Y CROMOSOMAU YN AILYSGRIFENNU HANES CYNNAR Y CYMRY

Pobl heb hanes cynnar fuon ni’r Cymry a’r drws oedd yn agor ar ein gorffennol pell wedi’i gau. Er hyn rywle yn nyfnderoedd ein bod roedd i ni, fel y tystia ein llenyddiaeth, gof amdanom ni’r Cymry fel gwir frodorion Ynys Prydain a fu unwaith yn meddiannu Prydain oll cyn ein hysbeilio gan eraill o’n tai a’n tiroedd gan adael ein gwaed ar y gwellt a’n haelwydydd yn oer ac yn adfail.

Wfftiwyd y cof yma gan haneswyr a hyd yn ddiweddar portreadwyd ni fel newydd-ddyfodiaid i Ynys Prydain a gweddillion y Celtiaid hynny a sgubodd ar draws Ewrop ychydig filoedd o flynyddoedd cyn Crist.

Ond nawr mae’r genetegwyr wedi profi mai’r Cymry oedd trigolion gwreiddiol ynysoedd Prydain a’n bod ni yma ers Oes y Cerrig. Mae tystiolaeth y cromosomau yn dangos bod ein gwareiddiad yn hyn o lawer nag a feddyliwyd ac yn ymestyn yn ddi-dor o gyfnod yr helwyr cynnar Palaeolithig hyd heddiw.

Roedd yr anthropolegydd H.J. Fleure o Brifysgol Aberystwyth, a oedd wedi ei gyfareddu gan natur lednais ac urddasol Cymry gwledig ardal Pumlumon, yn argyhoeddedig fod y Cymry yn bobl hen iawn - yn ddisgynyddion i lwyth hynafol a alwodd "y Bobl Fach Ddu". Fe geisiodd brofi ei ddamcaniaeth drwy fesur penglogau Cymry ucheldiroedd y gorllewin a dangos bod gan y bobl hyn benglog o siap arbennig.

Un o’r rhai a astudiwyd oedd perthynas i Steve Jones, y genetegydd enwog o Geredigion, sef James James o Nantymoch.

Meddai Steve Jones: "Yn 1927 fe werthodd hen berthynas i mi, James James, ei ben. Fe gafodd £70 mewn arian parod am ei benglog - pan fyddai ar gael..."

Roedd James James yn byw ar lethrau Pumlumon yng nghanolbarth Cymru. Yno, yn ôl llawer, roedd trigolion cynhenid yr ynysoedd hyn wedi goroesi, wedi eu gwthio i’r ymyl gan fewnlifiad o estroniaid. Fel y dywedodd H. J. Fleure (a dalodd am y pen): “Gellir dweud fod yr ymylon Celtaidd mewn ffordd y noddfa derfynol yn y gorllewin pell, lle mae hen feddyliau a gweledigaethau yn dal yn fyw... Mae’r Bobl Fach Ddu i’w darganfod heddiw yn y boblogaeth wledig... y teip sydd i’w cael yn aml mewn cyfarfod crefyddol neu farddol.”

Wrth gwrs, doedd mesur penglogau ddim yn ffordd wyddonol, ddibynadwy o olrhain tarddiad y Cymry. Ond erbyn hyn mae yna ffordd wyddonol gwbl chwyldroadol o olrhain hanes pobl - sef drwy astudio eu genynnau – yn arbennig felly y cromosomau gwryw Y. Mae mapio’r cromosomau Y ar draws y byd yn rhoi hanes tarddiad a dosbarthiad pobloedd i ni. Dim ond yn y gwryw mae’r cromosom Y yn digwydd ac mae’r cromosom yma yn cael ei drosglwyddo o’r tad i’r mab. Darganfyddwyd fod Indiaid America yn meddu ar yr un nodweddion cromosomaidd Y â phobl yn byw yn Siberia yng nghyfandir Asia.

Mae’r llwybr genedol yn olrhain cyndadau Indiaid America yn ôl i ganol Siberia ac yn arbennig i’r Cetiaid o Ddyffryn afon Yenisey. Roedd yna helwyr Oes y Cerrig yn byw yn Siberia tua 50,000 - 40,000 o flynyddoedd yn ôl.

Yn 1986 cyhoeddodd Ginsberg ac eraill astudiaeth yn dangos fod y dystiolaeth enynnol, ddeintyddol a ieithyddol yn darlunio allfudiad o Siberia i’r Amerig mewn tair ton, drwy gulfor Bering, a oedd yn sych bryd hynny, rhyw 15,000 o flynyddoedd yn ôl.

Nid teithio’n fwriadol ar draws a wnaeth dynion ac anifeiliaid ond roedden nhw’n byw ar y paith (steppe) yma ac yn hela’r anifeiliaid ar ei borfeydd gwastad am filoedd o flynyddoedd - paith oedd ymron 1,000 o filltiroedd ar draws.

Mae’r dystiolaeth yn dangos i’r bobl a ddaeth o Siberia gyrraedd lawr i waelod De America ac ardal Patagonia mor gynnar â 12,5000 o flynyddoedd yn ôl fel y profa tystiolaeth archaeolegol o safle Monte Verde yn Chile. (Mae defnydd yr Indiaid cynnar hyn o blanhigion at bwrpasau meddygol yn awgrymu y gallen nhw fod wedi dod i’r ardal filoedd ar filoedd o flynyddoedd cyn hynny hyd yn oed.) Mae 4 allan o bob 5 o Indiaid De America yn cludo’r un fersiwn o’r Y sy’n awgrymu mai ychydig iawn oedd y rhai a lwyddodd i gyrraedd De America yn y cychwyn cyntaf.

Y rhyfeddod mawr yw darganfod fod y Cymry a’r Gwyddelod a’r Albanwyr Gaelaidd hefyd yn perthyn i’r un grwp Y â helwyr cynnar Siberia ac Indiaid America.. Meddai Steve Jones, "Mae’r cromosomau yn datgelu cyswllt hynafol rhwng pobl Cymru a brodorion America...Yng Nghymru mae naw allan o bob deg dyn cyn cludo rhyw fersiwn o haplogrwp 1...mae un is-deip yn gyfrifol am 70% o gromosomau gwryw...

Mae brodorion America wedi eu cysylltu gyda phobl Cymry drwy eu cromosomau... Roedd eu disgynyddion yn y de pell, pan groesawon nhw yr ymfudwyr ar y llong Mimosa, o ganlyniad (a heb yn wybod) yn cymryd rhan mewn aduniad teuluol."

Pobl arall sy’n meddu ar yr un cromosomau Y â’r Cymry yw’r Basgiaid. Yn ôl yr Athro David Goldstein o Goleg Prifysgol Llundain, "Yn ystadegol does dim modd gwahaniaethu rhwng cromosomau Y y Basgiaid a’r Cymry." Mae’r Basgiaid felly yn tarddu o’r un helwyr Palaeolithig â’r Cymry ac fel y Cymry fe gadwon nhw eu hunaniaeth genynnol. Ond yn wahanol i’r Cymry fe lwyddon nhw i gadw eu hiaith wreiddiol, iaith sy’n wahanol i bob iaith arall yn Ewrop.

Roedd y Cymry a’r Basgiaid felly yn ddisgynyddion i’r Ewropeaid cynharaf, sef yr helwyr Palaeolithig o Siberia a ddaeth i Ewrop yng nghyfnod enciliad yr iâ. Mae’r cromosomau hefyd yn medru rhoi i ni syniad o pryd y digwyddodd y gwahaniaethau genynnol ac felly yn dyddio symudiadau pobloedd ar draws y byd. Mae tystiolaeth y genynnau yn olrhain y Cymry, Gwyddelod, Albanwyr Gaelaidd, Basgiaid ac Indiaid Cochion America yn ôl i’r amser cyn yr oes iâ ddiwethaf sef i tua 50,000 flynyddoedd yn ôl i Siberia.

Canolbarth Asia, neu Siberia, yw’r lle y mae fersiwn hynaf y cromosom Y y mae’r Cymry yn meddu arno. Mae nifer o astudiaethau yn dangos mai o ardal Llyn Baikal yn Siberia y tarddoddd yr Indiaid Cochion, y Basgiaid a’r Cymry.

Lle rhyfeddol yw Llyn Baikal - y llyn dwr croyw mwyaf yn y byd, "perl Siberia". Roedd pobl yn byw yma mor bell â 50,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae tystiolaeth archaeolegol yn dangos fod y bobl oedd yn byw yno yn Oes y Cerrig yn ddatblygedig mewn llawer ffordd. Roedden nhw’n cerfio cerfluniau bychain ac yn arlunwyr medrus ac mae cerfiadau a lluniau mewn ogofau yn darlunio anifeiliaid, helwyr a phobl mewn cychod.

Claddent eu meirw yn ddefodol. Roedden nhw’n byw mewn dau fath o adeilad - math o babell o grwyn a changau wedi’i angori gydag esgyrn mamoth a cherrig oedd yn adeilad parhaol a phabell o grwyn a changau ysgafn oedd yn fwy symudol. Y llwyth yn Siberia sydd heddiw yn cario’r un fersiwn o’r Y â’r Cymry a’r Indiaid Cochion yw’r Ketiaid o ddyffryn afon Yenisey. Mae traddodiad llafar y Ketiaid eu hunain yn awgrymu iddyn nhw ddod yn wreiddiol o ardal i’r de ac iddyn nhw gael eu gyrru i’r gogledd a chroesi mynyddoedd cyn dod i’w lleoliad presennol.

Truenus iawn yw cyflwr y Ketiaid sy’n weddill yn Siberia heddiw. Cawsant eu gormesu dros gyfnod hir - eu caethgludo a’u gorfodi i newid eu ffordd o fyw adeg gormes Stalin. Dechreuodd eu dirywiad a dadfeiliad eu ffordd draddodiadol o fyw pan orfodwyd ffordd o fyw Rwsaidd a’r iaith Rwseg arnyn nhw. Erbyn heddiw mae’r Ketiaid yn byw mewn tai. Yn anffodus oherwydd iddyn nhw golli eu ffordd naturiol o fyw heb amser i addasu i’r byd modern maen nhw wedi mynd i gyflwr truenus gyda llawer yn gaeth i’r ddiod. Mae’r Ketiaid heddiw yn wynebu difodiant llwyr gyda dim ond rhyw 1,000 ohonyn nhw ar ôl erbyn hyn a dim ond traean o’r rheiny yn medru’r iaith. Mae dwyieithrwydd Ket-Rwseg yn prysur ddiflannu gydag unieithrwydd Rwseg yn ei ddisodli’n gyflym.

Mae arwyddocad y darganfyddiadau hyn i hanes Cymru yn aruthrol. Ystyr hyn yw y bydd yn rhaid ailysgrifennu hanes cynnar Cymru yn llwyr. Y ffaith drawiadol gyntaf yw fod ein gwareiddiad yn llawer hñn nag a dybiwyd. Nid rhywbeth a ddaeth i fodolaeth drwy fewnlifiad Celtaidd rhyw ychydig filoedd o flynyddoedd cyn Crist ydyw ond rhywbeth y mae ei wreiddiau yng Nghymru a Phrydain yn tarddu o Oes y Cerrig.

Yr ail ffaith drawiadol yw ei fod felly yn ddatblygiad di-dor ar draws y canrifoedd. Parhad ac nid goresgyniadau ddylai fod prif thema hanes Cymru. Fe wyddon ni nawr fod ein llewyrch yn y cyfnod Neolithig nid yn ganlyniad i fewnlifiad pobloedd o’r tu allan fel y tybiwyd ond yn ddatblygiad cysefin drwy gymathiad y Cymry brodorol o ddylanwadau allanol ers Oes y Cerrig. Yn draddodiadol mae haneswyr Cymru wedi anwybyddu’r cyfnod Palaeolithig cynnar fel cyfnod cyntefig, amhwysig. Y mae’r dystiolaeth newydd yn dangos bod dull haneswyr Lloegr o ddarlunio hanes Cymru fel cyfres o oresgyniadau yn gwbl gamarweiniol - Celtiaid, Rhufeiniaid, Sacsoniaid - gan anwybyddu’n llwyr y ffaith fod y Cymry cynharaf o’r cyfnod Palaeolithig wedi aros yn elfen gyson ddi-dor ar hyd y blynyddoedd.

Nid yn unig mae’r dystiolaeth archaeolegol a genynnol yn dangos fod y Cymry wedi bod yma ers Oes y Cerrig ond yn bwysicach fyth yn dangos na fu unrhyw doriad ym mharhad yr hen wareiddiad cynnar hwnnw - dim ond newid graddol a chymathu dylanwadu newydd. Rydyn ni heddiw yn etifeddion diwylliant sy’n barhad gwareiddiad sy’n llinyn di-dor ers dyddiau’r helwyr cyntefig.

Ysytyriodd haneswyr nad oedd i’r bobl oedd yma yn Oes y Cerrig unrhyw bwysigrwydd yn hanes Cymru. Dyna farn archaeolegwyr fel Glyn Daniel: "Mae’r helwyr Paleolithig a’r rhai Mesolithig a’u dilynodd oedd yn byw yng Nghymru wrth i’r llen iâ encilio yn ffurfio dechreuad nad yw’n gynhyrfus nac yn berthnasol i brif stori’r gorffennol yng Nghymru." Mor anghywir oedd e! Ni fedrai dim fod yn fwy cynhyrfus a dramatig na’n dechreuad ni’r Cymry - sef hirdaith ein cyndadau cyntefig ar draws Ewrop o bellteroedd Siberia i Gymru. Ar dir y daethon nhw gan fod Prydain bryd hynny yn dal yn rhan o gyfandir Ewrop. Dim ond tua 9,500CC y dechreuodd yr ia encilio gan greu Môr Hafren a rhannu rhwng Cymru ac Iwerddon gan fôr yn hytrach na chulfor.

Credodd yr haneswyr mai cwbl amherthnasol yn hanes Cymru fu’r helwyr cynnar ac na fu iddyn unrhyw barhad ac mai tonnau o fewnfudwyr diweddarach a greodd hanfod ethnig y Cymry. Meddai Glyn Daniel, "Efallai fod gwaed rhai o’r bobl (Paleolithig) hyn yn dal i lifo yn ein gwythiennau, ond nid oes un ffordd y medren nhw fod wedi bod yn elfen ethnig bwysig ym mhoblogaeth Cymru."

Diolch i ymchwil DNA fe wyddom erbyn hyn mai’r gwrthwyneb sy’n wir - gwaed ein cyndadau Paleolithig - gwaed yr helwyr cyntefig - yw’r brif elfen ethnig ym mhoblogaeth Cymru yn ôl tystiolaeth y cromosomau. Roedd y Cymro John Rhys yn gwbl iawn pan ddywedodd "fe allai’r Celtiaid fod wedi dod mewn niferoedd cymharol fach, heb sôn am fod y bobl frodorol, a oedd wedi bod yma o bosibl miloedd o flynyddoedd cyn i’r Indo-Ewropiaid cyntaf gyrraedd wedi cael cymaint o fantais o ran cynefindra â’r tir, fel mai dim ond nhw (y bobl frodorol) sy’n parhau mewn niferoedd." Yn ôl Steve Jones yr helwyr cyntefig yw’r brif elfen ethnig yng nghyfansoddiad y Cymry, "Yng Nghymru mae naw o bob deg dyn yn cludo rhyw fersiwn o’r haplogrwp 1. Is-deip unigol sy’n gyfrifol am 70% o gromosomau gwryw Cymry (sy’n rhoi i’r genedl yr hunaniaeth wryw mwyaf cydryw (homogeneous) yn Ewrop."

Sut ddarlun felly sydd gyda ni erbyn hyn o’n cyndadau cynnar? Fe wyddom diolch i ddarganfyddiadau archaeolegol diweddar fod y dyn modern wedi dod allan o’r Affrig rhyw 100,000 - 200,000 o flynyddoedd yn ôl. Fe gyrhaeddodd y dyn cyntefig Awstralia erbyn tua 60,000 yn ôl (sgerbwd coch Llyn Mungo). Erbyn tua 50,000 o flynyddoedd yn ôl roedd yn Siberia ac wedi lledu ar draws Ewrop i gyrraedd gwlad y Basg tua 32,000 blwyddyn yn ôl a Chymru rhyw 30,000 blwyddyn yn ôl) fel y gwyddom oddi wrth sgerbwd Pen-y-fai (sydd wedi ei gladdu mewn ocr coch yn yr un dull â sgerbwd Llyn Mungo yn Awstralia).

Sut rai oedd ein cyndadau - helwyr oes y Cerrig? Mae’r dystiolaeth archaeolegol yn dangos eu bod nhw, er yn byw bywyd helwyr, yn bobl oedd mewn llawer ystyr yn ddiwylliedig a datblygedig. Roedden nhw’n cerfio delwau bychain ar asgwrn ac ifori, yn creu tlysau megis crogdlysau a gwddfdorchau, yn medru arlunio ar furiau ogofau(er na ddarganfyddwyd dim yng Nghymru hyd yma).

Roedd ganddyn nhw ddau fath o adeilad sef hendrefi ar gyfer y gaeaf oedd wedi eu creu ar ddull teepee o grwyn a changau. Roedden nhw’n cloddio tyllau ac yn gosod polion ynddyn nhw wedi eu clymu gyda’i gilydd ar y brig gyda chortyn wedi’i wneud o berfedd anifail. Gosodwyd crwyn cynnes dros y polion a’u gwnïo yn eu lle. Ar eu gwaelod gosodwyd cerrig i’w cadw yn eu lle. Ynddyn nhw roedd lle tân canolog. Roedd pebyll ysgafn allan o grwyn a changau ar gyfer yr haf pan fydden nhw’n teithio a hela.

Helwyr-gasglwyr oedden nhw yn bwyta bwyd iach iawn sef hadau, aeron, gwreiddiau, cnau, pysgod ac yn bennaf cig. Roedden nhw wedi dysgu storio bwyd at y gaeaf. Roedden nhw’n gweud offer ac arfau ar gyfer hela a physgota -roedd bwa a saeth wedi datblygu ac mae’n gwbl bosibl fod y cyryglau a welir ar afonydd Teifi a Thywi heddiw yn dyddio o’r cyfnod hwn. Mae dadansoddiad o sgerbwd Pen-y-fai yn dangos ei fod yn hoff iawn o fwyta pysgod - pysgod a bysgotwyd o’r palaeo-Hafren.

Anghyflawn yw’r darlun a geir o’n cyndadau cynnar oherwydd prinder tystiolaeth archaeolegol, ond y mae un safle hynod bwysig yng Nghymru sy’n rhoi llawer iawn o oleuni ar y cyfnod hwn sef ogof Pen-y-fai, Gwyr.

Mae’r dystiolaeth archaeolegol ym Mhen-y-fai yn dangos fod pobl yma mor gynnar â 30,000 o flynyddoedd yn ôl. Cafwyd arfau ac offer yn yr ogof sy’n dangos bod yma bobl yn llunio arfau ac offer a thlysau, ond y prif hynodrwydd oedd darganfod sgerbwd sef Sgerbwd Coch Pen-y-fai sy’n dyddio o tua 26,000 o flynyddoedd yn ôl. Sgerbwd dyn tua 25-30 mlwydd oed ydyw. Roedd tua 5 troedfedd 8 modfedd o daldra ac yn pwyso tua 11st. Mae’r sgerbwd wedi ei liwio â lliw coch sef ocsid haearn. Yn ymyl y corff cafwyd hyd hefyd i gregyn o’r môr wedi eu tyllu i greu addurn, ffyn bychain ifori a darn o benglog mamoth. Does dim amheuaeth fod yma gladdu defodol ac arwyddocad crefyddol i’r cyfan.

Wrth gwrs tymhorol oedd presenoldeb y dyn cyntefig yng Nghymru a Phrydain yn y cyfnod cynnar gan fod cyfnodau oer a dychweliad yr iâ yn anffafriol iddo. Ond tua 12,00 o flynyddoedd yn ôl dechreuodd presenoldeb parhaol y dyn cyntefig ym Mhrydain ac yng Nghymru.

Erbyn y cyfnod Mesolithig roedd y tywydd wedi gwella a choedwigoedd wedi datblygu dros rannau helaeth o’r wlad. Nid yn unig hyn ond roedd lefel y môr yn codi’n gynyddol gan arwain at wneud Prydain yn ynys. Daliai’r dyn cyntefig i ffafrio’r aberoedd a’r arfordiroedd ond hefyd gwelwyd ei bresenoldeb tymhorol ar yr ucheldiroedd megis Brenig a Llyn Aled Isaf ar fynydd Hiraethog a Waun Fign Felen ym Mannau Brycheiniog.

Mae’r cromosomau hefyd yn dweud llawer wrthon ni am yr hyn a ddigwyddodd i’r Cymry cynnar wrth iddyn nhw ddod i gysylltiad â dylanwadau o’r tu allan yn y cyfnod a ddilynodd sef y cyfnod Neolithig. Fe gadwodd y Cymry eu hunaniaeth ennynnol yn y cyfnod hwn sy’n awgrymu cymathu dylanwadu newydd yn hytrach na chael eu dileu ganddyn nhw. Dyma’r gyfnod y datblygodd pobloedd arfordiroedd y gorllewin "ddiwylliant megalithig" a oedd yn ôl Cunliffe "ymhlith y mwyaf datblygedig a sefydlog yn Ewrop".

Yn ddiddorol iawn mae’r DNA mitocondraidd, sef yr elfen enynnol fenywaidd, yn dangos bod ein cyndeidiau ni y Cymry wedi ymdoddi gydag elfen Ewropeaidd ar ryw gyfnod gan gymryd gwragedd o’r tu allan. Dywed Goldstein, "Does dim raid dychmygu bod Cymru wedi ei goresgyn gan haid o Amasoniaid na bod y Cymry wedi penderfynu cael gwragedd o Ewrop. Yn fwy na thebyg roedd cyswllt rhwng y Cymry â’r cyfandir a chael gwragedd oddi yno yn rhan o’r cyswllt economaidd a diwylliannol. Hefyd roedd y dynion yn fwy na thebyg yn aros heb symud o’u pentref tra bod y gwragedd yn symud i
fyw gyda nhw."

Mabwysiadodd y Cymry iaith Geltaidd yn y cyfnod yma. Awgrymodd yr ysgolhaig John Morris Jones fod cystrawen y Gymraeg yn seiliedig ar gystrawen iaith hynafol arall - iaith yr oedd y Gymraeg wedi ei disodli. Gellir tybio mai iaith debyg i iaith y Basgiaid fyddai hen iaith wreiddiol y Cymry.

Mae’r cromosomau nid yn unig yn adrodd ein hanes cynharaf ond hefyd yn rhoi darlun i ni o’r hyn a ddigwyddodd yn y cyfnod wedi cilio o’r Rhufeiniaid o Brydain. Awgryma tystiolaeth y genynnau bod math o lanhau ethnig wedi digwydd gyda rhwng 50% a 100% o boblogaeth wreiddiol Prydain wedi eu lladd neu eu dadleoli gyda Chlawdd Offa yn gweithredu fel "rhagfur genynnol" yn amddiffyn y Cymry rhag dinistr llwyr.

Mae ysgolheigion o Ganolfan Anthropoleg Genynnol Prifysgol Llundain wedi cymharu dynion o Brydain gyda dynion o’r Iseldiroedd sef tarddiad tebygol y Sacsoniaid. Y canlyniad oedd darganfod bod cyfansoddiad genynnol y Saeson ‘run fath â’r dynion o’r Iseldiroedd ond roedd cyfansoddiad genynnol y Cymry yn dra gwahanol.

Dewisodd yr ymchwilwyr saith tre sy’n cael eu henwi yn Llyfr Doomesday ac astudio 3,123 o wirfoddolwyr yr oedd eu tad-cu ar ochr eu tad wedi dod o’r ardal honno. Ar sail hyn mae’r arbenigwyr yn awgrymu bod yna oresgyniad anferth o boblogaeth Eingl-Sacsonaidd wedi bod a ddinistriodd y boblogaeth frodrol yn Lloegr yn llwyr, ond i’r Cymry oroesi’r dinistr.

Yn ôl Dr Mark Thomas o Goleg Prifysgol Llundain "Mae’n ymddangos bod Lloegr wedi ei chreu gan ddigwyddiad glanhau ethnig gan bobl yn croesi o’r cyfandir ar ôl i’r Rhufeiniaid adael." Pan adawodd y Rhufeiniaid aeth y Brythoniaid yn ôl i’r hen fryngaerau. Ond mae’n ymddangos bod llawer o’r boblogaeth Frythonig erioed wedi gadael eu bryngaerau. Roedd rhai o’r bryngaerau mwyaf gyda chymaint â 500 annedd o fewn eu cylch - poblogaeth yn cyfateb i bentref bach heddiw. Nid lleoedd bach oedd y tai yn y bryngaerau hyn - roedd rhai ohonyn nhw tua’r un maint â byngalo dwy stafell wely. Wrth gwrs roedd coedwigoedd yn dal i fod yn drwch ar hyd llawer o’r dyffrynnoedd. Ond fe ddaeth y mewnlifiad estron o’r cyfandir gyda gwell arfau ac mewn niferoedd mawr.

Cred y Cymry erioed yw eu bod nhw wedi cael eu gwthio allan o’u tiroedd ac i’r gorllewin gan fewnlifiad estron a hynny drwy laddfa ac erledigaeth. Meddai Wade Evans: "Credaf y gellir mynegi’r syniad arferol heddiw am darddiad y Cymry fel a ganlyn. Meddiannai’r Brythoniaid cynnar ynys Prydain gyfan. Fe’u concrwyd gan y Rhufeiniaid. Dychwelodd gwyr Rhufain i’w gwlad. Yna glaniodd y Saeson ac ymlid yr hen Frythoniaid o Loegr i Gymru. Llithrodd glyn ar ôl glyn, a mynydd ar ôl mynydd o afael yr hen drigolion a beunydd y gwthiwyd hwy’n nes i Fôr Iwerddon."

Dyna’n wir y darlun a geir gan haneswyr cynnar megis awdur De excidio Britanniae (Coll Prydain). A Beda wedyn yn dweud yn bendant mai dros fôr y daeth y Sacsoniaid "anrheithio wyneb bron yr holl ynys ddadfeiliedig o fôr y dwyrain i’r gorllewinfor." Mae Cronigl Galaidd (Cronigl 452) yn sôn am 442-3 AD fel hyn: Brittaniae usque ad hoc tempus variis cladibus eventibusque la(cera)tae in dicionem Saxonum rediguntur. ("Darostyngwyd dan reolaeth y Saeson y Brythoniaid sydd hyd yn hyn yn rhwygedig gan amryw drychinebau a digwyddiadau eraill".)

Mae cofnod y mynach Beda o’r Eingl yn erlid y Brythoniaid yn greulon "exterminating or enslaving the inhabitants, exorting tribute and annexing their lands for the English" yn ddarlun sy’n cael ei ategu gan dystiolaeth y farddoniaeth Gymraeg gynharaf. Gan nad oes gofnodion na thystiolaeth ddibynadwy o’r Oesoedd Tywyll am hanes y Cymry rhaid troi at yr unig dystiolaeth arall sydd ar gael sef tystiolaeth ein llên i weld a yw’n cefnogi tystiolaeth y genynnau.

Un o’r cerddi cynharaf yn y Gymraeg, cerdd a ysgrifennwyd yn yr Hen Ogledd, sef Gogledd Lloegr a de’r Alban yn y chweched ganrif, yw cerdd Taliesin Brwydr Argoed Llwyfein. Darlun o bobl yn cael eu gyrru o’u tai a’u tiroedd gan estroniaid o’r dwyrain oedd yn llawer trech na nhw sydd yma. Mae cerdd ddramatig Taliesin yn cyfleu argyfwng eithaf y Cymry a’u gwrthodiad i roi gwystlon i’r gelyn.

Atorelwis Fflamddwyn fawr drybestawd
(Fe waeddodd Fflamddwyn fawr ei falchder)
A doddynt fy ngwystlon, a ñnt barod?
(A ddaeth fy ngwystlon, ydyn nhw’n barod?)

Pobl yn amddifyn eu tiroedd rhag ymosodiad allanol gan elyn oedd yn llawer mwy niferus a chryfach na nhw a ddarlunir yn y gerdd. Mae’n rhaid casglu’r gwyr o lawer ardal ar frys i geisio creu byddin a fedr wrthsefyll y gelyn.

Goddau a Rheged i ymddullu
(Goddau a Rheged yn ymgasglu’n rhengoedd)
Dyfwy, o Argoed hyd Arfynydd
(Dyfwy o Argoed hyd at Arfynydd)
ni cheffynt eirios hyd yr un dydd.
(Ni chaent saib am hyd un dydd.)

Daw Fflamddwyn a’i fyddinoedd i ofyn yn haerllug am wystlon oddi wrth y
Cymry.

Atorelwis Fflamddwyn fawr drybestawd
(Gwaeddodd Fflamddwyn fawr ei fost)
"A ddoddynt fyng ngwystlon, a ynt barawd?
(A ddaeth fy ngwystlon, a ydynt barod")

Ateb Owain ab Urien ar ran ei bobl yw bod yn well ganddyn nhw farw nag ildio eu rhai annwyl i’r gelyn.

Ys atebwys Owain dwyrain ffosawd
(Iddo ef atebodd Owain, trallod y dwyrain)
Nid doddynt, nid ydynt, nid ynt barawd
(Ni ddaethant nid ydynt nid ynt barod)
a chenau Coel byddai gymwyawg
(a disgynnydd o Coel, byddai’n filwr gofidus)
lew cyn ys talai o wystl nebawd."
(cyn y talai wystl i neb.)

Mae cerdd Aneurin Y Gododdin hefyd yn darlunio pobl mewn argyfwng yn mabwysiadu tactegau eithafol. Ceisiodd Mynyddog Mwynfawr greu byddin elite o filwyr wedi’u crynhoi o bob rhan o Brydain i geisio adennill Catraeth.

Y darlun gorau o’r holl ladd a’r colli tiroedd a ddioddefodd y Cymry yn yr Oesoedd Tywyll yw’r ddau gylch o ganu Llywarch Hen a Heledd. Mae Canu Llywarch Hen a Heledd yn ddarlun o’r glanhau ethnig a ddioddefodd y Cymry yn yr Oesoedd Tywyll wrth i England gael ei ffurfio.

Stafell Gynddylan ys tywyll heno
Heb dân, heb wely,
Wylaf wers, tawaf wedy.

Mae’r gair "Celtaidd" bellach yn gwbl annigonol i ddisgrifio ein cyndeidiau cynnar a’u gwareiddiad brodorol cynhenid. Er mabwysiadu iaith Geltaidd roedd ein pobl yn rhan o wareiddiad sefydlog a gwreiddiol ac yn dwf organig ers Oes y Cerrig ac yn ganlyniad haen ar ôl haen o gymathiadau a dylanwadau.

Pa eiriau mwy addas i ddisgrifio gwareiddiad ein cyndadau na geiriau E.G. Bowen, "Roedd y bobloedd a’r diwylliannau oedd yn cyrraedd pellafion gorllewinol Ewrop ar unrhyw adeg yn gwneud hynny ar raddfa fechan. Byddai’r diwylliannau mewnlifol yn y ffordd yma yn cael eu cymathu â’r rhai oedd yno’n barod. Gwir y galwyd y tiroedd gorllewinol yma yn "Diroedd parhad Traddodiad."

Gallwn ymfalchïo fod gwyddor Geneteg wedi rhoi i ni ddarlun clir a chywir i ni o’n hanes cynnar ond nid yn y gwaed nac yn y genynnau y mae hanfod ein hunaniaeth. Ni fu ein cenedlaetholdeb ni’r Cymry erioed yn hiliol nac yn rhoi unrhyw bwyslais ar burdeb gwaed a boed iddo barhau felly.

Lleiafrif erlidiedig fu’r Cymry ar hyd yr oesoedd ac arddelwn ein perthynas gyda’n brodyr gwaed gorthrymedig yn America a Siberia bell. Creodd ein pobl, drwy filoedd o flynyddoedd o gyd-fyw heddychlon ar y tir hwn,werthoedd a ffordd o fyw arbennig - y "Ty llwyth nid o waith llaw" chwedl Waldo. Prif nodwedd ein gwareiddiad fu ei bwyslais ar bethau ysbrydol a hyn yw ein harbenigrwydd nid unrhyw burdeb hiliol. Oni bai am gymathiad cyson o uchel wareiddiadau eraill ar hyd y canrifoedd ni fyddai i ni, y Cymry, ddim parhad nac arbenigrwydd.

Y wyrth yw ein bod ni yma o hyd er gwaethaf y canrifoedd o erlid a gormes a llawenhawn fod y cymathu a gyfoethogodd ein gwareiddiad dros y canrifoedd yn parhau. Unod ysbrydol yw ein hundod ni a mawr fu cyfraniad rhai nad oedd o’r un gwaedoliaeth a ni - pobl megis Phyllis Kinney, Robina Elis Gruffydd, Steve Eaves, Phillipa Gibson, Lewis Smith a Helga Martin a llawer arall a roddodd o gyfoeth eu doniau yn ein cyfnod ni i sicrhau parhad y gwerthoedd sy’n gostreledig yn y diwylliant Cymraeg.

Nid yn y gwaed nac mewn hil y mae ein balchder ond yn ein hen, hen wreiddiau a’r gwarineb a ddeilliodd o feithrin y diwylliant cyfoethog a flodeuodd o’r gwreiddiau hynny.

Rhestr ddarllen: Nick Gore, The Most Recent Americans. National Geographic (Hydref 1997) Lell ac eraill, Y Chromosones polymorphiones in native American and Siberian populations. Hum. Genet.100. (1997) Bonato a Salzano, Diversity and Age of the Four Major mtDNA Halpogroups and their Implications for the Peopling of the New World. (1997) Bianchi ac eraill, Characterization of Ancestral and Derived Y-Chromosome Haplotypes of New World Native Populations. (1998) Santos ac eraill, The Central Siberian Origin for Native American Y Chromosomes. Am. J, Hum Genet.64 (1999) Karafet ac eraill, Ancestral Asian Sources of New World Y- Chromosome Founder Haplotypes. Am.J. Hum. Genet. 64. (1999) Bortolini ac eraill, Y-chromosome biallelic polymorphisms and Native American population strucvture. Ann Hum Genet 59 (2002) M. Hammer a T. Karafet, DNA and the Peopling of Siberia (2003) J. Wilson, D. Goldstein ac eraill, "Genetic evidence for different male and female roles during cultural change in the British Isles. Proceeding of the National Academy of Science. USA. 2001. Steve Jones, Y - The Descent of Man (2002) Nicholas Wade, Britain as told to the Y chromosome. New York Times (Mai/29/2003) William J. Dawson, Fossil Men and their Modern Representatives (1883) W. Buckland, Reliquiae Diluvianae (1823) Stephen Green a Elizabeth Walker, Ice Age Hunters (1991) J. B. Campbell, The Upper Palaeolithic of Britain (1977) R. M. Jacobi, The Upper Palaeolithic of Britain with especial reference to Wales. Culture and Environment in Prehistoric Wales (1980) R.G. Klein, Ice Age Hunters of the Ukraine (1973) I. Foster a G. Daniel, Prehistoric and Early Wales (1965) D.A. Roe, The Lower and Middle Palaeolithic Periods in Britain (1981) W.J.Sollas, Paviland Cave: an Aurignacian station in Wales yn Journal of the Royal Anthropological Institrute (1913) Stephen Aldous-Green, Paviland Cave and the Red Lady (2000) Chris Stringer, The Ancient Human Occupation of Britain (2003) J. Wymer, The Palaeolithic Age (1982) Glyn Daniel, The First People. Wales Through the Ages Cyfrol.1. John Rhys, The Welsh People (1900) John Davies, Hanes Cymru (1990) Prys Morgan, History of Wales (2001) B. Cunliffe, Facing the Ocean - The Atlantic and its Peoples (2001) E.G. Bowen, Britain and the Western Seaways (1972) Gordon Childe, The Prehistory of Europe (1958) John Morris Jones, Pre Indo-European Syntax in Insular Celtic. Ailargraffwyd yn Pre-Celtic Languages gan Ahmed Ali ac Ibrahim Ali (1995) A. W. Wade Evans, Rhagarweiniad i Hanes Cynnar Cymru. Seiliau Cenedlaetholdeb (1950) Dafydd Glyn Jones, Agoriad yr Oes (2001) Cyril Fox, Offa’s Dyke (1955) British Archaeology (Tach1999) K. Dark, Civitas to Kingdom (1994) N. Higham, The English Conquest (1994).