Pa werth? (3.25) |
Mynd yn ôl (3.19) |
Recordiwyd y sengl yma yn Stiwdio'r Bwthyn gyda Richard Morris, Mawrth 1985
Pa werth? Pa werth yw delfryd ar y clwt pan fo'r esgid yn gwasgu'n dynn. A'i gwell yw gwarth y lifrau gwyrdd na rhygnu byw y dyddie hyn? Bedydd ffrwydrol oedd dy fedydd di yng ngerddi gwaedlyd yr ynys werdd Ond pan ddaeth angau i chwarae mig fe roddwyd angerdd yn y gerdd Torri enw yn inc dy waed gobaith ffwl am ennill bri Ni welaist trwy dy lygaid pwl mai dim ond unffordd oedd dy docyn di Ond er bod dagrau drosot ti nid oes mawredd yn yr hedd Dim ond anfarwoldeb ffug mae'r grym mewn croes uwchben dy fedd Llion Jones |
Euros Jones : Canwr |
Emlyn Davies : Gitar Rhythm | |
Gareth Parry : Gitar Flaen | |
Dyfrig Ellis : Drymiau | |
Dewi Gwyn : Bâs |