Awyr Agored

RSS Icon
17 Mawrth 2011

Cynnydd yn ymwelwyr i safleoedd Cadw

Mae’r nifer o bobol sy’n ymweld â safleoedd Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi cynyddu gan 4% yn 2010.

Fe wnaeth 1,179,623 pobol ymweld â safleoedd Cadw gyda staff rhwng Mawrth 2010 a Chwefror 2011 o’i gymharu â 1,128,991 yn ystod yr un amser yn 2009 - 10.

Un o’r rhesymau am y cynnydd yma yw’r gwaith a wnaed i wella profiad ymwelwyr a denu cynulleidfa newydd gan ddweud hanes Cymru mewn ffyrdd newydd a diddorol.

Mae rhaglen o ddigwyddiadau Cadw wedi amrywio o ddehongliadau byw ar raddfa fach i ail-greu digwyddiadau hanesyddol ar raddfa fawr a gwleddoedd canoloesol.

Dywedodd Jayne Rowlands, Pennaeth Ymwelwyr a Gwasanaethau Busnes Cadw: "Mae rhai digwyddiadau yn cael eu disgwyl yn eiddgar ac yn rhan o galendrau cymunedol, fel gwyliau blynyddol Cas-gwent a Rhaglan.

"Ochr yn ochr â hyn, mae Cadw yn ymdrechu i gyflwyno digwyddiadau newydd bob blwyddyn a fydd yn denu pobl nad ydynt efallai wedi bod i un o'n safleoedd hanesyddol o'r blaen. "

Mae Uchafbwyntiau o 2010 yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau bywiog yng Nghastell Rhuddlan, gydag ail-greu y frwydr Twt Hill yn fis Mai 2010, a ddenodd bron 1,400 o ymwelwyr. Mae'r digwyddiad Calan Gaeaf sydd yn awr yn flynyddol, yn cynnwys nifer o stondinau elusen, perfformiadau ysgol leol a thaith gerdded arswydus trwy'r goedwig, gydag ellyllon ac ysbrydion yn neidio allan ar ymwelwyr diarwybod. Denodd y digwyddiad dros 3500 o ymwelwyr yn 2010.

Fe brofodd y Teithiau dehongli Arswyd ym Mhlas Mawr i fod yn boblogaidd gydag oedolion a phlant, ac roedd y galw yn fwy na'r cyflenwad bob wythnos. Mae'r datblygiad hwn wedi arwain at gynnydd mewn ymwelwyr i Plas Mawr o 16% yn ystod 2010-11. Mae Cadw yn bwriadu ailadrodd a gwella'r gweithgaredd llwyddiannus hwn yn 2011/12 trwy gynyddu nifer y teithiau yn ystod y prif dymor twristiaeth ac edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno Taith Arswyd Tref Conwy ar nosweithiau eraill i annog ymwelwyr i aros ymlaen yn yr ardal.

Roedd Castell Caerffili yn drawiadol mewn golau ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau Son et lumiere dros bythefnos ym mis Hydref 2010. Roedd golau yn cael ei ddangos ar furiau'r castell yn y Ward Fewnol, roedd y sain a'r golau yn rhan o adloniant y noson. Mae pob noson yn dilyn thema gan gynnwys cerddoriaeth Gymraeg, tanio peiriannau gwarchae Caerffili, perfformiadau gan ysgolion lleol a gwleddoedd canoloesol. Roedd yna dros 1,500 o ymwelwyr yn bresennol yn y digwyddiadau gan helpu Castell Caerffili I gynyddu nifer yr ymwelwyr o 13% ar gyfer 2010/11.

Dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones: “Rwy’n falch iawn i glywed bod cynnydd yn y nifer o bobol a bu’n ymweld ag ein safleoedd treftadaeth y llynedd.

"Mae hyn yn dangos y gwaith caled mae Cadw wedi’i wneud i gyflwyno ein hamgylchedd hanesyddol mewn ffyrdd arloesol ac i ddenu ymwelwyr newydd.

"Mae dehongli treftadaeth yn chwarae rhan bwysig wrth ddatgloi straeon ein gorffennol ac mae’r rhaglen wych o ddigwyddiadau sy’n cymryd lle ar safleoedd Cadw yn helpu pobol i ddeall y straeon tu ôl i’r llefydd pwysig yma gan ychwanegu at eu mwynhad o’r llefydd.”
 

Rhannu |