apel Eryri’ wedi ei ysgrifennu ar y cefn) i: Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, NTSSC, PO Box 39, Warrington WA5 7WD

Rhannu |