Newyddion o'r Sīn
Ionawr 2004

Kentucky AFC
Mae'r triawd o Borthmadog wedi bod yn gigio fel bastads ers misoedd bellach, ac ar fin chware gigs yn Llundain. Checiwch y rhestyr gigs oddi tano am y dyddiadau. Mae KAFC yn ogystal yn gweithio ar albwm fydd yn ymddangos ar label Fitamin Un yn y flwyddyn newydd. Mae'n bosib islwytho MP3au o'i gwefan: kentuckyafc.com.

Lo-Cut a Sleifar
Hefyd yn gweithio ar albwm o dan y teitl "Miwsig I'ch Traed a Miwsig I'ch Meddwl", mae Curig Huws a Steffan Cravos, dau gyn aelod o'r Tystion yn mynd mas i Stuttgart yn yr Almaen i weithio ar drac rap Almaeneg/Cymraeg. Fe fydd yr albwm mas yn 2004 ar label Fitamin Un.

MC Saizamundo
Mae'r Eminem gwledig Cymraeg wedi cwbwlhau ei albwm gyntaf, a bydd "Blaen Troedar" yn cael ei ryddhau ar Ionawr 22, 2004 ar label Recordiau Dockrad ac fe'i gynhyrchwyd gan Dyl Mei (Pep Le Pew.)















Digwyddiadau a gigs
Ionawr 2004

Mercher 21/01/04
Purple Bus Pass Collective DJ's
Brave Captain + DJ Lambchop.
@ Journeys, Sblot, Caerdydd [£2]

Iau 22/01/04
Dockrad yn cyflwyno
Lawnsiad "Blaen Troedar", albwm MC Saizmundo
MC Saizmundo, Headcase Ladz, DJ's Lladron
@ Clwb y Twcan, Caerdydd [£5]

Gwener 23/01/04
Dockrad yn cyflwyno
MC Saizmundo + MC Mabon
@ Y Cwps, Aberystwyth

Iau 29/01/04
Noson Abri
Meic Stevens, Acoustique, Supernauts, DJ Lambchop
@ Clwb y Twcan, Caerdydd [£4/£5]

Gwener 30/01/04
Dockrad yn cyflwyno
MC Saizmundo + MC Mabon
@ Y Cwps, Aberystwyth

Sadwrn 31/01/04
Kentucky AFC + Bechdan Jam
@ Oakley Arms, Maentwrog [£5]

Mwy i ddilyn washi....