Adref | Ol Rhifynnau | E-Bost | English



Lluniau Noson Lansio Brechdan Tywod #9
Cafwyd noson lwyddianus iawn yn Nghaffe Europa ar y 13eg o Dachwedd - llwyddwyd i yfed y lle yn sych a'r cafe mas o Stella, gin a newid erbyn unarddeg o'r gloch! Enillodd Sionz y raffl oedd yn dros £200 o Cdau, feinyl a sticers. Diolch yn fawr i labeli Ankstmusik, Ciwdod, Dockrad, Fitamin Un a Slacyr am eu cyfraniadau hael.Bwriedir cynnal noson fisol Brechdan Tywod yn Europa yn 2005 - gwiliwch y wefan hyn am fwy o wybodaeth.





Noson Lansio Brechdan Tywod #9 a label Crafu Byw
Bydd copiau o'r rhifyn newydd ar gael ar y noson lawnsio ac fe fydd y 99 copi cyntaf yn dod gyda CD cyntaf y label tanddaearol newydd, Crafu Byw, sef Lladron 2. Mae'r noson lansio yn digwydd yn Cafe Europa, Stryd y castell, caerdydd ar nos Sadwrn, 13eg o Dachwedd. Yn DJio ar y noson bydd Y Lladron, Mihangel Macintosh a Jeni Wine. Mae mynediad am ddim, gyda'r drysau yn agor am 7.30 ac yn cau am 11.30.Yn rhifyn #9 - Pat Datblygu, Endaf Kentucky AFC, Un Caddie Renverse Dans L'Herb, sut i neud ffansin eich hyn a llond trons o adolygiadau. Os hoffech chi archebu copi o flaen llaw, e-bostiwch ni.




Bechdan Celyn - Brechdan Tywod #8
Ar ôl 12 mis o dawelwch wedi'r rhifyn diwethaf o Brechdan Tywod, mae'r rhifyn diweddaraf, "Bechdan Celyn" mas am y tymor oeraidd. Ynddo ceir cyfweliadau a David R.Edwards ac Y Dull Duckworth Lewis yn ogystal a adroddiad ar barti Nadolig Maes E a Bonnie + Clyde, sioe Eddie Ladd a Gerald Tyler. Hefyd colofn grafog gan Jams Frown, stori fer gan Mihangel Macintosh a llond trol o adolygiadau o'r recordiau diweddaraf. Anfonwch e-bost gyda'ch cyfeiriad post os hoffech chi dderbyn copi. Diolch am eich cydweithrediad. Tew.


Newyddion o'r Sîn
Y clecs diweddaraf am Kentucky AFC, MC Saizamundo, Lo-Cut a Sleifar plys pa gigs sydd ymlaen.




Lluniau Steddfod Meifod
Lluniau du a gwyn gan Loopy Loo Loo.




Adolygiad: Matt Cook @ Byte Size
Matt Cook ydy un o'r artistiaid electronica diweddaraf i fwrw'r sin.
Aeth Mihangel Macintosh i'w weld yn perfformio'n fyw yn noson Byte Size. Trefnir y noson gan y DJ chwedlonol Dave GrooveSlave gan roi llwyfan i bobl leol sy’n cynhyrchu cerddoriaeth eu hunan ond s’yn annhebyg o gael gig yn unrhyw le araall yng Nghaerdydd.



Celf neu crap? Brechdan Tywod #7
Daeth rhif # 7 o Brechdan Tywod allan yn Rhagfyr 2002.
Roedd yn rhifyn arbennig "Celf Neu Crap? Art Or Arse?". Rhyw fath o instrumental mics os hoffech chi, doedd dim geiriau ynddo fe o gwbwl, dim ond lluniau, delweddau a graffics. Cafwyd cyfraniadau gan John Griffiths [Neud Nid Deud] ; Mihangel Macintosh; Richard Huw Morgan [Neud Nid Deud]; Craig Jones [Viva Sparky!]; 7?U [No Frills, Awstralia]; Atsumi Ormoto [Siapan] a Pat Morgan. Mae pob copi wedi gwerthu allan. Fe fyddwn ni yn llwytho rhai o'r delweddau lan i'r wefan hyn yn y dyfodol agos gyfaill.






Beth yw'r pwynt mewn protestio?

Roedd hi'n ofer protestio o'r dechrau un. Roedd y rhyfel yma'n anochel o'r dechrau, a hynny dim ond oherwydd penderfyniad y Iancs i'w wneud a Phrydain i ymddwyn fel cwn bach. Fel arfer.





Orange - Ble mae'r Gymraeg?
Mihangel Macintosh sy'n son am ddiffyg cydnabyddiaeth y cwmni telegyffathrebu o'r iaith Gymraeg.





Adbusters Banner




Nid yw'r golygyddion o angenreidrwydd yn gyfrifol am farn unrhyw gyfranwyr, nac am dalu dirwyion llys, biliau ffon anferth neu i fod yn sobor. Ni gyhoeddwyd Brechdan Tywod gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru, WDA, ELWa neu gronfa di-ddiwedd yr ERDF. Cofrestrwyd a chondemiwyd gan Heddlu Dyfed Powys fel cylchgrawn subversive.