Awyr Agored

RSS Icon
17 Mawrth 2011

A yw’r Arctig yn dod o’i aeafgwsg?

Efallai bod y gaeafau wedi bod yn fwy garw yn y Deyrnas Unedig yn ddiweddar oherwydd bod llai o rew dros Gefnfor yr Arctig.

Mae’r rhew wedi bod yn cadw newidiadau yn nhymheredd y môr o’r atmosffer. Ond gallai’r ffaith fod y rhew yn cilio gael effaith ar ein hinsawdd.

“Mae rhai hinsoddegwyr yn credu bod absenoldeb rhew môr i’r gogledd o Siberia yn yr hydref y llynedd wedi galluogi i’r môr agored gynhesu’r atmosffer, gan newid patrymau’r gwynt a datblygu system o wasgedd atmosfferig uchel dros Siberia. Mae hyn wedyn yn arwain at aer oer yn cael ei yrru i’r de o’r Arctig, dros ogledd Ewrop”, eglurodd Dr Tom Rippeth o Brifysgol Bangor.

Yn ychwanegol at hyn, mae gwyddonwyr y Brifysgol newydd ddarganfod nad yw Cefnfor yr Arctig mor dawel a oedd eigionegwyr yn arfer ei gredu, a gallai hynny hefyd effeithio ar yr hinsawdd.

Mae mesuriadau newydd gan Yueng-Djern Lenn, Chris Old a Tom Rippeth o Ysgol Gwyddorau’r Eigion yn dangos am y tro cyntaf bod pyliau achlysurol o dyrfedd o dan y rhew yn cymysgu haenau dŵr cyfagos gyda’i gilydd.

Yn ôl y canfyddiadau newydd, mae llawer mwy o gymysgu'n digwydd pan nad oes rhew môr yn gwarchod wyneb y môr rhag yr atmosffer.

Mae achosion o gymysgu o’r fath yn bwysig. Dan y rhew, gallent ddod â gwres o du mewn i'r môr i gynhesu ochr isaf y rhew, ac yn y dŵr agored, gallent fynd â gwres o’r haenau ar y wyneb, sydd wedi eu cynhesu gan yr haul, i’r môr.

Dywedodd Dr Tom Rippeth: “Mae’r canlyniadau hyn yn arwyddocaol iawn gan eu bod yn gymorth i ni ddeall swyddogaeth rhew môr yn yr Arctig, ac yn arbennig sut mae’n effeithio ar faint o wres sy’n cael ei gyfnewid rhwng y môr a’r atmosffer.”

“Maent yn awgrymu y bydd Cefnfor yr Arctig yn llawer mwy aflonydd wrth i’r byd gynhesu. Rydym eisoes wedi gweld lleihad mawr yn y rhew sy’n gorchuddio’r môr, yn enwedig yn ystod yr haf, ac felly mae llawer mwy o gymysgu’n digwydd o ganlyniad i hynny.”

“Efallai bod yr Arctig yn dod o’i aeafgwsg, ac mae'n rhaid i ni ofyn faint o effaith fydd hyn yn ei gael ar ein hinsawdd yn y Deyrnas Unedig."

Yn wir mae rhai gwyddonwyr yn credu ein bod eisoes efallai yn teimlo effaith y ffaith fod rhew Cefnfor yr Arctig yn diflannu, trwy'r gaeafau mwy garw rydym wedi eu cael yn y Deyrnas Unedig yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Rhannu |