Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Mai 2015

Moc Morgan wedi marw

Prin fyddai’r pysgotwyr allai ddweud eu bod wedi pysgota gyda chyn-Arlwydd America. Gallai Moc Morgan a fu farw ddechrau’r wythnos yn 87 oed hawlio’r clod hwnnw wedi iddo fod yn pysgota gyda Jimmy Carter pan oedd yn ymweld â Chymru ddiwedd wythdegau’r ganrif ddiwethaf.

Yn ddiamau roedd y gŵr a hanai o Dregaron yn ddyn gweithgar. Pan oedd yn brifathro Ysgol Gynradd Pontrhydfendigaid dechreuodd ysgrifennu colofn bysgota i’r papur hwn yn chwedegau’r ganrif ddiwethaf. Tua’r un cyfnod cafodd wahoddiad i gyfrannu eitemau i’r rhaglen deledu Heddiw a byth ers hynny roedd yn cyfrannu i raglenni teledu a radio yn sôn am ei hoff bwnc, pysgota.

Yn wreiddiol o Ddoldre, Tregaron, roedd yn un o bump o blant ac fel y mwyafrif o ieuenctid yr ardal cafodd ei drwytho mewn “sbort cefn gwlad” – hela a saethu yn eu plith - o oedran cynnar iawn. Yn wir, cymaint oedd poblogrwydd pysgota yn Noldre, cynhyrchodd y gymuned fach o 30 o dai chwech o bysgotwyr rhyngwladol yng nghyfnod Moc Morgan yn unig.

Yn ei hunangofiant ‘Byd Moc’ dywed fod blynyddoedd cynnar bywyd yn bwysig i bawb. “Mi fues i’n lwcus i gael fy magu yn Noldre – roedd yn lle bendigedig i rywun oedd â chariad at sbort cefn gwlad, ac yn gyfnod braf iawn, er bod pethau’n galed ar adegau â ninnau’n deulu eitha’ mawr.”

Yn ystod ei fywyd lliwgar bu Moc yn was bach ar un o ffermydd mynydd Tregaron, bu’n fyfyriwr, yn filwr, yn athro yn Ysgol Gynradd Tregaron cyn mynd yn brifathro, yn bêl-droediwr, yn gynhyrchydd dramâu, yn gynghorwr Sir, arweinydd eisteddfod ac yn gyflwynydd radio a theledu. Ond fel pysgotwr o fri y bydd yn cael ei gofio’n fwy na dim. Derbyniodd OBE yn 1991 am ei gyfraniad i’r gamp.

Arweiniodd dîm pysgota cenedlaethol Cymru i’w buddugoliaeth gyntaf erioed mewn cystadleuaeth ryngwladol. Yn ystod ei yrfa bu’n dal pysgod mewn dros hanner cant o wahanol wledydd, o Tasmania i British Columbia, ac o Seland Newydd i Sweden.

“Roedd tîm pysgota cenedlaethol Cymru wedi bod yn cystadlu’n rhyngwladol ers 1932. Ro’n i’n gapten ar y tîm am y tro cyntaf ym 1967, a dyma’r flwyddyn gyntaf iddyn nhw ennill pencampwriaeth ryngwladol, ac rwy’n falch iawn o gael dweud i ni faeddu’r Saeson!” meddai Moc yn ei lyfr.

Ychwanegodd: “Fe fues i’n reolwr ar y gymdeithas bysgota genedlaethol am ddeugain mlynedd, ac yn y cyfnod yma fe ddechreuais i dîm pysgota merched, tîm pysgota ieuenctid, a thîm pysgota anabl, ac mae’r rhain yn dal i fynd heddiw. Roedd pobl yn codi stŵr ar y pryd gan fy mod i’n annog merched i bysgota, ond ro’n i’n dipyn o arloeswr yr adeg honno, ac yn awyddus i bawb fwynhau’r grefft.”

Ar wahân i’r hunangofiant roedd wedi cyhoeddi llyfrau Saesneg – ‘Trout and Salmon Flies of Wales’, ‘Fly Patterns for the Rivers and Lakes of Wales’ a ‘Successful Sea Trout Angling’ ar y cyd â Graeme Harris.

 


 


 


 

Rhannu |