Awyr Agored

RSS Icon
11 Mawrth 2011

Ail-agor hen gastell

Mae Hen Gastell y Bewpyr ym Mro Morgannwg yn ail-agor ar ôl i’r heneb fod ar gau er mwyn ymgymryd â gwaith cadwraeth angenrheidiol ar y porth cerfiedig gwych o gyfnod y Dadeni.

Bydd y maenordy o’r canoloesoedd yn agor eto ar ddydd Gwener 18fed o Fawrth yn barod i groesawu ymwelwyr. Mae mynediad i’r heneb o gilfach ar y ffordd o Sain Tathan i’r Bontfaen

Wedi ei leoli yn agos i Sant Hilari yn ne ddwyrain Cymru, mae’r maenordy sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg a wedi ei addasu yn ystod y cyfnod Tuduraidd.

Mae’r tŷ yn eisampl arbennig o dŷ fonedd dan warchodaeth Cadw, gan gynnwys safleoedd megis Plas Mawr yng Nghonwy a Chwrt Tretŵr ger Aberhonddu

Dywedodd Jayne Rowlands, Pennaeth Cyflwyno Cadw: “Roedd angen gwneud gwaith trwsio angenrheidiol ar y porth fewnol er mwyn cadw’r maenordy gwych yma mewn cyflwr da.
"Mae’n bleser cael dweud bod y gwaith wedi cwblhau a hoffwn ddiolch y cyhoedd am ddeall ac am eu hamynedd tra bod y gwaith wedi mynd ymlaen.”

Rhannu |