Mae arwyddocad y darganfyddiadau hyn i hanes Cymru yn aruthrol.
Ystyr hyn yw y bydd yn rhaid ailysgrifennu hanes cynnar Cymru
yn llwyr. Y ffaith drawiadol gyntaf yw fod ein gwareiddiad
yn llawer hñn nag a dybiwyd. Nid rhywbeth a ddaeth
i fodolaeth drwy fewnlifiad Celtaidd rhyw ychydig filoedd
o flynyddoedd cyn Crist ydyw ond rhywbeth y mae ei wreiddiau
yng Nghymru a Phrydain yn tarddu o Oes y Cerrig. Yr ail
ffaith drawiadol yw ei fod felly yn ddatblygiad di-dor ar
draws y canrifoedd. Parhad ac nid goresgyniadau ddylai fod
prif thema hanes Cymru. Fe wyddon ni nawr fod ein llewyrch
yn y cyfnod Neolithig nid yn ganlyniad i fewnlifiad pobloedd
o’r tu allan fel y tybiwyd ond yn ddatblygiad cysefin
drwy gymathiad y Cymry brodorol o ddylanwadau allanol ers
Oes y Cerrig. Yn draddodiadol mae haneswyr Cymru wedi anwybyddu’r
cyfnod Palaeolithig cynnar fel cyfnod cyntefig, amhwysig.
Y mae’r dystiolaeth newydd yn dangos bod dull haneswyr
Lloegr o ddarlunio hanes Cymru fel cyfres o oresgyniadau
yn gwbl gamarweiniol - Celtiaid, Rhufeiniaid, Sacsoniaid
- gan anwybyddu’n llwyr y ffaith fod y Cymry cynharaf
o’r cyfnod Palaeolithig wedi aros yn elfen gyson ddi-dor
ar hyd y blynyddoedd.
Nid yn unig mae’r dystiolaeth archaeolegol a genynnol
yn dangos fod y Cymry wedi bod yma ers Oes y Cerrig ond
yn bwysicach fyth yn dangos na fu unrhyw doriad ym mharhad
yr hen wareiddiad cynnar hwnnw - dim ond newid graddol a
chymathu dylanwadu newydd. Rydyn ni heddiw yn etifeddion
diwylliant sy’n barhad gwareiddiad sy’n llinyn
di-dor ers dyddiau’r helwyr cyntefig.
Ysytyriodd haneswyr nad oedd i’r bobl oedd yma yn
Oes y Cerrig unrhyw bwysigrwydd yn hanes Cymru. Dyna farn
archaeolegwyr fel Glyn Daniel: "Mae’r helwyr
Paleolithig a’r rhai Mesolithig a’u dilynodd
oedd yn byw yng Nghymru wrth i’r llen iâ encilio
yn ffurfio dechreuad nad yw’n gynhyrfus nac yn berthnasol
i brif stori’r gorffennol yng Nghymru." Mor anghywir
oedd e! Ni fedrai dim fod yn fwy cynhyrfus a dramatig na’n
dechreuad ni’r Cymry - sef hirdaith ein cyndadau cyntefig
ar draws Ewrop o bellteroedd Siberia i Gymru. Ar dir y daethon
nhw gan fod Prydain bryd hynny yn dal yn rhan o gyfandir
Ewrop. Dim ond tua 9,500CC y dechreuodd yr ia encilio gan
greu Môr Hafren a rhannu rhwng Cymru ac Iwerddon gan
fôr yn hytrach na chulfor.
Credodd yr haneswyr mai cwbl amherthnasol yn hanes Cymru
fu’r helwyr cynnar ac na fu iddyn unrhyw barhad ac
mai tonnau o fewnfudwyr diweddarach a greodd hanfod ethnig
y Cymry. Meddai Glyn Daniel, "Efallai fod gwaed rhai
o’r bobl (Paleolithig) hyn yn dal i lifo yn ein gwythiennau,
ond nid oes un ffordd y medren nhw fod wedi bod yn elfen
ethnig bwysig ym mhoblogaeth Cymru."
Diolch i ymchwil DNA fe wyddom erbyn hyn mai’r gwrthwyneb
sy’n wir - gwaed ein cyndadau Paleolithig - gwaed
yr helwyr cyntefig - yw’r brif elfen ethnig ym mhoblogaeth
Cymru yn ôl tystiolaeth y cromosomau. Roedd y Cymro
John Rhys yn gwbl iawn pan ddywedodd "fe allai’r
Celtiaid fod wedi dod mewn niferoedd cymharol fach, heb
sôn am fod y bobl frodorol, a oedd wedi bod yma o
bosibl miloedd o flynyddoedd cyn i’r Indo-Ewropiaid
cyntaf gyrraedd wedi cael cymaint o fantais o ran cynefindra
â’r tir, fel mai dim ond nhw (y bobl frodorol)
sy’n parhau mewn niferoedd." Yn ôl Steve
Jones yr helwyr cyntefig yw’r brif elfen ethnig yng
nghyfansoddiad y Cymry, "Yng Nghymru mae naw o bob
deg dyn yn cludo rhyw fersiwn o’r haplogrwp 1. Is-deip
unigol sy’n gyfrifol am 70% o gromosomau gwryw Cymry
(sy’n rhoi i’r genedl yr hunaniaeth wryw mwyaf
cydryw (homogeneous) yn Ewrop."
Sut ddarlun felly sydd gyda ni erbyn hyn o’n cyndadau
cynnar? Fe wyddom diolch i ddarganfyddiadau archaeolegol
diweddar fod y dyn modern wedi dod allan o’r Affrig
rhyw 100,000 - 200,000 o flynyddoedd yn ôl. Fe gyrhaeddodd
y dyn cyntefig Awstralia erbyn tua 60,000 yn ôl (sgerbwd
coch Llyn Mungo). Erbyn tua 50,000 o flynyddoedd yn ôl
roedd yn Siberia ac wedi lledu ar draws Ewrop i gyrraedd
gwlad y Basg tua 32,000 blwyddyn yn ôl a Chymru rhyw
30,000 blwyddyn yn ôl) fel y gwyddom oddi wrth sgerbwd
Pen-y-fai (sydd wedi ei gladdu mewn ocr coch yn yr un dull
â sgerbwd Llyn Mungo yn Awstralia).
Sut rai oedd ein cyndadau - helwyr oes y Cerrig? Mae’r
dystiolaeth archaeolegol yn dangos eu bod nhw, er yn byw
bywyd helwyr, yn bobl oedd mewn llawer ystyr yn ddiwylliedig
a datblygedig. Roedden nhw’n cerfio delwau bychain
ar asgwrn ac ifori, yn creu tlysau megis crogdlysau a gwddfdorchau,
yn medru arlunio ar furiau ogofau(er na ddarganfyddwyd dim
yng Nghymru hyd yma).
Roedd ganddyn nhw ddau fath o adeilad sef hendrefi ar gyfer
y gaeaf oedd wedi eu creu ar ddull teepee o grwyn a changau.
Roedden nhw’n cloddio tyllau ac yn gosod polion ynddyn
nhw wedi eu clymu gyda’i gilydd ar y brig gyda chortyn
wedi’i wneud o berfedd anifail. Gosodwyd crwyn cynnes
dros y polion a’u gwnïo yn eu lle. Ar eu gwaelod
gosodwyd cerrig i’w cadw yn eu lle. Ynddyn nhw roedd
lle tân canolog. Roedd pebyll ysgafn allan o grwyn
a changau ar gyfer yr haf pan fydden nhw’n teithio
a hela.
Helwyr-gasglwyr oedden nhw yn bwyta bwyd iach iawn sef hadau,
aeron, gwreiddiau, cnau, pysgod ac yn bennaf cig. Roedden
nhw wedi dysgu storio bwyd at y gaeaf. Roedden nhw’n
gweud offer ac arfau ar gyfer hela a physgota -roedd bwa
a saeth wedi datblygu ac mae’n gwbl bosibl fod y cyryglau
a welir ar afonydd Teifi a Thywi heddiw yn dyddio o’r
cyfnod hwn. Mae dadansoddiad o sgerbwd Pen-y-fai yn dangos
ei fod yn hoff iawn o fwyta pysgod - pysgod a bysgotwyd
o’r palaeo-Hafren.
Anghyflawn yw’r darlun a geir o’n cyndadau
cynnar oherwydd prinder tystiolaeth archaeolegol, ond y
mae un safle hynod bwysig yng Nghymru sy’n rhoi llawer
iawn o oleuni ar y cyfnod hwn sef ogof Pen-y-fai, Gwyr.
Mae’r dystiolaeth archaeolegol ym Mhen-y-fai yn dangos
fod pobl yma mor gynnar â 30,000 o flynyddoedd yn
ôl. Cafwyd arfau ac offer yn yr ogof sy’n dangos
bod yma bobl yn llunio arfau ac offer a thlysau, ond y prif
hynodrwydd oedd darganfod sgerbwd sef Sgerbwd Coch Pen-y-fai
sy’n dyddio o tua 26,000 o flynyddoedd yn ôl.
Sgerbwd dyn tua 25-30 mlwydd oed ydyw. Roedd tua 5 troedfedd
8 modfedd o daldra ac yn pwyso tua 11st. Mae’r sgerbwd
wedi ei liwio â lliw coch sef ocsid haearn. Yn ymyl
y corff cafwyd hyd hefyd i gregyn o’r môr wedi
eu tyllu i greu addurn, ffyn bychain ifori a darn o benglog
mamoth. Does dim amheuaeth fod yma gladdu defodol ac arwyddocad
crefyddol i’r cyfan.
Wrth gwrs tymhorol oedd presenoldeb y dyn cyntefig yng Nghymru
a Phrydain yn y cyfnod cynnar gan fod cyfnodau oer a dychweliad
yr iâ yn anffafriol iddo. Ond tua 12,00 o flynyddoedd
yn ôl dechreuodd presenoldeb parhaol y dyn cyntefig
ym Mhrydain ac yng Nghymru.
Erbyn y cyfnod Mesolithig roedd y tywydd wedi gwella a
choedwigoedd wedi datblygu dros rannau helaeth o’r
wlad. Nid yn unig hyn ond roedd lefel y môr yn codi’n
gynyddol gan arwain at wneud Prydain yn ynys. Daliai’r
dyn cyntefig i ffafrio’r aberoedd a’r arfordiroedd
ond hefyd gwelwyd ei bresenoldeb tymhorol ar yr ucheldiroedd
megis Brenig a Llyn Aled Isaf ar fynydd Hiraethog a Waun
Fign Felen ym Mannau Brycheiniog.
Mae’r cromosomau hefyd yn dweud llawer wrthon ni
am yr hyn a ddigwyddodd i’r Cymry cynnar wrth iddyn
nhw ddod i gysylltiad â dylanwadau o’r tu allan
yn y cyfnod a ddilynodd sef y cyfnod Neolithig. Fe gadwodd
y Cymry eu hunaniaeth ennynnol yn y cyfnod hwn sy’n
awgrymu cymathu dylanwadu newydd yn hytrach na chael eu
dileu ganddyn nhw. Dyma’r gyfnod y datblygodd pobloedd
arfordiroedd y gorllewin "ddiwylliant megalithig"
a oedd yn ôl Cunliffe "ymhlith y mwyaf datblygedig
a sefydlog yn Ewrop".
Yn ddiddorol iawn mae’r DNA mitocondraidd, sef yr
elfen enynnol fenywaidd, yn dangos bod ein cyndeidiau ni
y Cymry wedi ymdoddi gydag elfen Ewropeaidd ar ryw gyfnod
gan gymryd gwragedd o’r tu allan. Dywed Goldstein,
"Does dim raid dychmygu bod Cymru wedi ei goresgyn
gan haid o Amasoniaid na bod y Cymry wedi penderfynu cael
gwragedd o Ewrop. Yn fwy na thebyg roedd cyswllt rhwng y
Cymry â’r cyfandir a chael gwragedd oddi yno
yn rhan o’r cyswllt economaidd a diwylliannol. Hefyd
roedd y dynion yn fwy na thebyg yn aros heb symud o’u
pentref tra bod y gwragedd yn symud i
fyw gyda nhw."
Mabwysiadodd y Cymry iaith Geltaidd yn y cyfnod yma. Awgrymodd
yr ysgolhaig John Morris Jones fod cystrawen y Gymraeg yn
seiliedig ar gystrawen iaith hynafol arall - iaith yr oedd
y Gymraeg wedi ei disodli. Gellir tybio mai iaith debyg
i iaith y Basgiaid fyddai hen iaith wreiddiol y Cymry.
Mae’r cromosomau nid yn unig yn adrodd ein hanes cynharaf
ond hefyd yn rhoi darlun i ni o’r hyn a ddigwyddodd
yn y cyfnod wedi cilio o’r Rhufeiniaid o Brydain.
Awgryma tystiolaeth y genynnau bod math o lanhau ethnig
wedi digwydd gyda rhwng 50% a 100% o boblogaeth wreiddiol
Prydain wedi eu lladd neu eu dadleoli gyda Chlawdd Offa
yn gweithredu fel "rhagfur genynnol" yn amddiffyn
y Cymry rhag dinistr llwyr.
Mae ysgolheigion o Ganolfan Anthropoleg Genynnol Prifysgol
Llundain wedi cymharu dynion o Brydain gyda dynion o’r
Iseldiroedd sef tarddiad tebygol y Sacsoniaid. Y canlyniad
oedd darganfod bod cyfansoddiad genynnol y Saeson ‘run
fath â’r dynion o’r Iseldiroedd ond roedd
cyfansoddiad genynnol y Cymry yn dra gwahanol.
Dewisodd yr ymchwilwyr saith tre sy’n cael eu henwi
yn Llyfr Doomesday ac astudio 3,123 o wirfoddolwyr yr oedd
eu tad-cu ar ochr eu tad wedi dod o’r ardal honno.
Ar sail hyn mae’r arbenigwyr yn awgrymu bod yna oresgyniad
anferth o boblogaeth Eingl-Sacsonaidd wedi bod a ddinistriodd
y boblogaeth frodrol yn Lloegr yn llwyr, ond i’r Cymry
oroesi’r dinistr.
Yn ôl Dr Mark Thomas o Goleg Prifysgol Llundain "Mae’n
ymddangos bod Lloegr wedi ei chreu gan ddigwyddiad glanhau
ethnig gan bobl yn croesi o’r cyfandir ar ôl
i’r Rhufeiniaid adael." Pan adawodd y Rhufeiniaid
aeth y Brythoniaid yn ôl i’r hen fryngaerau.
Ond mae’n ymddangos bod llawer o’r boblogaeth
Frythonig erioed wedi gadael eu bryngaerau. Roedd rhai o’r
bryngaerau mwyaf gyda chymaint â 500 annedd o fewn
eu cylch - poblogaeth yn cyfateb i bentref bach heddiw.
Nid lleoedd bach oedd y tai yn y bryngaerau hyn - roedd
rhai ohonyn nhw tua’r un maint â byngalo dwy
stafell wely. Wrth gwrs roedd coedwigoedd yn dal i fod yn
drwch ar hyd llawer o’r dyffrynnoedd. Ond fe ddaeth
y mewnlifiad estron o’r cyfandir gyda gwell arfau
ac mewn niferoedd mawr.
Cred y Cymry erioed yw eu bod nhw wedi cael eu gwthio allan
o’u tiroedd ac i’r gorllewin gan fewnlifiad
estron a hynny drwy laddfa ac erledigaeth. Meddai Wade Evans:
"Credaf y gellir mynegi’r syniad arferol heddiw
am darddiad y Cymry fel a
ganlyn. Meddiannai’r Brythoniaid cynnar ynys Prydain
gyfan. Fe’u concrwyd gan y Rhufeiniaid. Dychwelodd
gwyr Rhufain i’w gwlad. Yna glaniodd y Saeson ac ymlid
yr hen Frythoniaid o Loegr i Gymru. Llithrodd glyn ar ôl
glyn, a mynydd ar ôl mynydd o afael yr hen drigolion
a beunydd y gwthiwyd hwy’n nes i Fôr Iwerddon."
Dyna’n wir y darlun a geir gan haneswyr cynnar megis
awdur De excidio Britanniae (Coll Prydain). A Beda wedyn
yn dweud yn bendant mai dros fôr y daeth y Sacsoniaid
"anrheithio wyneb bron yr holl ynys ddadfeiliedig o
fôr y dwyrain i’r gorllewinfor." Mae Cronigl
Galaidd (Cronigl 452) yn sôn am 442-3 AD fel hyn:
Brittaniae usque ad hoc tempus variis cladibus eventibusque
la(cera)tae in dicionem Saxonum rediguntur. ("Darostyngwyd
dan reolaeth y Saeson y Brythoniaid sydd hyd yn hyn yn rhwygedig
gan amryw drychinebau a digwyddiadau eraill".)
Mae cofnod y mynach Beda o’r Eingl yn erlid y Brythoniaid
yn greulon "exterminating or enslaving the inhabitants,
exorting tribute and annexing their lands for the English"
yn ddarlun sy’n cael ei ategu gan dystiolaeth y farddoniaeth
Gymraeg gynharaf. Gan nad oes gofnodion na thystiolaeth
ddibynadwy o’r Oesoedd Tywyll am hanes y Cymry rhaid
troi at yr unig dystiolaeth arall sydd ar gael sef tystiolaeth
ein llên i weld a yw’n cefnogi tystiolaeth y
genynnau.
Un o’r cerddi cynharaf yn y Gymraeg, cerdd a ysgrifennwyd
yn yr Hen Ogledd, sef Gogledd Lloegr a de’r Alban
yn y chweched ganrif, yw cerdd Taliesin Brwydr Argoed Llwyfein.
Darlun o bobl yn cael eu gyrru o’u tai a’u tiroedd
gan estroniaid o’r dwyrain oedd yn llawer trech na
nhw sydd yma. Mae cerdd ddramatig Taliesin yn cyfleu argyfwng
eithaf y Cymry a’u gwrthodiad i roi gwystlon i’r
gelyn.
Atorelwis Fflamddwyn fawr drybestawd
(Fe waeddodd Fflamddwyn fawr ei falchder)
A doddynt fy ngwystlon, a ñnt barod?
(A ddaeth fy ngwystlon, ydyn nhw’n barod?)
Pobl yn amddifyn eu tiroedd rhag ymosodiad allanol gan
elyn oedd yn llawer mwy niferus a chryfach na nhw a ddarlunir
yn y gerdd. Mae’n rhaid casglu’r gwyr o lawer
ardal ar frys i geisio creu byddin a fedr wrthsefyll y gelyn.
Goddau a Rheged i ymddullu
(Goddau a Rheged yn ymgasglu’n rhengoedd)
Dyfwy, o Argoed hyd Arfynydd
(Dyfwy o Argoed hyd at Arfynydd)
ni cheffynt eirios hyd yr un dydd.
(Ni chaent saib am hyd un dydd.)
Daw Fflamddwyn a’i fyddinoedd i ofyn yn haerllug
am wystlon oddi wrth y
Cymry.
Atorelwis Fflamddwyn fawr drybestawd
(Gwaeddodd Fflamddwyn fawr ei fost)
"A ddoddynt fyng ngwystlon, a ynt barawd?
(A ddaeth fy ngwystlon, a ydynt barod")
Ateb Owain ab Urien ar ran ei bobl yw bod yn well ganddyn
nhw farw nag ildio eu rhai annwyl i’r gelyn.
Ys atebwys Owain dwyrain ffosawd
(Iddo ef atebodd Owain, trallod y dwyrain)
Nid doddynt, nid ydynt, nid ynt barawd
(Ni ddaethant nid ydynt nid ynt barod)
a chenau Coel byddai gymwyawg
(a disgynnydd o Coel, byddai’n filwr gofidus)
lew cyn ys talai o wystl nebawd."
(cyn y talai wystl i neb.)
Mae cerdd Aneurin Y Gododdin hefyd yn darlunio pobl mewn
argyfwng yn mabwysiadu tactegau eithafol. Ceisiodd Mynyddog
Mwynfawr greu byddin elite o filwyr wedi’u crynhoi
o bob rhan o Brydain i geisio adennill Catraeth.
Y darlun gorau o’r holl ladd a’r colli tiroedd
a ddioddefodd y Cymry yn yr Oesoedd Tywyll yw’r ddau
gylch o ganu Llywarch Hen a Heledd. Mae Canu Llywarch Hen
a Heledd yn ddarlun o’r glanhau ethnig a ddioddefodd
y Cymry yn yr Oesoedd Tywyll wrth i England gael ei ffurfio.
Stafell Gynddylan ys tywyll heno
Heb dân, heb wely,
Wylaf wers, tawaf wedy.
Mae’r gair "Celtaidd" bellach yn gwbl annigonol
i ddisgrifio ein cyndeidiau cynnar a’u gwareiddiad
brodorol cynhenid. Er mabwysiadu iaith Geltaidd roedd ein
pobl yn rhan o wareiddiad sefydlog a gwreiddiol ac yn dwf
organig ers Oes y Cerrig ac yn ganlyniad haen ar ôl
haen o gymathiadau a dylanwadau.
Pa eiriau mwy addas i ddisgrifio gwareiddiad ein cyndadau
na geiriau E.G. Bowen, "Roedd y bobloedd a’r
diwylliannau oedd yn cyrraedd pellafion gorllewinol Ewrop
ar unrhyw adeg yn gwneud hynny ar raddfa fechan. Byddai’r
diwylliannau mewnlifol yn y ffordd yma yn cael eu cymathu
â’r rhai oedd yno’n barod. Gwir y galwyd
y tiroedd gorllewinol yma yn "Diroedd parhad Traddodiad."
Gallwn ymfalchïo fod gwyddor Geneteg wedi rhoi i ni
ddarlun clir a chywir i ni o’n hanes cynnar ond nid
yn y gwaed nac yn y genynnau y mae hanfod ein hunaniaeth.
Ni fu ein cenedlaetholdeb ni’r Cymry erioed yn hiliol
nac yn rhoi unrhyw bwyslais ar burdeb gwaed a boed iddo
barhau felly.
Lleiafrif erlidiedig fu’r Cymry ar hyd yr oesoedd
ac arddelwn ein perthynas gyda’n brodyr gwaed gorthrymedig
yn America a Siberia bell. Creodd ein pobl, drwy filoedd
o flynyddoedd o gyd-fyw heddychlon ar y tir hwn,werthoedd
a ffordd o fyw arbennig - y "Ty llwyth nid o waith
llaw" chwedl Waldo. Prif nodwedd ein gwareiddiad fu
ei bwyslais ar bethau ysbrydol a hyn yw ein harbenigrwydd
nid unrhyw burdeb hiliol. Oni bai am gymathiad cyson o uchel
wareiddiadau eraill ar hyd y canrifoedd ni fyddai i ni,
y Cymry, ddim parhad nac arbenigrwydd.
Y wyrth yw ein bod ni yma o hyd er gwaethaf y canrifoedd
o erlid a gormes a llawenhawn fod y cymathu a gyfoethogodd
ein gwareiddiad dros y canrifoedd yn parhau. Unod ysbrydol
yw ein hundod ni a mawr fu cyfraniad rhai nad oedd o’r
un gwaedoliaeth a ni - pobl megis Phyllis Kinney, Robina
Elis Gruffydd, Steve Eaves, Phillipa Gibson, Lewis Smith
a Helga Martin a llawer arall a roddodd o gyfoeth eu doniau
yn ein cyfnod ni i sicrhau parhad y gwerthoedd sy’n
gostreledig yn y diwylliant Cymraeg.
Nid yn y gwaed nac mewn hil y mae ein balchder ond yn ein
hen, hen wreiddiau a’r gwarineb a ddeilliodd o feithrin
y diwylliant cyfoethog a flodeuodd o’r gwreiddiau
hynny.
|