Peth'ma

Pa werth? (3.25)

Mynd yn ôl (3.19)

 

Recordiwyd y sengl yma yn Stiwdio'r Bwthyn gyda Richard Morris, Mawrth 1985

Pa werth?

Pa werth yw delfryd ar y clwt pan fo'r esgid yn gwasgu'n dynn.

A'i gwell yw gwarth y lifrau gwyrdd na rhygnu byw y dyddie hyn?

Bedydd ffrwydrol oedd dy fedydd di yng ngerddi gwaedlyd yr ynys werdd

Ond pan ddaeth angau i chwarae mig fe roddwyd angerdd yn y gerdd

Torri enw yn inc dy waed gobaith ffwl am ennill bri

Ni welaist trwy dy lygaid pwl mai dim ond unffordd oedd dy docyn di

Ond er bod dagrau drosot ti nid oes mawredd yn yr hedd

Dim ond anfarwoldeb ffug mae'r grym mewn croes uwchben dy fedd

Llion Jones      

Euros Jones : Canwr
Emlyn Davies : Gitar Rhythm
Gareth Parry : Gitar Flaen
Dyfrig Ellis : Drymiau
Dewi Gwyn : Bâs

Mynegai