annibyniaeth barn!

> Tudalen hafan

> Cyfraniadau
Erthyglau a syniadau gan bobl amrywiol
> Darllen Seren Tan Gwmwl
Darllen ôl-rifynau o Seren Tan Gwmwl
> Cysylltiadau
Rhestr o safleoedd perthnasol ar y rhyngrwyd
> Cyfrannu
Anfonwch eich sylwadau neu syniadau aton ni
> Erthygl y mis
Chechnya: cyfrinach waedlyd Rwsia
 
 



YMUNWCH Â'R YMGYRCH I DYNNU LLUOEDD CONCWEST PRYDAIN AC AMERICA ALLAN O IRAC

Seren Cymru


MAE'R ERTHYGL HON YN SON AM YR HOLOCAUST TAWEL AC ANWELEDIG YN CHECHNYA. CODWYD YR ERTHYGL O'R
FANER NEWYDD
TREISIO GWRAGEDD, POENYDIO PLANT, LLOFRUDDIO'R DYNION - MILWYR PUTIN YN CHECHNYA HEDDIW.
Putin: arch-lofrudd
Erthygl gan Krystyna Kurczab-Redlich, Newyddiadurwraig o Wlad Pwyl.

Fe ddaeth y lori yn araf i lawr y stryd. Ar y cefn roedd dyn ifanc yn waed i gyd a'i ddwylo a'i draed wedi'u clymu. Stopiodd y lori a gwthiwyd y dyn ifanc i lawr a'i roi i sefyll yn erbyn ffens. Symudodd y lori yn ei blaen a bu ffrwydriad mawr. Roedd ffrwydron wedi chwythu corff y dyn ifanc yn ddarnau.

Mae milwyr Putin yn Chechnya wedi datblygu techneg newydd o ladd a chael gwared ar gyrff y meirw, sef defnyddio ffrwydron i'w chwythu'n ddarnau fel nad oes gyrff ar ôl nac unrhyw dystiolaeth i'r llofruddio yn weddill.

Enghraifft o hyn oedd pentre Meskyer Yurt lle cafodd 21 o ddynion, gwragedd a phlant eu clymu gyda'i gilydd a'u chwythu'n ddarnau a'r darnau wedyn yn cael eu claddu mewn ffos. Does dim amheuaeth ei fod yn ddull ymarferol iawn - does dim cyrff ar ôl i'w cyfrif. Mae'n arwyddocaol fod cwn yn Chechnya yn cloddio rhannau o gyrff o'r ddaear mewn gwahanol rannau o'r wlad yn ddyddiol bron.

Ond mae'r hen ddulliau ffiaidd o boenydio a lladd yn parhau. Cafwyd hyd i gyrff 6 dyn o Krasnostepnovskoye yn noeth gyda chydau plastig am eu pennau. Yn Chankala yn ymyl gwersyll milwrol Rwsaidd darganfuwyd 50 o gyrff heb lygaid, clustiau a cheilliau. Cafwyd hyd i feddau torfol yn ymyl Grozny, Alkhan-Kala ac Argun.

Mae Cymdeithas Rwsia-Chechnya mewn cydweithrediad â Cymdeithas Gwarchod Hawliau Dynol yn adrodd fod 509 o bobl wedi eu saethu, 64 wedi eu cymryd i ffwrdd, 168 wedi eu clwyfo'n ddifrifol a 298 wedi eu poenydio mewn un mis yn unig.

Mae'n beth cyffredin i ddynion beidio â chael eu gweld byth eto ar ôl eu cymryd gan filwyr Rwsaidd i'w holi - a'r casgliad anorfod yw iddyn nhw gael eu poenydio i farwolaeth. Yn Chechen Aul mewn cyfnod o ugain diwrnod llofruddiwyd 22 o ddynion rhwng 20 a 26 oed. Roedd dau ohonyn nhw yn 15 oed. Mae'n amlwg fod milwyr Putin yn ystyried fod ganddyn nhw hawl i ladd unrhyw wryw - gan gynnwys plant.
Yn Chechen Aul bu 20 o gyrchoedd gan OMON a Spetsnaz sef lluoedd yn arbenigo mewn poenydio a lladd. Yr hyn sy'n digwydd fel arfer yw bod pentre yn cael ei gylchynu'n llwyr gan danciau a loriau Rwsaidd gydag un cerbyd sy'n cael ei alw'n "gerbyd puro".

Yn ystod y cyrchoedd hyn ar y pentrefi mae'r milwyr yn lladrata pob eiddo personol o werth ond nid dyna'r cyfan. Yn ôl llygad-dyst Zurha o Enikaloi fe ddaeth tua 100 o gerbydau i gyd yn llawn o filwyr. "Fe redon ni allan i gwrdd a nhw gyda'n dogfennau yn ein dwylo. Fe ddaeth 20 ohonyn nhw, yn arfog ac heb siafo, yn drewi o fodca ac yn gwisgo mygydau i mewn i glos y ty. Roedden nhw'n rhegi'n ofnadwy. Fe gymron nhw fy mhapurau swyddogol i a'u rhwygo o flaen fy llygaid. Roeddwn i wedi talu 500 rwbl amdanyn nhw. Yna fe aethon nhw i dy fy nghymdogion, y teulu Magomedova.

Fe glywon ni swn saethu a sgrechiadau'r ferch Aminat. Fe waeddodd ei brawd Ahmed 'Gadewch hi i fod - lladdwch ni yn lle hynny.' Wedyn bu swn saethu. Edrychais i drwy'r ffenest a gweld un o filwyr OMON yn hanner noeth yn gorwedd ar ben Aminat. Roedd hi'n gwaedu o glwyfau ar ôl ei saethu. Gwaeddodd milwr arall, 'Brysia ,Kolya, tra bod hi'n dal yn gynnes.'"

Weithiau mae'r byw yn Chechnya yn eiddigeddus o'r marw megis yn Zernovodsk lle daeth y milwyr a gorfodi'r pentre cyfan allan i gae. Yno gorfodwyd pawb i wylio'r gwragedd yn cael eu treisio. Pan geisiodd y dynion ymyrryd fe'u clymwyd hwy wrth y cerbydau a'u treisio nhw hefyd. Cafodd Nurdi Dayeyev oedd yn hanner dall ei boenydio drwy yrru hoelion drwy ei ddwylo a'i draed am fod y milwyr yn amau ei fod mewn cysylltiad â'r gwrthryfelwyr. Pan gafodd ei deulu hyd i'w gorff roedd llaw wedi'i thorri i ffwrdd. Cafwyd hyd i gorff pentrefwr arall Aldan Manayev ond roedd y corff heb ben. Gorfodwyd teuluoedd y ddau i arwyddo papurau yn dweud fod y ddau wedi chwythu eu hunain i fyny. Ar ôl y digwyddiad yma fe ymunodd 45 o ddynion y pentre â'r gwrthryfelwyr yn y mynyddoedd.

Y peth mwyaf cyffredin yw fod dynion yn diflannu'n llwyr. Wedyn mae eu teuluoedd yn gorfod mynd i'r canolfannau milwrol i ofyn a ydyn nhw yno. Os yw'n bosibl dod o hyd iddyn nhw mae'n bosibl y bydd modd eu prynu nhw nôl. Y pris am gael person yn ôl yn fyw yw mil o ddoleri ac mae'r pris am gorff yn uchel hefyd. Os byddan nhw'n methu dod o hyd i'w perthnasau mae teuluoedd yn danfon llythyron at Putin ac yn llanw deisebau - ond yn ofer.

Os bydd rhai'n dychwelyd ar ôl eu cipio maen nhw'n dod yn ôl wedi eu niweidio'n gorfforol - arennau'n gwaedu, ysgyfaint yn gwaedu, methu clywed neu weld, esgyrn wedi'u torri, a'u gwneud yn analluog i gael plant oherwydd niwed i'w organau rhywiol.

(Newyddiadurwraig o Wlad Pwyl yw Krystyna Kurczab-Redlich a dreuliodd gyfnod hir yn Chechnya.)

Mwy o wybodaeth am Chechnya ar gael fan hyn.

NEWYDD
Gwybodaeth gyfredol am Chechnya.
Cliciwch ar y ddelwedd.

er gwaetha'r gwaed, mae achos y Chechniaid yn un cyfiawn

Mwy o erthyglau ar gael ar safwe'r Faner Newydd