Awyr Agored

RSS Icon
17 Mawrth 2011

Mwy o goedwigoedd

Mae gan Gymru fwy o goedwig a choetir nag y credwyd yn flaenorol, diolch i ganlyniadau rhagarweiniol yr arolwg mwyaf cynhwysfawr o goedwigoedd a gynhaliwyd erioed.

Mae Stocrestr Coedwigoedd Cenedlaethol (NFI) i Gymru’r Comisiwn Coedwigaeth, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 17 Mawrth) yn dangos bod tua 303,500 hectar o goedwigoedd a choetiroedd ledled Cymru, sy’n cynrychioli 14.3% o gyfanswm arwynebedd tir y wlad. Mae hyn tua 20,000 hectar yn fwy nag yr oedd data a oedd yn bodoli eisoes yn ei awgrymu.

Gellir priodoli’r cynnydd yn arwynebedd y goedwig a honnir yn rhannol i offer a thechnegau mesur gwell ers y stocrestr genedlaethol flaenorol – a oedd yn hysbys fel y Stocrestr Genedlaethol o Goetir a Choed (NIWT) a gynhaliwyd rhwng 1995 a 1999.

Cyhoeddi ystadegau gorchudd coetir heddiw yw’r cyntaf o’r llu o ganlyniadau sy’n ddisgwyliedig gan yr NFI a fydd, pan gaiff ei chwblhau, y stocrestr fwyaf cynhwysfawr o goedwigoedd a fforestydd a luniwyd erioed.

Dywedodd Clive Thomas, pennaeth polisi Comisiwn Coedwigaeth Cymru, fod map ac ystadegau’r NFI yn newyddion da i bawb sy’n gysylltiedig â fforestydd a choedwigoedd Cymru.

"Er bod modd esbonio’r newid hwn i arwynebedd y coetir yn sgil technegau arolygu gwell, y wybodaeth danategol a fydd ar gael yn y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod yw’r hyn sy’n hynod werthfawr.

"Bydd yn ein helpu i roi cyngor i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar ei pholisïau ar gyfer coetiroedd a choed. Ac – yn bwysicaf oll - oherwydd y newid i broses stocrestr dreigl, byddwn yn gallu canfod newidiadau’n fwy manwl o lawer dros amser.

"Mae hyn i gyd yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol wrth i ni geisio gwneud coetiroedd Cymru’n fwy gwydn i effeithiau newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â gwella eu darpariaeth aml-bwrpas ymhellach ar gyfer pobl a’r amgylchedd ehangach."

Bydd y wybodaeth fwy manwl hon ar orchudd coetir yn ganllaw defnyddiol i gynllun grantiau coetiroedd Glastir newydd.
Bydd hefyd yn sicrhau bod y wybodaeth am orchudd coetir yng Nghymru i’w hymgorffori yn Asesiad Ecosystem Genedlaethol y DU, a gaiff ei gyhoeddi ym mis Mawrth, mor gyfredol â phosibl.

Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ystod eang o wybodaeth am yr NFI gan gynnwys cyfansoddiad, oedran, atafaelu carbon, cyfaint coed, iechyd, cyflwr a llawer o bynciau eraill yn cwmpasu’r holl goetir cyhoeddus, preifat, trefol a gwledig ym Mhrydain.

Bydd y wybodaeth yn helpu’r rhai sy’n cynllunio i sicrhau bod ein coedwigoedd yn gallu gwrthsefyll newidiadau disgwyliedig yn yr hinsawdd, cyfrannu at liniaru newid yn yr hinsawdd a helpu’r gymdeithas i ymdopi â rhai o effeithiau newid yn yr hinsawdd, megis llifogydd a thonnau gwres.

Bydd gwybodaeth yr NFI hefyd yn tanategu ystod eang o benderfyniadau am bynciau megis cadwraeth natur, ymchwil, plannu coed, datblygu diwydiannau coedwigoedd a phren a hamdden cyhoeddus.

Dywedodd Peter Weston, Pennaeth Stocrestr a Rhagolygon y Comisiwn Coedwigaeth, “Roeddem yn gallu defnyddio offer a thechnegau mwy soffistigedig ar gyfer casglu a dehongli data am orchudd coetir nag yr ydym erioed wedi’u cael ers dechrau llunio stocrestrau coedwigoedd yn ystod y 1920au.

“O ganlyniad, rydym wedi gallu nodi coetiroedd llai a chanfod mwy o ardaloedd lle mae coetir wedi’i atgynhyrchu neu wedi’i blannu’n ddiarwybod i ni, ac ardaloedd eraill lle mae coetir wedi’i golli neu ei waredu’n ddiarwybod i ni.

“Mae’r offer a’r technegau newydd hyn hefyd wedi’n galluogi i fireinio rhywfaint o’r data ac unioni camgymeriadau gonest yn y stocrestr flaenorol a ddigwyddodd yn anochel am nad oedd gennym yr adnoddau soffistiedig sydd ar gael i ni erbyn hyn.”

Rhannu |