Matt Cook @ Byte Size
Journey’s, Caerdydd - 25 Mehefin 2003


Pan agorodd y café-bar Journey’s ar Stryd Cliffton yn Sblot llynedd doedden ni ddim yn gweld y lle’n para’n rhy hir.

I ddweud y gwir, nath delwedd hippiaidd / acwstic / naff y lle ddim helpi chwaith – fel venue gerddorol doedd e ddim yn rhoi’r argraff o fod yn feca ar gyfer cerddoriaeth “beryglus” o unrhyw fath. Ond yn raddol ma’ na mwy o nosweithiau diddorol yn cymryd lle yna ac un o’r rhai ydy “Byte Size”. Trefnir y nosweithiau wythnosol gan y DJ chwedlonol Dave GrooveSlave gan roi llwyfan i bobl leol sy’n cynhyrchu cerddoriaeth eu hunan (ond s’yn annhebyg o gael gig yn unrhyw un o venues y ddinas) Un sydd yn ffitio’r categori hwn ydy Matt Cook, sy’n cynhyrchu electronica a cherddoriaeth arbrofol ond melodig.


Gan weithio gyda blwch effeithiau a laptop, dechreuodd Matt weu synau lled-haniaethol a lwpiau di-guriad i greu melodïau hyfryd ond rhyfedd. Ciciodd break mawr budur i mewn, a dechreuodd Matt gynyddu’r tempo gan gymysgu curiadau arbrofol mewn ag allan, chware samplau o beth oedd yn swnio fel bomiau “space invaders” a thrio chwythu’r speakers gyda synau gwallgof. Yn ymdebygu i electronica gyda hiwmor Kid 606, perfformiodd Matt ddarn byr oedd yn cynnwys sampl o diwn nadoligaidd cawslyd cyn cyflwyno break mawr trwm ar ei ben, cyn drysu’r gynulleidfa ymhellach gyda beth oedd yn ymdebygu i gitâr metel trwm (wedi ei ymestyn yn rhacs) i gyfeiliant curiad tecno anferth. Roedd e’n bleser i glywed cerddoriaeth mor wreiddiol a chyffroes gan dalent newydd a ffres. Edrych ‘mlaen i’r Bite Size nesaf.

Mihangel Macintosh


Cyhoeddwyd yr adolygiad hyn yn wreiddiol yn y ffansin Viva Sparky