Beth yw'r pwynt mewn protestio?

Roedd hi'n ofer protestio o'r dechrau un. Roedd y rhyfel yma'n anochel o'r dechrau, a hynny dim ond oherwydd penderfyniad y Iancs i'w wneud a Phrydain i ymddwyn fel cwn bach. Fel arfer.



Er y gall people power dymchwel Gwladwriaeth, fel a ddigwyddodd yn nifer o wledydd Dwyrain Ewrop yn yr 80au hwyr - neiff hyn ddim digwydd yng Ngwladwriaeth Prydain. Ar ddiwedd y dydd, mae mentality "I'm allright Jack" yn perthyn i'r mwyafrif. Os oedd y fyddin yn lladd pobl diniwed ar y strydoedd a pobl yn llwgi i farwolaeth yn sgil cwymp economaidd dirfawr, yna, efallau, a dim ond efallai, y byddai uprising poblog. Ond fel mae hi nawr, mae'r Wladwriaeth Brydeinig ym mhell o fod yn Albania Dotaliteraidd neu'n Wlad Pwyl Gomiwnyddol. Mae'r dyn cyffredin ar y stryd yn anghytuno gyda'r rhyfel, ond dydi e ddim mynd i effeithio arno yn uniongyrchol. Serch hynnu, mi fydd y rhyfel anorfod hyn yn siwr o effeithio ar berfformiad y Blaid "Lafur" yn etholiadau'r Cynulliad. Dwi'n gweld nhw'n colli nifer o seddi i Blaid Cymru ac i'r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn sgil. Sut all doctoriaid sbin Millbank droi'r sefyllfa o gwmpas, dwi'm bod, ond dwi'n fawr obeithio fydd Blair mas.

Os oes gymaint o wrthwynebiad i rhyfel gan Genedloedd Cymru, Yr Alban a Lloegr yna fe ddylse y bobl ddefnyddio ei Pleidlais yn yr Etholiadau Seneddol nesaf i gael gwared o'r Blaid "Lafur". Modd llawer mwy effeithiol na cherdded i lawr strydoedd Llundain gyda rhyw hipis yn taro ffycin bongos... Efallai bod gobaith i'r Democratiad Rhyddfrydol enill grym neu efallai yn sgil Y Weithred Hyn o Frad bydd y Blaid "Lafur" yn holltu i fod yn "Lafur" Newydd a Phlaid Sosialaidd go-iawn?


Y Bwrdd Golygyddol


Faint fydd cost ariannol y rhyfel anghyfiawn hyn i Wladwriaeth Prydain? Faint o bobl di-niwed, plant a gwragedd sydd mynd i farw yn y Dwyrain Canol? Efallai bod Saddam yn arweinydd rhyfelgar a gwallgof yn feddw ar rym a'i fod yn anghenrheidiol i gael ei wared - ond allwch chi ddweud yr un peth am Bush. A Blair. Tro nesaf dy chi'n bwrw'ch pleidlais, meddyliwch yn ofalus am yr hyn nath Blair yn enw'r Blaid "Lafur". Gwarth arno ef ac ar weddill y gwleidyddion yn San Steffan sydd yn daeogion i Ymerodraeth barus a rhyfelgar yr Unol Dalaethau.

"Things can only get better ...?" Ffyc off Blair. Ti wedi bradychu dy bobl a holl egwyddorion dy Blaid. Ti 'di gwerthu dy enaid i'r dollar. Damia di. Gobeithio cei dy gondemio i'r cachdy uchaf yn uffern.

Mihangel Macintosh

[/datganiad]